– Senedd Cymru am 5:20 pm ar 15 Chwefror 2022.
Eitem 12 sydd nesaf. Hwn yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau. Dwi'n galw ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i wneud y cynnig yma—Jane Hutt.
Diolch, Llywydd. Cynigiaf y cynnig heddiw, y cynnig cydsyniad ar y fframwaith ar gyfer pennu oedran ym Mil Cenedligrwydd a Ffiniau y DU. Byddaf yn galw ar Aelodau i atal cydsyniad ar y cymalau ar y fframwaith ar gyfer pennu oedran yn y Bil hwn. Rwyf yn ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, am ystyried y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ac am eu hadroddiadau diweddar. Sylwaf fod y rhan fwyaf o aelodau'r pwyllgor yn cytuno â'r sefyllfa yr wyf yn ei chyflwyno i'r Senedd heddiw.
Bydd Bil Cenedligrwydd a Ffiniau Llywodraeth y DU yn tanseilio yn sylfaenol ein gweledigaeth cenedl noddfa, y mae'r Senedd wedi'i chymeradwyo. Ac rwy'n cytuno â'r Prif Weinidog: mae'r Bil yn drasiedi ar y gweill. Gwnaeth y Cwnsler Cyffredinol a minnau ddatganiad ar 6 Rhagfyr ar y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau. Yn y datganiad hwnnw, fe wnaethom ddweud,
'Credwn y bydd llawer o’r darpariaethau yn y Bil yn torri confensiynau rhyngwladol ac egwyddorion cyfiawnder, gan osod amodau eithafol ac anorchfygol yn eu hanfod ar bobl sy’n troi atom i’w diogelu.'
Darpariaethau'r Bil yw'r gwrthwyneb i'r hyn sydd ei angen i gyflawni'r nod a nodwyd o wneud mewnfudo'n fwy diogel ac yn fwy effeithiol, ac mae atebion tosturiol ac effeithiol. Rydym wedi cyflwyno'r rhain i Lywodraeth y DU. Rydym wedi codi pryderon dro ar ôl tro gyda Llywodraeth y DU am effaith y Bil ar Gymru. Rydym wedi gofyn am fanylion y cymalau sy'n ymwneud ag asesu oedran o fis Mai ymlaen, heb lwyddiant. Nid ydyn nhw wedi rhoi unrhyw sicrwydd boddhaol, nid oes unrhyw welliannau wedi'u cyflwyno i fynd i'r afael â'r pryderon y mae Llywodraeth Cymru wedi'u codi.
Felly, Llywydd, o ran y Bil a'r darpariaethau a gwmpesir gan y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol, mae'n cynnwys y posibilrwydd o gyfeirio asesiad oedran at fwrdd asesu oedran cenedlaethol newydd yn y DU, i'w gwneud yn ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol ddarparu tystiolaeth lle mae'r awdurdod lleol yn penderfynu cynnal yr asesiad eu hunan, a chreu dull o asesu oedran sy'n cyferbynnu'n uniongyrchol â'n dull ni yng Nghymru ar hyn o bryd ym mhecyn cymorth asesu oedran Llywodraeth Cymru, gan gynnwys defnyddio dulliau gwyddonol, fel y'u gelwir, o asesu oedran ceiswyr lloches sy'n blant.
Nid yw'r Bil yn cydnabod cyd-destun datganoledig Cymru ac mae'n rhoi pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau sy'n gosod swyddogaethau ar awdurdodau datganoledig Cymru. Mae'r arfer o asesu oedran plant ar eu pen eu hunain sy'n ceisio lloches yn cael ei wneud yn bennaf i bennu mynediad i wasanaethau cymdeithasol, gofal a chymorth. Ac mae awdurdodau lleol yn cynnal yr asesiadau hyn i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn cael ei adael yn agored i niwed pan fydd wedi'i wahanu oddi wrth ei rieni neu ofalwyr. Yng Nghymru, rydym ni'n trin pob plentyn ar ei ben ei hun sy'n ceisio lloches fel plentyn sy'n derbyn gofal, ac mae hyn wedi'i nodi yng nghyfraith Cymru o dan Ran 6 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae ein safbwynt polisi yn deillio o'n hymrwymiad i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn i weithredu er lles pob plentyn.
Bydd gan awdurdodau lleol yr her o lywio dau ddull statudol sy'n groes i'w gilydd o asesu oedran. Yn y pen draw, gall y Bil hwn arwain at dribiwnlys yn gwneud penderfyniadau o blaid penderfyniadau asesu oedran yr Ysgrifennydd Gwladol, a fydd yn tresmasu ar benderfyniadau asesu oedran awdurdodau lleol Cymru.
Ac nid wyf yn cytuno y dylai Llywodraeth y DU drwy'r Bil hwn allu tanseilio cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd drwy ei gwneud yn ofynnol i atgyfeirio plant sy'n destun dadl ar oedran at wneuthurwyr penderfyniadau eraill a benodir gan y Swyddfa Gartref neu orfodi tystiolaeth neu ddulliau penodol o asesu oedran nad ydynt yn cael eu hystyried yn arfer da yng Nghymru. Felly, gofynnaf i'r Aelodau atal eu caniatâd i'r darpariaethau niweidiol iawn hyn yn y Bil hwn heddiw. Diolch.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Russell George.
