Part of the debate – Senedd Cymru am 5:31 pm ar 15 Chwefror 2022.
Diolch, Llywydd. Fel y gŵyr yr Aelodau, ychydig iawn o amser a roddodd amserlen graffu'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol i bwyllgorau gasglu tystiolaeth. Ar 18 Ionawr, fe wnaethom ni, y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ysgrifennu ar y cyd at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ac at sefydliadau ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol plant, hawliau plant a ffoaduriaid a phlant sy'n ceisio lloches i ofyn am eu barn ar amrywiaeth o faterion sy'n berthnasol i'r Memorandwm. Roeddwn wedi pennu dyddiad cau ar gyfer ymateb o ddim ond 10 diwrnod yn ddiweddarach i'n galluogi i ystyried eu barn yn ystod ein cyfarfod ddydd Iau diwethaf. Hoffwn gofnodi fy niolch i'r 13 sefydliad a ymatebodd i'n hymgynghoriad o fewn amserlen mor dynn, ac i'r Gweinidog am y wybodaeth ychwanegol werthfawr a roddodd i ni.
Ystyriwyd cymalau'r Bil Cenedligrwydd a Ffiniau y mae Llywodraeth Cymru yn credu bod angen cydsyniad y Senedd arnynt. Gwnaethom ganolbwyntio ein gwaith craffu ar oblygiadau'r cymalau hynny i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Canolbwyntiodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y gwnaethom gydgysylltu'r gwaith o gasglu tystiolaeth ag ef, ar y goblygiadau i'r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, fel y clywsom eisoes gan Gadeirydd y pwyllgor hwnnw.
Cyn i mi grynhoi ein canfyddiadau, tynnaf sylw at y ffaith nad oedd pob aelod o'r pwyllgor yn cytuno â holl gasgliadau ac argymhellion y pwyllgor. Mae ein hadroddiad terfynol yn rhoi rhagor o fanylion. Mae ein casgliadau cyntaf yn ymwneud ag a oes angen cydsyniad y Senedd. Ar hyn o bryd, mae awdurdodau lleol Cymru yn cynnal asesiadau oedran o geiswyr lloches sy'n destun dadl ar oedran sy'n cael eu cyflwyno yng Nghymru. Maen nhw'n gwneud hynny o fewn y fframwaith a nodir ym mhrif becyn cymorth asesu oedran Llywodraeth Cymru. Ymhlith pethau eraill, mae Rhan 4 o'r Bil hwn yn rhoi pwerau i Ysgrifennydd Gwladol y DU gynnal asesiadau oedran drwy'r bwrdd asesu oedran cenedlaethol arfaethedig. Mae'n cyflwyno dulliau gwyddonol mewn asesiadau oedran ac yn sefydlu tribiwnlys i glywed apeliadau sy'n ymwneud ag asesiadau oedran. Mae hyn yn effeithio ar faes datganoledig gofal cymdeithasol. Cytunwn felly â Llywodraeth Cymru fod cymalau 48 i 49 a 51 i 55 yn Rhan 4, ynghyd â chymal 80 yn Rhan 7, yn gofyn am gydsyniad deddfwriaethol y Senedd. Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU yn honni nad oes angen cydsyniad y Senedd ar unrhyw ddarpariaethau yn y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau. Ni allem gysoni'r farn hon ag effaith y darpariaethau yn y Bil. Felly, rydym yn pryderu bod Llywodraeth y DU yn gweithredu heb roi sylw dyledus i adran 107(6) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 drwy ddeddfu mewn perthynas â materion datganoledig heb gydsyniad y Senedd.
Mae ein hadroddiad hefyd yn nodi ein barn am y dulliau arfaethedig o asesu oedran. Dywedodd y 13 sefydliad a ymatebodd i'n hymgynghoriad, gan gynnwys Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, Coleg Brenhinol y Ffisigwyr, BMA Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, wrthym fwy neu lai yr un peth: nid oes digon o dystiolaeth bod technegau asesu oedran gwyddonol yn ddigon cywir i gyfiawnhau'r trallod y gallant ei achosi. Clywsom hefyd gan y comisiynydd plant, y Tîm Lleiafrifoedd Ethnig a Chymorth Ieuenctid, cynrychiolwyr awdurdodau lleol ac eraill fod asesiadau oedran gwyddonol fel y'u cynigiwyd yn y Bil a deunydd esboniadol yn anghyson â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Yn seiliedig ar gysondeb y dystiolaeth a gawsom, rydym yn argymell bod y Senedd yn atal cydsyniad deddfwriaethol heddiw.
Mae'r Bil Cenedligrwydd a Ffiniau yn y Cyfnod Adrodd yn Nhŷ'r Arglwyddi ar hyn o bryd. Efallai mai prin yw'r cyfleoedd pellach i Lywodraeth Cymru ofyn am unrhyw newidiadau i'r Bil i adlewyrchu pryderon ein pwyllgor ac efallai'r Senedd yn ehangach. Fodd bynnag, gall Llywodraeth Cymru gymryd camau i geisio dylanwadu ar unrhyw reoliad y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud gan ddefnyddio pwerau yn y Bil hwn.
Rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn pwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau nad yw technegau asesu oedran gwyddonol yn cael eu cyflwyno yng Nghymru drwy reoliadau gan ddefnyddio pwerau a nodir yn y Bil. Fel pwyllgor, rydym wedi cytuno y bydd hawliau plant yn ganolog i'n gwaith drwy'r chweched Senedd. Nid oedd pob aelod o'r pwyllgor yn gallu cefnogi'r holl gasgliadau a'r argymhellion yn ein hadroddiad. Fodd bynnag, roeddem yn gallu rhoi sylw i un casgliad pwysig: beth bynnag fo'r dull a ddefnyddir i asesu oedran ceiswyr lloches neu fudwyr, rhaid i hawliau plant fod wrth wraidd y broses. Rydym yn annog Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i sicrhau eu bod. Diolch.