Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 15 Chwefror 2022.
Prif Weinidog, a minnau'n gyn-athro, rwy'n ymfalchïo yn fy nghysylltiadau agos ag ysgolion yn fy etholaeth, pob un ohonyn nhw'n adrodd yn ffafriol iawn wrthyf ar gyflymder cyflwyno'r cwricwlwm newydd. Yn wir, ychydig wythnosau'n ôl, mwynheais ymweliad rhithwir ag Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Tref Aberdâr lle'r oedd disgyblion blwyddyn 6 yn awyddus i ddangos eu gwaith gwych i mi ar Cynefin, un o egwyddorion canolog y cwricwlwm newydd. Mae'n amlwg bod arfer rhagorol eisoes yn bodoli. Felly, yn ogystal â'r sylwadau yr ydych chi eisoes wedi'u gwneud am hyfforddiant a rhwydweithiau, pa sicrwydd y gallwch chi ei roi i ni fod yr arfer rhagorol hwnnw'n cael ei gipio a'i rannu?