Diolch, Llywydd. Rwy'n siarad heddiw yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac rwyf yn cyflwyno barn ei aelodau yn ei gyfanrwydd. A gaf i ddweud 'diolch' i'r Gweinidog am ymateb i'n hadroddiad, a gafodd ond ei osod heddiw, rwy'n credu? Ac rwy'n credu iddo gyrraedd fy mewnflwch dim ond 30 munud yn ôl.
Fel y mae'r Gweinidog wedi ei ddweud ei hun, mae'r Bil Cenedligrwydd a Ffiniau yn Fil mawr a chymhleth; mae iddo oblygiadau i iechyd a gofal cymdeithasol ac i hawliau a diogelu plant, rydym ni'n falch, felly, o allu cydlynu ein tystiolaeth gyda'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg er mwyn lleihau dyblygu, ac rydym hefyd yn ddiolchgar i randdeiliaid a oedd yn gallu rhannu eu barn gyda ni o fewn amserlen dynn iawn hefyd.
Er bod y rhan fwyaf o'r Bil yn ymdrin yn bennaf â materion sy'n ymwneud â mewnfudo, sydd y tu allan i gwmpas pwerau'r Senedd, mae cymalau 48, 49 a 51 i 55, sy'n ymwneud ag asesu oedran ceiswyr lloches, plant a phobl ifanc sy'n ceisio lloches, a chymal 80, pwerau i wneud darpariaethau canlyniadol, yn effeithio ar feysydd gofal cymdeithasol nad ydyn nhw wedi'u datganoli. Felly, daethom i'r casgliad bod angen cydsyniad deddfwriaethol y Senedd.
Ni ddarperir unrhyw wybodaeth am gostau ariannol y cymalau asesu oedran arfaethedig yn y Bil, ac felly gwnaethom argymell, pe bai'r Bil yn cael ei basio fel y'i drafftiwyd, fod Llywodraeth Cymru yn gofyn am sicrwydd gan Lywodraeth y DU y bydd unrhyw oblygiadau ariannol sy'n deillio o'r Bil yn cael eu talu gan Lywodraeth y DU yn unol â'r datganiad o bolisi ariannu.
Hefyd, byddem yn ddiolchgar am sicrwydd gan y Gweinidog y bydd cymorth iechyd meddwl a lles priodol ar gael i bobl yr effeithir arnyn nhw gan y defnydd o ddulliau gwyddonol o asesu oedran, pe bai dulliau o'r fath yn cael eu defnyddio yng Nghymru. Ac mae ein barn ar y darpariaethau sy'n ymwneud ag asesiadau oedran wedi'u nodi yn ein hadroddiad, ond byddwn yn canolbwyntio ar ddau gymal yn benodol. Cymal 49: ar hyn o bryd, mae adrannau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yn cynnal asesiadau oedran lle mae unrhyw amheuaeth ynghylch oedran person, ac felly mae'r penderfyniad ynghylch oedran yn cael ei wneud ar lefel ddatganoledig. Felly, mae'r Bil yn cynnig newid y broses hon i greu system ledled y DU, fel y soniwyd amdani. Mae cymal 49 yn darparu y gall awdurdod lleol gyfeirio person sy'n destun dadl o ran oedran at y person dynodedig i asesu ei oedran. Fel arall, gall yr awdurdod lleol gynnal asesiad oedran ei hun, neu os yw'r awdurdod yn fodlon bod y person yr oedran y maen nhw'n honni, gallan nhw hysbysu'r Ysgrifennydd Gwladol yn ysgrifenedig o hyn, ac mae'r cymal hwn hefyd yn galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol i wneud rheoliadau sy'n gosod swyddogaethau ar awdurdodau datganoledig Cymru.
Felly, clywsom nifer o bryderon am y ddarpariaeth, gan gynnwys y diffyg manylion yn y Bil ynghylch swyddogaeth, pŵer, cyfansoddiad ac annibyniaeth y person dynodedig, a sut y bydd y person dynodedig yn ymgysylltu â Chymru ac yn ystyried y meysydd hyn sydd wedi'u datganoli i Lywodraeth Cymru sy'n hanfodol i unrhyw broses asesu. Felly, ar ôl ystyried y dystiolaeth gan randdeiliaid, daethom i'r casgliad na ddylai'r Senedd gydsynio i gymal 49, a'r rheswm am hyn yw bod prosesau eisoes ar waith ar gyfer asesiadau oedran yng Nghymru y gallai cymal 49 eu tanseilio.
Ac mae cymal 51 yn rhoi'r pŵer i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau ynghylch dulliau gwyddonol ar gyfer asesu oedran. Mae hefyd yn caniatáu i'r sawl sy'n gwneud penderfyniadau wneud dehongliad negyddol o hygrededd person os yw'n gwrthod cael asesiad oedran gwyddonol heb reswm da. Felly, daethom i'r casgliad na ddylai'r Senedd gydsynio i gymal 51 ar y sail bod rhanddeiliaid fel y Coleg Nyrsio Brenhinol, Cymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol y Ffisigwyr wedi dweud wrthym nad oes tystiolaeth bod dulliau gwyddonol o asesu oedran yn effeithiol. Felly, nid ydym ychwaith wedi ein darbwyllo y gellir cyfiawnhau cynnal gweithdrefnau meddygol ymwthiol posibl ar blant a phobl ifanc a allai fod wedi cael eu trawmateiddio eisoes gan eu profiadau bywyd.
