1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 15 Chwefror 2022.
3. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o gyflwyno'r cwricwlwm newydd yng Nghymru? OQ57662
Diolch i Laura Anne Jones am y cwestiwn, Llywydd. Mae adroddiadau ymchwil yn tynnu sylw'n gyson at yr ymrwymiad, y cymhelliant a'r cynnydd cryf y mae ysgolion yn eu gwneud yn y broses o ddiwygio'r cwricwlwm mwyaf radical ers cenhedlaeth. Rydym ni'n gweithio'n agos gyda phartneriaid rhanbarthol a lleol i sicrhau bod pob ysgol yn cael y cymorth sydd ei angen wrth iddyn nhw fwrw ymlaen i weithredu'r cwricwlwm ym mis Medi eleni.
Prif Weinidog, wrth i'w ddyddiad gweithredu ddod yn nes, nid oes yr un ohonom ni eisiau gweld y cwricwlwm newydd yn methu, felly sut ydych chi'n mynd i fynd i'r afael â'r ymchwil a gomisiynwyd gan eich Llywodraeth eich hun sy'n awgrymu mai dim ond 53 y cant o ymarferwyr addysg sydd o'r farn eu bod mewn sefyllfa dda i gynllunio eu cwricwlwm eu hunain yn barod ar gyfer mis Medi 2022, a 67 y cant ohonyn nhw'n credu bod angen cymorth ychwanegol ar eu hysgol? Prif Weinidog, er bod hyblygrwydd i'w groesawu'n fawr ac yn elfen allweddol o'r cwricwlwm newydd, oni chytunwch chi fod angen rhyw fath o raglen ddysgu broffesiynol wirioneddol genedlaethol arnom ni sy'n darparu cysondeb a chefnogaeth i bawb, gan ganiatáu'r hyblygrwydd hwnnw, o ran sut i gynllunio a chyflwyno'r cynnwys cywir sydd ei angen ar gyfer arholiadau—arholiadau nad ydym yn gwybod o hyd sut beth fyddan nhw? Prif Weinidog, mae addysg wedi'i heffeithio'n enbyd yn ystod y pandemig, fel y gwyddoch chi. A ydych chi'n cytuno â mi fod angen y cymorth fframwaith hwn ar athrawon yn awr i sicrhau llwyddiant y cwricwlwm newydd?
Rwy'n cytuno ei bod yn bwysig iawn mynd ati i gefnogi athrawon a phenaethiaid wrth iddyn nhw weithio tuag at weithredu'r cwricwlwm newydd, ond rwy'n credu bod llawer iawn o gymorth o'r math hwnnw wedi'i ddarparu ers i'r ymchwil honno gael ei chynnal, fel y gŵyr yr Aelod, yn ôl ym mis Gorffennaf y llynedd. Cyflwynodd y Gweinidog hyblygrwydd newydd wrth gyflwyno'r cwricwlwm newydd, ac, ar yr un pryd, ataliwyd nifer fawr o ddyletswyddau eraill y mae'n rhaid i ysgolion ymgymryd â nhw er mwyn creu lle i ysgolion ddatblygu eu cynlluniau gweithredu eu hunain ar gyfer y cwricwlwm. Ym mis Medi dilynwyd hynny gyda fframwaith cenedlaethol—yn union y math o fesur yr oedd yr Aelod yn gofyn amdano—fframwaith cenedlaethol gyda chanllawiau ychwanegol ar gyfer cyflwyno'r cwricwlwm, rhwydwaith cenedlaethol newydd wedi'i sefydlu, rhwydwaith proffesiynol. Cynhaliodd 60 o sesiynau ledled Cymru yn nhymor yr hydref, ac mae mwy i ddilyn—y sesiynau hynny'n canolbwyntio ar ddylunio'r cwricwlwm ac yn wir ar gymwysterau. Yna, ym mis Rhagfyr y llynedd, yn ein cyllideb ddrafft, gwnaethom nodi buddsoddiad sylweddol dros y cyfnod tair blynedd cyfan yn benodol i gefnogi ysgolion i weithredu'r cwricwlwm newydd, a dilyn hynny gyda chanllawiau cenedlaethol pellach a gyhoeddwyd ym mis Ionawr eleni.
Rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru, gan weithio gydag awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol, a gydag arweinwyr rhaglenni yn ogystal ag Estyn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod y brwdfrydedd sydd ar gael ar gyfer y cwricwlwm newydd ar lefel ysgolion lleol yn cael ei gefnogi gan fframweithiau cenedlaethol, canllawiau sydd ar gael yn genedlaethol, cyllid sydd ar gael yn genedlaethol ym mhob rhan o Gymru. A dydd Iau yr wythnos hon, yn ogystal â chyfarfod bord gron ar argyfwng costau byw'r Ceidwadwyr, bydd Jeremy Miles, y Gweinidog addysg, yn cwrdd â phob pennaeth yng Nghymru i drafod ffyrdd eraill o gefnogi eu hymdrechion.
Prif Weinidog, a minnau'n gyn-athro, rwy'n ymfalchïo yn fy nghysylltiadau agos ag ysgolion yn fy etholaeth, pob un ohonyn nhw'n adrodd yn ffafriol iawn wrthyf ar gyflymder cyflwyno'r cwricwlwm newydd. Yn wir, ychydig wythnosau'n ôl, mwynheais ymweliad rhithwir ag Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Tref Aberdâr lle'r oedd disgyblion blwyddyn 6 yn awyddus i ddangos eu gwaith gwych i mi ar Cynefin, un o egwyddorion canolog y cwricwlwm newydd. Mae'n amlwg bod arfer rhagorol eisoes yn bodoli. Felly, yn ogystal â'r sylwadau yr ydych chi eisoes wedi'u gwneud am hyfforddiant a rhwydweithiau, pa sicrwydd y gallwch chi ei roi i ni fod yr arfer rhagorol hwnnw'n cael ei gipio a'i rannu?
Wel, Llywydd, diolch i Vikki Howells am hynna. Mae'n adroddiad go iawn gan rywun sy'n gwybod yn union beth yw bod ar y rheng flaen yn ein gwasanaeth addysg. A'r union beth y mae Vikki Howells wedi'i adrodd y prynhawn yma, Llywydd, yw fy mhrofiad i fy hun o siarad â phenaethiaid ac arweinwyr ysgolion ar lefel pwnc hefyd. Rwy'n deall, wrth gwrs, gyda phopeth y mae ysgolion wedi gorfod ymdopi ag ef yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, bod gweithio ar ddiwygio'r cwricwlwm yn her, ond mae'n her y mae ein hysgolion yn ei chyflawni'n frwdfrydig iawn. Maen nhw'n gweld y posibiliadau enfawr y mae'r cwricwlwm newydd yn eu darparu. Rwy'n credu eu bod yn gwerthfawrogi'n wirioneddol y ffordd y mae'r gwaith o'i gyflwyno yn cael ei ddatblygu ochr yn ochr â'r proffesiwn a gyda llais annatod y proffesiwn yn y ffordd y mae'n cael ei ddatblygu. Ac am y rheswm hwnnw, mae dysgu proffesiynol a sicrhau bod y gwaith sy'n cael ei wneud mewn un rhan o Gymru yn cael ei rannu ag ysgolion mewn mannau eraill yn gwbl ganolog i'r ffordd yr ydym yn credu y bydd y cwricwlwm hwn yn llwyddo. Soniais am y rhwydwaith cenedlaethol yn fy ateb blaenorol, Llywydd, ond mae'n enghraifft dda iawn o'r ffordd y mae hwn yn gwricwlwm nad yw wedi'i wneud ym Mharc Cathays, ond sy'n cael ei wneud bob dydd mewn ystafelloedd dosbarth ar hyd a lled Cymru gan staff ysgol ymroddedig ac ymrwymedig sydd eisiau ei wneud yn llwyddiant.