Part of the debate – Senedd Cymru am 5:11 pm ar 15 Chwefror 2022.
Wel, nid soapbox yw'r Senedd yma ond deddfwrfa, deddfwrfa mae pobl ein gwlad wedi pleidleisio ar ei chyfer. Yn 2011, pan wnaeth pobl Cymru bleidleisio gyda mwyafrif enfawr o blaid cyfreithiau cynradd yn y Senedd yma, doedd dim syniad gyda nhw y byddem ni yn rhoi hawl i Lywodraeth erchyll y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd i dynnu'r grymoedd yna i ffwrdd. Dyna beth sy'n mynd i allu digwydd gyda'r Bil yna, a dyna hefyd sy'n digwydd gyda'r Professional Qualifications Bill.