Cododd gweithwyr iechyd proffesiynol bryderon hefyd ynghylch a oedd cynnal asesiadau oedran yn gyson â'u moeseg broffesiynol o weithredu er lles gorau'r person. Felly, rydym yn nodi, yn ogystal â rhoi gweithwyr proffesiynol o'r fath mewn sefyllfa anodd efallai, fod rhai rhanddeiliaid wedi awgrymu y gallai fod goblygiadau i les gweithwyr iechyd proffesiynol eu hunain, yn ogystal ag effeithio ar eu gallu i feithrin ymddiriedaeth gyda'r person ifanc sydd angen cymorth. Nid oedd yn glir ychwaith i ba raddau y bydd yn ofynnol i gyrff GIG Cymru gymryd rhan yn y broses asesu oedran, ond gallai hyn roi cryn alw ar weithlu sydd eisoes wedi'i orlethu.
I gloi, Llywydd, credwn fod angen cydsyniad y Senedd ar gyfer cymalau 49, 51 i 55 ac 80, oherwydd eu bod yn gwneud darpariaethau o fewn cymhwysedd datganoledig y Senedd. Fodd bynnag, ar sail y dystiolaeth a gawsom, ni allai'r pwyllgor argymell y dylai'r Senedd roi ei chydsyniad. Diolch, Llywydd.
Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg nawr. Jayne Bryant.
Diolch, Llywydd. Fel y gŵyr yr Aelodau, ychydig iawn o amser a roddodd amserlen graffu'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol i bwyllgorau gasglu tystiolaeth. Ar 18 Ionawr, fe wnaethom ni, y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ysgrifennu ar y cyd at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ac at sefydliadau ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol plant, hawliau plant a ffoaduriaid a phlant sy'n ceisio lloches i ofyn am eu barn ar amrywiaeth o faterion sy'n berthnasol i'r Memorandwm. Roeddwn wedi pennu dyddiad cau ar gyfer ymateb o ddim ond 10 diwrnod yn ddiweddarach i'n galluogi i ystyried eu barn yn ystod ein cyfarfod ddydd Iau diwethaf. Hoffwn gofnodi fy niolch i'r 13 sefydliad a ymatebodd i'n hymgynghoriad o fewn amserlen mor dynn, ac i'r Gweinidog am y wybodaeth ychwanegol werthfawr a roddodd i ni.
Ystyriwyd cymalau'r Bil Cenedligrwydd a Ffiniau y mae Llywodraeth Cymru yn credu bod angen cydsyniad y Senedd arnynt. Gwnaethom ganolbwyntio ein gwaith craffu ar oblygiadau'r cymalau hynny i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Canolbwyntiodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y gwnaethom gydgysylltu'r gwaith o gasglu tystiolaeth ag ef, ar y goblygiadau i'r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, fel y clywsom eisoes gan Gadeirydd y pwyllgor hwnnw.
Cyn i mi grynhoi ein canfyddiadau, tynnaf sylw at y ffaith nad oedd pob aelod o'r pwyllgor yn cytuno â holl gasgliadau ac argymhellion y pwyllgor. Mae ein hadroddiad terfynol yn rhoi rhagor o fanylion. Mae ein casgliadau cyntaf yn ymwneud ag a oes angen cydsyniad y Senedd. Ar hyn o bryd, mae awdurdodau lleol Cymru yn cynnal asesiadau oedran o geiswyr lloches sy'n destun dadl ar oedran sy'n cael eu cyflwyno yng Nghymru. Maen nhw'n gwneud hynny o fewn y fframwaith a nodir ym mhrif becyn cymorth asesu oedran Llywodraeth Cymru. Ymhlith pethau eraill, mae Rhan 4 o'r Bil hwn yn rhoi pwerau i Ysgrifennydd Gwladol y DU gynnal asesiadau oedran drwy'r bwrdd asesu oedran cenedlaethol arfaethedig. Mae'n cyflwyno dulliau gwyddonol mewn asesiadau oedran ac yn sefydlu tribiwnlys i glywed apeliadau sy'n ymwneud ag asesiadau oedran. Mae hyn yn effeithio ar faes datganoledig gofal cymdeithasol. Cytunwn felly â Llywodraeth Cymru fod cymalau 48 i 49 a 51 i 55 yn Rhan 4, ynghyd â chymal 80 yn Rhan 7, yn gofyn am gydsyniad deddfwriaethol y Senedd. Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU yn honni nad oes angen cydsyniad y Senedd ar unrhyw ddarpariaethau yn y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau. Ni allem gysoni'r farn hon ag effaith y darpariaethau yn y Bil. Felly, rydym yn pryderu bod Llywodraeth y DU yn gweithredu heb roi sylw dyledus i adran 107(6) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 drwy ddeddfu mewn perthynas â materion datganoledig heb gydsyniad y Senedd.
