1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 15 Chwefror 2022.
1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau'r budd mwyaf posibl o fuddsoddiad y gronfa ffyniant gyffredin yn Nyffryn Clwyd? OQ57678
Llywydd, roedd Llywodraeth y DU yn eglur iawn nad oedd yn gweld unrhyw swyddogaeth o gwbl i Lywodraeth Cymru yng nghynlluniau treialu y gronfa ffyniant gyffredin y llynedd, nid yn nylunio'r cynlluniau treialu hynny na'r penderfyniadau a wnaed ynddyn nhw. Gobeithiaf am wahanol ddull gweithredu pan fydd y cynigion ar gyfer y gronfa yn cael eu cyhoeddi yn y pen draw.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae fy etholwyr eisoes wedi elwa ar agenda codi'r gwastad Llywodraeth y DU. Cafodd prosiectau yn y fro gyfran o bron i £3 miliwn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf trwy ragflaenydd y gronfa ffyniant gyffredin. Mae'r gronfa adnewyddu cymunedol wedi dod ag arian y mae mawr ei angen ar gyfer prosiectau ar draws fy ardal i, o brosiectau ieuenctid i gynlluniau cyflogaeth a phopeth yn y canol. Felly, Prif Weinidog, os yw Dyffryn Clwyd yn mynd i elwa ar y cynllun ffyniant cyffredin, mae angen i'r ddwy Lywodraeth ar y naill ochr a'r llall i'r M4 weithio law yn llaw. A wnaiff eich Llywodraeth ymrwymo i sicrhau bod yr agenda codi'r gwastad yn llwyddiant llwyr, gan weithio gyda Llywodraeth y DU yn hytrach na dim ond beirniadu o'r cyrion?
Wel, Llywydd, rwy'n cytuno, os yw'r gronfa ffyniant gyffredin yn mynd i lwyddo, yna dylai fod yn ymdrech ar y cyd rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Dyna fu ein safbwynt ni ers misoedd lawer iawn. Nid Llywodraeth Cymru yn dymuno chwarae rhan yw'r anhawster; dim ond bod Llywodraeth y DU yn eglur—wedi bod hyd yn hyn, o leiaf—nad oes unrhyw ran o gwbl i ni ei chwarae. Nawr, adroddodd Tŷ'r Arglwyddi—ei bwyllgor dethol cyfansoddiad—ar y mater hwn wythnos neu ddwy yn unig yn ôl. Ymchwiliodd i hanes y gronfa ffyniant gyffredin, a dyma a ddywedodd: diffyg ymgysylltiad Llywodraeth y DU â gweinyddiaethau datganoledig sy'n annefnyddiol ac sydd wedi tanseilio ymddiriedaeth. Dylai fod gan y gweinyddiaethau datganoledig swyddogaeth fwy adeiladol o ran llywodraethu'r gronfa ffyniant gyffredin. Dylai hyn gynnwys penderfyniadau am flaenoriaethau lleol a dyrannu cyllid. Nawr, os yw Llywodraeth y DU yn barod i gymryd cyngor pwyllgor dethol Tŷ'r Arglwyddi, yna bydd gennym ni ddull ar y cyd o wneud penderfyniadau o dan y gronfa. Os yw Llywodraeth y DU yn barod i gynnig hynny, yna bydd Llywodraeth Cymru yn bartner parod.
Prif Weinidog, sut ydych chi'n credu y bydd trigolion Dyffryn Clwyd yn ymateb o wybod y bydd Cymru £1 biliwn yn waeth ei byd dros y tair blynedd nesaf o ganlyniad i addewid a dorrwyd gan y Ceidwadwyr na fyddem ni geiniog yn waeth ein byd?
Wel, Llywydd, diolch i Carolyn Thomas am hynna. Roeddwn i'n meddwl bod gan yr holwr gwreiddiol farn ryfedd dros ben am yr hyn a oedd o fudd pennaf i'w etholwyr ei hun. Mae'n gofyn iddyn nhw ddathlu'r £47 miliwn a gafwyd yng Nghymru o'r gronfa adnewyddu cymunedol heb dynnu sylw at y £375 miliwn y mae Cymru wedi ei golli yn y flwyddyn honno. Nawr, o dan y cyllid blaenorol a ddaeth i Gymru, roedd Dyffryn Clwyd a gogledd Cymru gyfan yn elwa llawer iawn mwy nag unrhyw ddiferu bach o arian o gronfa adnewyddu cymunedol y llynedd: £28.5 miliwn ar gyfer ynni adnewyddadwy, ynni'r môr yn unig, ar draws y gogledd; £7 miliwn ar gyfer prosiectau adfywio mawr, gan gynnwys Adeiladau'r Frenhines yn y Rhyl ac £1 filiwn i uwchraddio gorsaf y Rhyl; a buddsoddiadau mawr yn y gogledd mewn sgiliau ac mewn ymchwil, Llywydd. Rwy'n credu ei bod hi'n annhebygol iawn y bydd trigolion Dyffryn Clwyd yn dathlu eu bod nhw wedi cael cynnig chwe cheiniog pan ydyn nhw wedi colli punt.