Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 15 Chwefror 2022.
Wel, Llywydd, diolch i Jane Dodds am y cwestiwn yna. Ac, wrth gwrs, mae hi'n wir bod targed uchelgeisiol gyda ni am blannu coed yma yng Nghymru, ac mae hwnna'n bwysig achos dyna'r cyngor rŷn ni wedi ei gael oddi wrth y pwyllgor sy'n ein cynghori ni. I helpu ni i ddod at net zero yma yng Nghymru, bydd yn rhaid i ni blannu lot mwy o goed, a thrwy wneud hynny, mae cyfleon mawr i ffermwyr yma yng Nghymru i wneud pethau sy'n bwysig i ni fel cenedl, ond hefyd i gael arian i wneud pethau sy'n bwysig i ni i gyd.