Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 15 Chwefror 2022.
Diolch, Llywydd. Cynigiaf y cynnig heddiw, y cynnig cydsyniad ar y fframwaith ar gyfer pennu oedran ym Mil Cenedligrwydd a Ffiniau y DU. Byddaf yn galw ar Aelodau i atal cydsyniad ar y cymalau ar y fframwaith ar gyfer pennu oedran yn y Bil hwn. Rwyf yn ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, am ystyried y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ac am eu hadroddiadau diweddar. Sylwaf fod y rhan fwyaf o aelodau'r pwyllgor yn cytuno â'r sefyllfa yr wyf yn ei chyflwyno i'r Senedd heddiw.
Bydd Bil Cenedligrwydd a Ffiniau Llywodraeth y DU yn tanseilio yn sylfaenol ein gweledigaeth cenedl noddfa, y mae'r Senedd wedi'i chymeradwyo. Ac rwy'n cytuno â'r Prif Weinidog: mae'r Bil yn drasiedi ar y gweill. Gwnaeth y Cwnsler Cyffredinol a minnau ddatganiad ar 6 Rhagfyr ar y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau. Yn y datganiad hwnnw, fe wnaethom ddweud,
'Credwn y bydd llawer o’r darpariaethau yn y Bil yn torri confensiynau rhyngwladol ac egwyddorion cyfiawnder, gan osod amodau eithafol ac anorchfygol yn eu hanfod ar bobl sy’n troi atom i’w diogelu.'
Darpariaethau'r Bil yw'r gwrthwyneb i'r hyn sydd ei angen i gyflawni'r nod a nodwyd o wneud mewnfudo'n fwy diogel ac yn fwy effeithiol, ac mae atebion tosturiol ac effeithiol. Rydym wedi cyflwyno'r rhain i Lywodraeth y DU. Rydym wedi codi pryderon dro ar ôl tro gyda Llywodraeth y DU am effaith y Bil ar Gymru. Rydym wedi gofyn am fanylion y cymalau sy'n ymwneud ag asesu oedran o fis Mai ymlaen, heb lwyddiant. Nid ydyn nhw wedi rhoi unrhyw sicrwydd boddhaol, nid oes unrhyw welliannau wedi'u cyflwyno i fynd i'r afael â'r pryderon y mae Llywodraeth Cymru wedi'u codi.
Felly, Llywydd, o ran y Bil a'r darpariaethau a gwmpesir gan y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol, mae'n cynnwys y posibilrwydd o gyfeirio asesiad oedran at fwrdd asesu oedran cenedlaethol newydd yn y DU, i'w gwneud yn ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol ddarparu tystiolaeth lle mae'r awdurdod lleol yn penderfynu cynnal yr asesiad eu hunan, a chreu dull o asesu oedran sy'n cyferbynnu'n uniongyrchol â'n dull ni yng Nghymru ar hyn o bryd ym mhecyn cymorth asesu oedran Llywodraeth Cymru, gan gynnwys defnyddio dulliau gwyddonol, fel y'u gelwir, o asesu oedran ceiswyr lloches sy'n blant.
Nid yw'r Bil yn cydnabod cyd-destun datganoledig Cymru ac mae'n rhoi pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau sy'n gosod swyddogaethau ar awdurdodau datganoledig Cymru. Mae'r arfer o asesu oedran plant ar eu pen eu hunain sy'n ceisio lloches yn cael ei wneud yn bennaf i bennu mynediad i wasanaethau cymdeithasol, gofal a chymorth. Ac mae awdurdodau lleol yn cynnal yr asesiadau hyn i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn cael ei adael yn agored i niwed pan fydd wedi'i wahanu oddi wrth ei rieni neu ofalwyr. Yng Nghymru, rydym ni'n trin pob plentyn ar ei ben ei hun sy'n ceisio lloches fel plentyn sy'n derbyn gofal, ac mae hyn wedi'i nodi yng nghyfraith Cymru o dan Ran 6 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae ein safbwynt polisi yn deillio o'n hymrwymiad i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn i weithredu er lles pob plentyn.
Bydd gan awdurdodau lleol yr her o lywio dau ddull statudol sy'n groes i'w gilydd o asesu oedran. Yn y pen draw, gall y Bil hwn arwain at dribiwnlys yn gwneud penderfyniadau o blaid penderfyniadau asesu oedran yr Ysgrifennydd Gwladol, a fydd yn tresmasu ar benderfyniadau asesu oedran awdurdodau lleol Cymru.
Ac nid wyf yn cytuno y dylai Llywodraeth y DU drwy'r Bil hwn allu tanseilio cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd drwy ei gwneud yn ofynnol i atgyfeirio plant sy'n destun dadl ar oedran at wneuthurwyr penderfyniadau eraill a benodir gan y Swyddfa Gartref neu orfodi tystiolaeth neu ddulliau penodol o asesu oedran nad ydynt yn cael eu hystyried yn arfer da yng Nghymru. Felly, gofynnaf i'r Aelodau atal eu caniatâd i'r darpariaethau niweidiol iawn hyn yn y Bil hwn heddiw. Diolch.