Mae ein hadroddiad hefyd yn nodi ein barn am y dulliau arfaethedig o asesu oedran. Dywedodd y 13 sefydliad a ymatebodd i'n hymgynghoriad, gan gynnwys Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, Coleg Brenhinol y Ffisigwyr, BMA Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, wrthym fwy neu lai yr un peth: nid oes digon o dystiolaeth bod technegau asesu oedran gwyddonol yn ddigon cywir i gyfiawnhau'r trallod y gallant ei achosi. Clywsom hefyd gan y comisiynydd plant, y Tîm Lleiafrifoedd Ethnig a Chymorth Ieuenctid, cynrychiolwyr awdurdodau lleol ac eraill fod asesiadau oedran gwyddonol fel y'u cynigiwyd yn y Bil a deunydd esboniadol yn anghyson â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Yn seiliedig ar gysondeb y dystiolaeth a gawsom, rydym yn argymell bod y Senedd yn atal cydsyniad deddfwriaethol heddiw.
Mae'r Bil Cenedligrwydd a Ffiniau yn y Cyfnod Adrodd yn Nhŷ'r Arglwyddi ar hyn o bryd. Efallai mai prin yw'r cyfleoedd pellach i Lywodraeth Cymru ofyn am unrhyw newidiadau i'r Bil i adlewyrchu pryderon ein pwyllgor ac efallai'r Senedd yn ehangach. Fodd bynnag, gall Llywodraeth Cymru gymryd camau i geisio dylanwadu ar unrhyw reoliad y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud gan ddefnyddio pwerau yn y Bil hwn.
Rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn pwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau nad yw technegau asesu oedran gwyddonol yn cael eu cyflwyno yng Nghymru drwy reoliadau gan ddefnyddio pwerau a nodir yn y Bil. Fel pwyllgor, rydym wedi cytuno y bydd hawliau plant yn ganolog i'n gwaith drwy'r chweched Senedd. Nid oedd pob aelod o'r pwyllgor yn gallu cefnogi'r holl gasgliadau a'r argymhellion yn ein hadroddiad. Fodd bynnag, roeddem yn gallu rhoi sylw i un casgliad pwysig: beth bynnag fo'r dull a ddefnyddir i asesu oedran ceiswyr lloches neu fudwyr, rhaid i hawliau plant fod wrth wraidd y broses. Rydym yn annog Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i sicrhau eu bod. Diolch.
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad sydd nesaf—Huw Irranca-Davies.
Diolch, Llywydd. Mae'n bleser dilyn y ddau o fy nghyd-Gadeiryddion pwyllgor. Ac a gaf i ddweud, ar y pumed achlysur yr wyf wedi codi y prynhawn yma, diolch i dîm clercio'r pwyllgor a fy nghydweithwyr yn ogystal am ystyried y materion hyn? Ac a gaf i nodi yn fyr amddiffyniad ysbrydoledig gan y Cwnsler Cyffredinol yn gynharach ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol, a oedd yn ddiddorol iawn, a byddwn yn dychwelyd at hyn? Mae bob amser yn barod i ymwneud â'r pwyllgor ac rwy'n siŵr y byddwn yn archwilio'r materion hyn ymhellach.
Felly, yn fy nghyfraniad olaf y prynhawn yma, trown at Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau. Os nad yw pobl wedi blino ar fy llais i erbyn y cam hwn, Duw â'n helpo. Gwnaethom un argymhelliad wrth ystyried ac adrodd ar hyn. Nodom y cymalau y mae'r Gweinidog o'r farn bod angen cydsyniad y Senedd arnyn nhw a nodom hefyd nad yw Llywodraeth y DU yn credu bod angen cydsyniad y Senedd. Cytunodd ein hadroddiad â'r Gweinidog fod yn wir angen cydsyniad y Senedd ar gyfer y cymalau hyn a chydnabu hefyd nad yw'n argymell bod y Senedd yn rhoi ei chydsyniad i gynnwys y cymalau hyn yn y Bil.
Mynegodd ein hadroddiad bryderon, er enghraifft, y gall rheoliadau o dan y Bil osod swyddogaethau ar awdurdodau datganoledig mewn perthynas â gofal cymdeithasol ac na fydd yn ofynnol i Weinidogion Cymru na'r Senedd roi cydsyniad mewn amgylchiadau o'r fath. Mae Cyd-Gadeiryddion a'u pwyllgorau wedi sôn am y rhain hefyd. Rydym yr un mor bryderus am y pwerau sydd ar gael i'r Ysgrifennydd Gwladol i wneud rheoliadau a allai ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol gan y Senedd, heb unrhyw ofyniad am ei gydsyniad. Hyd y gwyddom ni, nid oes unrhyw gyfyngiadau ar y pwerau hyn—mae'n thema yr wyf i'n dychwelyd ati eto—fel y gellid eu defnyddio hefyd i ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006 drwy reoliadau. Fel yr wyf wedi nodi o'r blaen yn fy nghyfraniadau y prynhawn yma o ran Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol eraill, credwn fod dull gweithredu o'r fath yn annerbyniol yn gyfansoddiadol.
