11. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:04 pm ar 15 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 5:04, 15 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch eto, Llywydd. Mae'n wych croesawu cyn Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn ei rôl bresennol yma heddiw. Rwy’n nodi’r sylwadau y mae wedi'u gwneud wrth agor nad yw'r Llywodraeth yn bwriadu rhoi cydsyniad i'r memorandwm hwn, ond mae rhai o'r sylwadau yr wyf i am eu gwneud yn berthnasol rhag ofn y bydd y sefyllfa honno'n newid wedyn.

Ein hadroddiad ar femorandwm Rhif 2 ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol oedd yr ugeinfed adroddiad y mae ein pwyllgor wedi'i gynhyrchu ar femoranda cydsyniad, ac roedd yn dilyn ein hadroddiad ar y memorandwm gwreiddiol, a gyhoeddwyd ym mis Medi, sef ail adroddiad LCM ein pwyllgor. Hyd yn oed ar y cam cynnar iawn hwnnw, fe wnaethom nodi fod yr hyn yr oeddem ni’n eu hystyried yn rhai tueddiadau anffodus yn dod i'r amlwg, a byddaf yn troi at y rhain mewn munud. Nid yw'n rhoi unrhyw lawenydd i ni sefyll yma eto yn dweud ein bod yn gweld y tueddiadau hyn yn parhau. Mae'r signalau sy'n peri pryder yno.

Fel y soniais yn gynharach y prynhawn yma, mae Biliau'r DU yn cael eu cyflwyno i ni sy'n cynnwys, fel mae'r Gweinidog a'r Cwnsler Cyffredinol newydd ei ddweud, pwerau cydredol—pwerau y gall Gweinidogion Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol eu harfer mewn perthynas â Chymru. Ac er ein bod yn deall bod y Gweinidog, yn wir, fel y dywedodd heddiw, yr un mor bryderus am bwerau o'r fath, mae ein hadroddiad diweddaraf ar y Bil unwaith eto'n tynnu sylw at y ffaith mai'r dull a ffefrir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer datrys y broblem hon yw rhoi rôl gydsynio i Weinidogion Cymru pan fydd rheoliadau o'r fath i'w gwneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Ond, Llywydd, byddem ni’n dadlau bod hyn, unwaith eto, yn osgoi rôl y Senedd fel y ddeddfwrfa yng Nghymru. Felly, nid ydym ni, fel Aelodau'r Senedd, yn cael cyflawni rôl o ran effeithio'n uniongyrchol ar fanylion deddfwriaeth sylfaenol ar faterion datganoledig, a hefyd, yn dilyn hynny, wrth gyflawni ein rôl wrth graffu ar is-ddeddfwriaeth a fydd yn dod yn gyfraith yng Nghymru.

Tuedd ychwanegol a phryderus yw effaith gyfunol pwerau cydredol a phwerau Harri VIII a fyddai'n galluogi Gweinidogion Llywodraeth y DU i ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006—mae thema gyffredin yma y prynhawn yma—ein prif statud datganoli, heb gydsyniad y Senedd hon. Rwy'n swnio fel tôn gron, ond bydd y dôn hon yn parhau i chwarae cyn belled â bod hyn yn dal i godi. Cytunodd y Gweinidog i'n hargymhelliad yn ein hadroddiad cyntaf ac yn wir mae wedi gofyn am welliant i'r Bil i atal Deddf 2006 rhag cael ei diwygio drwy ddulliau o'r fath. Yn ein hail adroddiad, gofynnwyd i'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau y mae wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ar y mater hwn, ac rydym ni’n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am ymateb i'n hadroddiad diweddaraf ddiwedd yr wythnos diwethaf.

Ar y mater hwn, mae'n ymddangos bod y Gweinidog wedi mynd ar drywydd trafodaethau helaeth gyda Llywodraeth y DU, ac mae hynny wir i'w groesawu. Mae’r ffaith, felly, nad yw'r newidiadau angenrheidiol hynny i'r Bil wedi'u gwneud hyd yn oed yn fwy anffodus. Fel y mae pethau, gallai pwerau gwneud rheoliadau yn y Bil hwn, os cânt eu deddfu ac wedi hynny, gael eu defnyddio, fel y dywedais i, i ddiwygio Deddf 2006, ac ni allwn gymryd hyn fel chwarae bach. Felly, penderfynodd y pwyllgor ddefnyddio'r memorandwm hwn, Llywydd, a'r Bil hwn fel enghraifft pan wnaethom ysgrifennu'n ddiweddar at y Gwir Anrhydeddus Michael Gove AS yn rhinwedd ei swydd fel y Gweinidog Cysylltiadau Rhynglywodraethol. Fe wnaethom dynnu sylw at amrywiaeth o faterion cyffredin, fel y rhai yr wyf i newydd eu hamlinellu, a gofyn iddo, o ystyried ei gyfrifoldebau yn y maes hwn, roi ystyriaeth o safbwynt Llywodraeth y DU i'r materion yr oeddem ni’n eu codi. Rydym ni’n cymryd hyn o ddifrif iawn.

Cyn cloi, fe wnaf sôn yn fyr am yr ail argymhelliad yn ein hadroddiad ar femorandwm Rhif 2. Yn y memorandwm gwreiddiol, tynnodd y Gweinidog sylw at gyfyngiad yn yr hyn sydd bellach yn gymal 16 o'r Bil a ddisgrifiodd fel 'unigryw i bwerau Gweinidogion Cymru'. Mae'r cymal hwn i bob pwrpas yn mewnforio cyfyngiadau a nodir yn Neddf 2006 sy'n berthnasol i wneud deddfwriaeth sylfaenol gan y Senedd hon i broses gwneud rheoliadau Gweinidogion Cymru. Byddem yn dweud bod hyn nid yn unig yn bŵer anarferol ond annymunol i'w gymryd. Mae'r Gweinidog o'r farn bod sicrwydd a roddwyd gan Lywodraeth y DU yn golygu bod rhai pryderon wedi cael sylw. Fodd bynnag, ni ddarperir unrhyw wybodaeth ym memorandwm Rhif 2 ynghylch natur y sicrwydd hwn. Hyd y gwyddom ni, nid oes unrhyw newidiadau wedi'u gwneud i wyneb y Bil. O'r herwydd, ac wrth i hyn fynd rhagddo, byddem yn gofyn i'r manylion hynny gael eu darparu.

Yn ei ymateb i'n hadroddiad, nododd y Gweinidog hefyd fod pryderon bod Llywodraeth y DU wedi tybio y dylai Biliau'r DU sy'n rhoi pwerau i Weinidogion Cymru gael eu drafftio bob amser mewn ffordd sy'n sicrhau bod cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd a chymhwysedd Gweithredol Gweinidogion Cymru yn cyd-fynd, ac, o gofio bod Llywodraeth y DU bellach yn cytuno bod achosion lle nad yw cymwyseddau o'r fath yn cyd-fynd, mae'r Gweinidog yn fodlon â'r canlyniad. Ond, Gweinidog, rydyn ni’n dal yn aneglur ynghylch sut nad yw'r cymal yn cynrychioli cyfyngiad ar bwerau Gweinidogion Cymru. Rwyf i’n ymwybodol eich bod wedi rhannu gohebiaeth berthnasol ar hyn gyda Phwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ac, er y byddwn yn eich croesawu i ddweud mwy y prynhawn yma, efallai y gallwn i ofyn i chi ymrwymo i roi esboniad ysgrifenedig pellach i'n pwyllgor cyn gynted â phosibl. Diolch, Llywydd.