Y Cwricwlwm Newydd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 15 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:09, 15 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch i Laura Anne Jones am y cwestiwn, Llywydd. Mae adroddiadau ymchwil yn tynnu sylw'n gyson at yr ymrwymiad, y cymhelliant a'r cynnydd cryf y mae ysgolion yn eu gwneud yn y broses o ddiwygio'r cwricwlwm mwyaf radical ers cenhedlaeth. Rydym ni'n gweithio'n agos gyda phartneriaid rhanbarthol a lleol i sicrhau bod pob ysgol yn cael y cymorth sydd ei angen wrth iddyn nhw fwrw ymlaen i weithredu'r cwricwlwm ym mis Medi eleni.