Ond yr hyn sy'n gwneud y sefyllfa'n fwy cymhleth yw—fel y cyfeiriais ato ar ddechrau'r cyfraniad hwn—y ffaith nad yw Llywodraeth y DU o'r farn bod darpariaethau'r Bil yn dod o fewn cymhwysedd y Senedd hon. Nawr, cyn belled ag y mae Llywodraeth y DU yn y cwestiwn, mae'r ddadl hon yn ddiangen ac nid oes angen cydsyniad y Senedd, er bod y Bil, yn ein barn ni a barn Llywodraeth Cymru a phwyllgorau eraill, yn effeithio ar faes datganoledig gofal cymdeithasol. Felly, yng ngoleuni'r sylwadau hyn, gofynnodd ein hargymhelliad unigol, mewn tair rhan, i'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor am faterion amrywiol cyn y ddadl heddiw. Ac rydym yn ddiolchgar iawn am yr ymateb manwl a gawsom gan y Gweinidog.
Gofynnodd rhan gyntaf ein hargymhelliad am y wybodaeth ddiweddaraf am ei thrafodaethau â Llywodraeth y DU ynghylch a yw darpariaethau'r Bil yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Gofynnodd yr ail ran i'r Gweinidog egluro a yw, fel rhan o'i thrafodaethau, wedi gofyn am welliannau i'r Bil sy'n berthnasol i'n pryderon ynghylch y pwerau i wneud rheoliadau sy'n cael eu rhoi i'r Ysgrifennydd Gwladol i weithredu mewn meysydd datganoledig, ac a allai ganiatáu diwygio Deddf 2006.
Yn ei hymateb, ac mewn perygl o ailadrodd rhywfaint o'r hyn a ddywedodd y Gweinidog yn gynharach, mae'r Gweinidog wedi dweud wrthym sut yr oedd wedi codi pryderon dro ar ôl tro gyda Llywodraeth y DU, gan gynnwys ar y cyd â Llywodraeth yr Alban, ond nad oedd wedi cael unrhyw sicrwydd boddhaol mewn ymateb. Ac esboniodd wrthym hefyd sut na wnaeth y Swyddfa Gartref ymgysylltu â Llywodraeth Cymru am bryderon ynghylch asesu oedran oherwydd eu safbwynt o fod yn fater a gadwyd yn ôl, sy'n golygu nad oedd cyfle iddynt fynd ar drywydd gwelliannau, gan gynnwys o ran ein pryderon am y pwerau a roddir i'r Ysgrifennydd Gwladol.
Nododd hefyd, mor ddiweddar ag 8 Chwefror, fod y Swyddfa Gartref wedi ysgrifennu i ddweud nad oedd sefyllfa Llywodraeth y DU wedi newid, bod holl gymalau'r Bil o fewn cymhwysedd a gadwyd yn ôl ac nad oes angen cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y cymalau sy'n ymwneud ag asesu oedran. Felly, rydym yn rhannu siom a rhwystredigaeth glir y Gweinidog am y diffyg ymgysylltiad adeiladol â Llywodraeth y DU ar y materion hyn, yn bennaf am na chafwyd gohebiaeth a addawyd ymhellach yn esbonio safbwynt Llywodraeth y DU yn fanylach. Byddem yn ddiolchgar iawn i dderbyn copïau o unrhyw ohebiaeth bellach ar y mater hwn, o ystyried ein diddordeb—diddordeb parhaus—mewn cysylltiadau rhynglywodraethol.
Ac mae hynny'n dod â ni i drydedd ran ein hargymhelliad, a ofynnodd a fydd y Gweinidog yn ymgysylltu â'r gweithdrefnau datrys anghydfodau yn unol â'r pecyn terfynol o ddiwygiadau a gyhoeddwyd yn yr adolygiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar o gysylltiadau rhynglywodraethol. Mewn ymateb, dywedodd y Gweinidog y byddai'n rhoi ystyriaeth bellach i reoli hyn drwy'r peiriannau newydd, ac, unwaith eto, edrychwn ymlaen at gael ein cadw mewn cyswllt â datblygiadau ar y mater pwysig iawn hwn. Diolch yn fawr iawn.
Ddoe, roeddwn gydag aelodau o Ddinas Noddfa Abertawe a'r bobl y maen nhw'n eu cynorthwyo sy'n ceisio lloches. Roedd mewn digwyddiad gwych ym mwyty Hoogah, sydd wedi addo cefnogi Dinas Noddfa Abertawe yn ddiweddar yn eu nod o hyrwyddo diwylliant o groeso i geiswyr lloches a ffoaduriaid, ac i fod yn lle diogel i'r rhai sy'n chwilio am gartref newydd yn y ddinas.
Dyna'r union bobl y mae Dinas Noddfa Abertawe yn eu cynorthwyo: pobl. Pobl sy'n ffoi rhag erledigaeth, perygl, rhyfel, newyn, anobaith. Pobl sydd eisiau i'w plant fyw mewn heddwch, i gael pob cyfle i allu cymryd eu lle yn y byd heb ofn. Pobl. Ni allai'r teimladau a fynegwyd tuag at y bobl y cyfarfûm â nhw ddoe, sef tosturi a dealltwriaeth, fod yn fwy gwahanol i'r rhai a hybir gan y Bil hwn. Ddoe, roedd ofn, anobaith, dicter y byddai Llywodraeth y DU, drwy'r Bil hwn, yn tanseilio'n sylfaenol ac yn wrthun hanes Cymru o groeso a'n dyhead i fod yn genedl noddfa. Ac nid yw'r ffordd y mae'n diystyru hawliau plant, unwaith eto mor ganolog i'n gweledigaeth genedlaethol yma yng Nghymru, yn gwneud dim llai na throi'r stumog.
