1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 15 Chwefror 2022.
4. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i gefnogi cymunedau sy'n wynebu risg o lifogydd? OQ57679
Llywydd, ein mesurau cymorth yw'r rhai a nodir yn y cytundeb cydweithio a'r rhaglen llywodraethu.
Diolch, Prif Weinidog. Bydd yfory yn nodi dwy flynedd ers i lifogydd dinistriol daro bron i 1,500 o dai a busnesau yn fy rhanbarth yn sgil storm Dennis. Gallwch ddeall, dwi'n siŵr, y trawma parhaus a'r ofn sydd ganddynt bob tro mae'n bwrw glaw yn drwm, fel y mae hi wythnos yma, yn arbennig gan nad yw'r mwyafrif o'r adroddiadau ar y llifogydd hynny eto wedi eu cyhoeddi, nac unrhyw beth wedi newid o ran amddiffynfeydd.
Mae'r National Flood Forum—sefydliad sydd wedi ei leoli yn Lloegr—wedi bodoli ers 2002 i sicrhau bod cymunedau ac unigolion yn teimlo wedi eu cefnogi a'u grymuso i leihau eu perygl o ddioddef llifogydd. Dim ond canran fach iawn o gyllid y maent wedi'i dderbyn hyd yma i weithredu yng Nghymru. Cefnogodd Llywodraeth yr Alban sefydlu fforwm llifogydd yr Alban yn 2009, elusen sydd wedi mynd o nerth i nerth, ac sydd yn derbyn grant o £200,000 y flwyddyn i weithio ar draws yr Alban i ddatblygu grwpiau gweithredu llifogydd lleol—flood action groups—yn ogystal â darparu cymorth ar unwaith pan fydd unigolion a chymunedau yn profi llifogydd. A yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried manteision cefnogi sefydlu fforwm llifogydd Cymru i rymuso cymunedau mewn perygl yn yr un modd? Ac os nad ydych chi, a yw hyn yn rhywbeth y byddai'r Prif Weinidog yn hapus i'w drafod ymhellach?
Wel, Llywydd, diolch yn fawr i Heledd Fychan am y cwestiwn ychwanegol, a dwi'n cytuno gyda hi—dwi'n siŵr, pan fo'r glaw yn dod i lawr ac mae pobl yn clywed am y tywydd sy'n dod atom ni yng Nghymru dros yr wythnos sydd i ddod, pobl sydd wedi dioddef o lifogydd, wrth gwrs maen nhw'n pryderu ac maen nhw'n becso. Nawr, mae lot o waith wedi mynd ymlaen dros y ddwy flynedd ddiwethaf ar lefel lleol gyda'r arian sydd wedi dod o'r Llywodraeth yma yng Nghymru i helpu cymunedau lleol i deimlo'n fwy cryf pan fo pethau'n digwydd unwaith eto. Mae pwyllgor annibynnol gyda ni yma yng Nghymru'n barod—pwyllgor annibynnol sy'n cynrychioli cymunedau ledled Cymru ac sy'n ymgynghori â'r Llywodraeth. Os oes mwy o syniadau am sut rŷn ni'n gallu clywed llais pobl leol yng ngwaith y pwyllgor sydd gyda ni yn barod, wrth gwrs, rŷn i'n agored i glywed unrhyw syniadau am sut allwn ni symud yn y cyfeiriad yna.