Part of the debate – Senedd Cymru am 5:25 pm ar 15 Chwefror 2022.
Diolch, Llywydd. Rwy'n siarad heddiw yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac rwyf yn cyflwyno barn ei aelodau yn ei gyfanrwydd. A gaf i ddweud 'diolch' i'r Gweinidog am ymateb i'n hadroddiad, a gafodd ond ei osod heddiw, rwy'n credu? Ac rwy'n credu iddo gyrraedd fy mewnflwch dim ond 30 munud yn ôl.
Fel y mae'r Gweinidog wedi ei ddweud ei hun, mae'r Bil Cenedligrwydd a Ffiniau yn Fil mawr a chymhleth; mae iddo oblygiadau i iechyd a gofal cymdeithasol ac i hawliau a diogelu plant, rydym ni'n falch, felly, o allu cydlynu ein tystiolaeth gyda'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg er mwyn lleihau dyblygu, ac rydym hefyd yn ddiolchgar i randdeiliaid a oedd yn gallu rhannu eu barn gyda ni o fewn amserlen dynn iawn hefyd.
Er bod y rhan fwyaf o'r Bil yn ymdrin yn bennaf â materion sy'n ymwneud â mewnfudo, sydd y tu allan i gwmpas pwerau'r Senedd, mae cymalau 48, 49 a 51 i 55, sy'n ymwneud ag asesu oedran ceiswyr lloches, plant a phobl ifanc sy'n ceisio lloches, a chymal 80, pwerau i wneud darpariaethau canlyniadol, yn effeithio ar feysydd gofal cymdeithasol nad ydyn nhw wedi'u datganoli. Felly, daethom i'r casgliad bod angen cydsyniad deddfwriaethol y Senedd.
Ni ddarperir unrhyw wybodaeth am gostau ariannol y cymalau asesu oedran arfaethedig yn y Bil, ac felly gwnaethom argymell, pe bai'r Bil yn cael ei basio fel y'i drafftiwyd, fod Llywodraeth Cymru yn gofyn am sicrwydd gan Lywodraeth y DU y bydd unrhyw oblygiadau ariannol sy'n deillio o'r Bil yn cael eu talu gan Lywodraeth y DU yn unol â'r datganiad o bolisi ariannu.
Hefyd, byddem yn ddiolchgar am sicrwydd gan y Gweinidog y bydd cymorth iechyd meddwl a lles priodol ar gael i bobl yr effeithir arnyn nhw gan y defnydd o ddulliau gwyddonol o asesu oedran, pe bai dulliau o'r fath yn cael eu defnyddio yng Nghymru. Ac mae ein barn ar y darpariaethau sy'n ymwneud ag asesiadau oedran wedi'u nodi yn ein hadroddiad, ond byddwn yn canolbwyntio ar ddau gymal yn benodol. Cymal 49: ar hyn o bryd, mae adrannau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yn cynnal asesiadau oedran lle mae unrhyw amheuaeth ynghylch oedran person, ac felly mae'r penderfyniad ynghylch oedran yn cael ei wneud ar lefel ddatganoledig. Felly, mae'r Bil yn cynnig newid y broses hon i greu system ledled y DU, fel y soniwyd amdani. Mae cymal 49 yn darparu y gall awdurdod lleol gyfeirio person sy'n destun dadl o ran oedran at y person dynodedig i asesu ei oedran. Fel arall, gall yr awdurdod lleol gynnal asesiad oedran ei hun, neu os yw'r awdurdod yn fodlon bod y person yr oedran y maen nhw'n honni, gallan nhw hysbysu'r Ysgrifennydd Gwladol yn ysgrifenedig o hyn, ac mae'r cymal hwn hefyd yn galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol i wneud rheoliadau sy'n gosod swyddogaethau ar awdurdodau datganoledig Cymru.
Felly, clywsom nifer o bryderon am y ddarpariaeth, gan gynnwys y diffyg manylion yn y Bil ynghylch swyddogaeth, pŵer, cyfansoddiad ac annibyniaeth y person dynodedig, a sut y bydd y person dynodedig yn ymgysylltu â Chymru ac yn ystyried y meysydd hyn sydd wedi'u datganoli i Lywodraeth Cymru sy'n hanfodol i unrhyw broses asesu. Felly, ar ôl ystyried y dystiolaeth gan randdeiliaid, daethom i'r casgliad na ddylai'r Senedd gydsynio i gymal 49, a'r rheswm am hyn yw bod prosesau eisoes ar waith ar gyfer asesiadau oedran yng Nghymru y gallai cymal 49 eu tanseilio.
Ac mae cymal 51 yn rhoi'r pŵer i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau ynghylch dulliau gwyddonol ar gyfer asesu oedran. Mae hefyd yn caniatáu i'r sawl sy'n gwneud penderfyniadau wneud dehongliad negyddol o hygrededd person os yw'n gwrthod cael asesiad oedran gwyddonol heb reswm da. Felly, daethom i'r casgliad na ddylai'r Senedd gydsynio i gymal 51 ar y sail bod rhanddeiliaid fel y Coleg Nyrsio Brenhinol, Cymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol y Ffisigwyr wedi dweud wrthym nad oes tystiolaeth bod dulliau gwyddonol o asesu oedran yn effeithiol. Felly, nid ydym ychwaith wedi ein darbwyllo y gellir cyfiawnhau cynnal gweithdrefnau meddygol ymwthiol posibl ar blant a phobl ifanc a allai fod wedi cael eu trawmateiddio eisoes gan eu profiadau bywyd.
Cododd gweithwyr iechyd proffesiynol bryderon hefyd ynghylch a oedd cynnal asesiadau oedran yn gyson â'u moeseg broffesiynol o weithredu er lles gorau'r person. Felly, rydym yn nodi, yn ogystal â rhoi gweithwyr proffesiynol o'r fath mewn sefyllfa anodd efallai, fod rhai rhanddeiliaid wedi awgrymu y gallai fod goblygiadau i les gweithwyr iechyd proffesiynol eu hunain, yn ogystal ag effeithio ar eu gallu i feithrin ymddiriedaeth gyda'r person ifanc sydd angen cymorth. Nid oedd yn glir ychwaith i ba raddau y bydd yn ofynnol i gyrff GIG Cymru gymryd rhan yn y broses asesu oedran, ond gallai hyn roi cryn alw ar weithlu sydd eisoes wedi'i orlethu.
I gloi, Llywydd, credwn fod angen cydsyniad y Senedd ar gyfer cymalau 49, 51 i 55 ac 80, oherwydd eu bod yn gwneud darpariaethau o fewn cymhwysedd datganoledig y Senedd. Fodd bynnag, ar sail y dystiolaeth a gawsom, ni allai'r pwyllgor argymell y dylai'r Senedd roi ei chydsyniad. Diolch, Llywydd.