Mae Gweinidogion Llywodraeth Dorïaidd y DU wedi honni bod y mesurau yn y Bil wedi'u hanelu at dorri costau i'r pwrs cyhoeddus, torri gangiau sy'n smyglo pobl, ac amddiffyn pobl sy'n ceisio lloches. Fodd bynnag, mae arbenigwyr yn y maes yn anghytuno'n llwyr. Amnesty yw un o'r sefydliadau niferus sydd wedi dadlau y bydd y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau yn gwaethygu system noddfa y DU. Mae'r model o loches sy'n cael ei gynnig, yn ôl y Cenhedloedd Unedig, yn un
'fyddai'n cosbi'r rhan fwyaf o ffoaduriaid sy'n ceisio lloches' ac felly
'yn tanseilio rheolau ac arferion diogelu ffoaduriaid rhyngwladol sefydledig.'
Mae The Good Law Project wedi mynd mor bell â dweud y bydd y Bil yn ymgorffori hiliaeth yn neddfwriaeth y DU drwy gymal draconaidd 9, a fyddai'n galluogi Ysgrifennydd Gwladol i dynnu dinasyddiaeth gwladolion Prydeinig heb rybudd.
A hyd yn oed os edrychwn ar hyn o safbwynt ariannol, nid yw dadl Llywodraeth y DU bod y newidiadau y mae'n eu cynnig yn seiliedig ar arbed arian a wariwyd ar y gost uchel dybiedig o gefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn gwneud unrhyw synnwyr. Canfu adroddiad a gyhoeddwyd ddoe gan glymblaid Together With Refugees y byddai'r Bil yn dyblu'r costau hyn i £2.7 biliwn. Rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i atal y Bil annynol hwn, popeth a allwn ni i amddiffyn y rhai a fyddai'n cael eu croesawu a'u trysori fel dinasyddion newydd Cymru rhag y darpariaethau hiliol, peryglus hyn yn y Bil sy'n dad-ddynoleiddio.
Fel aelod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, darllenais ymatebion y sefydliadau sy'n gweithredu yng Nghymru ym maes iechyd a gofal cymdeithasol plant, hawliau plant a'r rhai sy'n gweithio gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches, i'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwn sydd ger ein bron heddiw. Roedd y pryderon ynghylch effaith y Bil hwn ar Gymru o ran y cymalau sy'n ymwneud ag asesu oedran plant, a gynhwysir yn Rhan 4 o'r Bil, yn anorchfygol. Roedd y consensws bod y Bil yn effeithio ar y meysydd gofal cymdeithasol datganoledig ac yn rhoi pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau ar awdurdodau datganoledig Cymru yn gwbl glir.
Roedd yr ansoddeiriau a ddefnyddiwyd i ddisgrifio'r cynigion, a oedd yn cynnwys dulliau asesu oedran gwyddonol ymwthiol, meddygol a'r hyn a elwir yn ddulliau asesu oedran gwyddonol mewn perthynas â cheiswyr lloches ar eu pen eu hunain nad oes ganddyn nhw ddogfennau i brofi eu hoedran, yn cynnwys y geiriau 'annigonol', 'amhriodol' a 'trawmatig'. A dywedodd y comisiynydd plant wrthym, fel y mae'r Bil, y bydd yn niweidiol i hawliau sylfaenol plant, a nodir yn y confensiwn.
Rydym yn llwyr gefnogi dadansoddiad y Gweinidog o'r cymalau hyn, a barn y Llywodraeth y dylid atal cydsyniad. Rydym ni ym Mhlaid Cymru yn gwrthwynebu'n sylfaenol unrhyw ymgais i danseilio hawl a phŵer y Senedd hon i ddeddfu mewn meysydd polisi datganoledig, yn enwedig yn wyneb awydd digynsail Llywodraeth San Steffan i danseilio ein hawdurdod datganoledig, ein hunaniaeth genedlaethol a'n hawl ddemocrataidd i benderfynu pa fanteision sydd i'n cymunedau ein hunain. Ac mae Bil fel hwn yn blaenbrosesu ein rhesymau dros wrthwynebu.
Dywedodd yr athronydd Hannah Arendt mai colli dinasyddiaeth yw'r golled, yn ei hymadrodd enwog 'yr hawl i gael hawliau'. Roedd yn myfyrio ar y dotalitariaeth a'i gorfododd i ffoi o'i mamwlad, yr Almaen, ei dinasyddiaeth wedi'i thynnu oddi arni, ymlaen i Ffrainc, i Bortiwgal, gan ymgartrefu yn yr Unol Daleithiau yn y pen draw. Fel y canfu hi a miliynau o bobl eraill yn Ewrop yn y 1940au, roedd y byd, yn ei geiriau hi,
'yn canfod unrhyw dim byd sanctaidd yn noethni haniaethol bod yn ddynol.'
Yr hyn a sylweddolodd Arendt oedd bod angen dinasyddiaeth er mwyn i hawliau dynol gael eu deddfu. Gwadu dinasyddiaeth person, lle i berthyn, yw gwadu eu hawliau sylfaenol iddynt.
Dylai'r genedl yr ydym ni'n ei hadeiladu yng Nghymru roi hawliau i'w dinasyddion. Yr hyn y mae'r Bil Cenedligrwydd a Ffiniau hwn yn ei wneud yw dileu hawliau. Mae gwerthoedd cenedlaetholdeb cyfoes Cymreig fel y'u hamlygir yng ngwleidyddiaeth Plaid Cymru yn gwrthwynebu'n sylfaenol y cenedlaetholdeb Prydeinig senoffobig a ymgorfforir yn y Bil hwn. Rhaid i ni anfon y neges gryfaf bosibl heddiw o'r lle hwn, o'r genedl noddfa yr ydym yn dyheu amdani, na fyddwn yn sefyll o'r neilltu, na fyddwn yn cydsynio.
Mae llawer o bethau y gallem ni i gyd eu dweud, y rheini ohonom sy'n gwrthwynebu'r cydsyniad hwn heddiw, am y Bil hwn, ac mae llawer ohonyn nhw wedi cael eu dweud. Ond rwy'n mynd i ganolbwyntio yma'n arbennig a siarad ar y mater dan sylw, ac mae'r mater dan sylw yn ymwneud ag archwiliadau meddygol ac asesiadau oedran o ffoaduriaid dan oedran ar eu pen eu hunain sy'n ceisio lloches—plant. Ac rwy'n credu bod un neges y mae'n rhaid iddi fod yn gwbl glir yma heddiw: rydym yn sôn am blant. Rydym yn sôn am blant sydd wedi dioddef trawma, nid dim ond plant sydd wedi cyrraedd ac maen nhw'n mynd i fynd i ryw asesiad erchyll na fydd yr holl broffesiwn meddygol sydd wedi ymateb i geisiadau i ymateb gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ei ddilysu. Maen nhw'n dweud nad oes tystiolaeth i gefnogi bod yr asesiadau meddygol hyn yn gywir. Felly, mae angen i ni ddechrau yn y fan yna. Mae'r proffesiwn meddygol eu hunain, sydd wedi ymateb, yn dweud nad oes gan yr asesiadau hyn unrhyw rinwedd.
Yn ail, ac rydym wedi ei glywed yn cael ei ddweud, ac yn bwysicach, plant yw'r rhain. Maen nhw'n blant wedi'u trawmateiddio a gofynnir i ni roi caniatâd i broses i roi trawma pellach iddynt, proses na fyddan nhw'n gallu ei wrthwynebu, oherwydd ni fydd ganddyn nhw lais yn y gwrthwynebiad hwnnw. A bydd beth bynnag a wneir iddyn nhw yn eithaf trawmatig ynddo'i hun, ac mae'n siŵr o achosi straen wedi trawma, ac mae hynny eisoes wedi'i gyfeirio ato yma. Heb sôn, wrth gwrs, am eu breuder meddyliol pan fyddan nhw'n dechrau ar y broses a hwnnw'n cynyddu o ganlyniad i fynd drwy'r broses honno. Felly, nid oes unrhyw ran o hwn yn newyddion da.
Os byddan nhw'n methu, wrth gwrs, byddwch wedyn yn rhoi plant mewn cyfleusterau i oedolion, ac eto heb unrhyw amddiffyniad o gwbl, dim hawl i apelio—i gyd wedi'u tynnu allan o'u dwylo. Fel y gwyddoch chi i gyd, rwy'n un o sylfaenwyr y grŵp hollbleidiol ar fasnachu a chaethwasiaeth. Nid wyf yn credu y byddai'n rhaid i chi ddefnyddio llawer iawn o ddychymyg i ddeall goblygiadau rhoi plant ar eu pen eu hunain mewn cyfleusterau lle bydden nhw'n dod yn ddioddefwyr posibl masnachu mewn pobl a chaethwasiaeth. Mae llawer o straeon am hynny eisoes yn digwydd yn y cyfleusterau hynny wrth i ni siarad. Ac, wrth gwrs, byddan nhw'n cael eu gwahanu mewn rhai achosion oddi wrth eu teuluoedd, felly yn yr un modd ni fyddan nhw'n gallu codi eu lleisiau ar ran y plant oherwydd rywsut mae'r Llywodraeth hon yn ddigon bodlon taflu hawliau'r plant hynny, anwybyddu'r ddynoliaeth sylfaenol y byddech yn disgwyl ei chael pan fyddwch yn sôn am blant sydd wedi dioddef trawma.
Felly, rwy'n falch iawn ei bod yn ymddangos bod yr holl bobl a gymerodd dystiolaeth yn dweud, 'Na, ni fyddwn yn rhoi caniatâd. Ni fyddwn yn rhoi caniatâd i drin plant sy'n cael eu hunain yn y DU hon yn annynol a'u trawmateiddio.'
Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl nawr. Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Llywydd. A gaf i ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau pwerus i'r ddadl bwysig iawn hon y prynhawn yma? Fe ddechreuaf drwy ddiolch i Gadeiryddion y pwyllgorau—Cadeiryddion y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg—am y ffordd drylwyr y maen nhw wedi archwilio'r dystiolaeth ac wedi ystyried fy marn a fy safbwynt, a hefyd wedi ymgynghori'n eang ac yn drylwyr i ddod i'r farn sydd ganddyn nhw, ac, wrth gwrs, mae'r mwyafrif yn cefnogi fy marn y dylem atal cydsyniad i'r cymalau niweidiol iawn hyn yn y Bil hwn.
Diolch i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Cadeirydd, Jayne Bryant, am allu rhannu gyda ni heddiw rai o'r safbwyntiau sydd wedi dod yn ôl o ganlyniad i'r ymgynghoriad hwnnw. Cyfarfûm yn wir â Chlymblaid Ffoaduriaid Cymru. Mae'n ddiddorol hefyd clywed y safbwyntiau hynny sydd wedi'u mynegi ac sy'n dod atom gan Aelodau ar genedl noddfa. Cyfarfu Sioned Williams â'r bobl hynny yn Abertawe a oedd yn mynegi eu pryder. Mynegwyd y pryder hwnnw ledled Cymru, ac, fel y dywedodd Joyce Watson, mae hyn mor ddifrifol o ran y plant sydd wedi dioddef cymaint o drawma i ddod i geisio'r noddfa honno gyda ni.
Rwyf yn falch iawn ein bod yn glir iawn yn ein rhaglen lywodraethu—a dyfynnaf o'n rhaglen lywodraethu—ein bod wedi ymrwymo i
'Parhau i gefnogi a chynnal hawliau plant a phobl ifanc ar eu pennau eu hunain sy’n ceisio lloches.'
Rydym yn parhau i gynnal yr hawliau hynny, a dyna pam y mae'n rhaid i ni sefyll gyda'n gilydd heddiw a bod yn glir iawn yn ein hymateb i Lywodraeth y DU, oherwydd rydym yn falch o fabwysiadu dull 'plentyn yn gyntaf, mudwr yn ail', sy'n cynnal y buddiannau gorau a'r hawliau i ddarparu gofal a chymorth i blant yng Nghymru, ac nid yw unrhyw gynnig polisi sy'n ymddangos fel pe bai'n lleihau'r sefyllfa statudol—mae'n sefyllfa statudol sydd gennym yng Nghymru—yn un y dylem ni ei chefnogi.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod, fel yr wyf wedi'i ddweud, ein bod yng Nghymru yn trin pob plentyn ar ei ben ei hun sy'n ceisio lloches fel plant sy'n derbyn gofal. A rhaid i ni ailadrodd hynny, unwaith eto: dyma'r hyn yr ydym wedi cytuno iddo yn y Senedd hon yn unol â Rhan 6 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, oherwydd mae'r Ddeddf yn darparu ar gyfer ystod o swyddogaethau asesu, ac rydym yn trin yr asesiad o oedran fel rhan o'r swyddogaethau asesu 'beth sy'n bwysig' a ddarperir yn y Ddeddf, ac mae holl swyddogaethau'r gwasanaethau cymdeithasol wedi'u datganoli'n llawn i Lywodraeth Cymru. Holl swyddogaethau'r gwasanaethau cymdeithasol. Dyna pam mae hyn mor hanfodol.
A hefyd, yn olaf ar y pwynt hwn, i fyfyrio gydag Aelodau fod gennym bolisi sy'n bodoli ar ddefnyddio adroddiadau meddygol mewn asesiadau oedran. I grynhoi, pecyn cymorth yw hwn. Mae'n dweud, am ddulliau gwyddonol o asesu oedran:
'Nid yw'r Pecyn Cymorth hwn yn argymell nac yn cefnogi'r defnydd o arholiadau meddygol fel penderfynyddion oedran. Mae'r wyddoniaeth sy'n sail i bennu oedran yn amhendant, yn aneglur a beth bynnag, bernir bod rhoi pobl ifanc i arholiadau meddygol goresgynnol yn foesol anghywir.'
Felly, wrth i ni gloi'r ddadl hon heddiw, Llywydd, rhaid i mi ddweud eto ac ailadrodd bod y Bil hwn gan Lywodraeth y DU yn amlwg yn gwneud darpariaeth o fewn cymhwysedd datganoledig y Senedd. Diolchaf i Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei gyfraniad heddiw, oherwydd byddaf yn dilyn y pwyntiau a wneuthum yn ei lythyr. Credaf fod hwn yn fater hollbwysig o ran parchu ein cymhwysedd datganoledig a'r hyn yr ydym wedi cytuno arno drwy ddeddfwriaeth yma yng Nghymru, gan gynnal hawliau plentyn yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Felly, mae'n amlwg bod y Bil Llywodraeth hwn yn gwneud darpariaeth o fewn y cymhwysedd datganoledig. Rydym yn gyfrifol am wasanaethau cymdeithasol, ac felly mae'n amlwg iawn heddiw fod yn rhaid i ni, fel Senedd, atal cydsyniad i gynnwys y darpariaethau hyn yn y Bil.
I gloi, fe ddywedaf, gan grynhoi eto yr hyn y mae Jayne Bryant ac Aelodau eraill wedi'i ddweud, fod yn rhaid i hawliau plant fod wrth wraidd popeth a wnawn, wrth wraidd ein hystyriaethau y prynhawn yma, i bob Aelod. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, ac felly mi wnawn ni ohirio'r bleidlais ar yr eitem yna.