Part of the debate – Senedd Cymru am 6:06 pm ar 16 Chwefror 2022.
Diolch am gyflwyno'r cynnig ac am yr amrywiaeth o gyfraniadau. Er bod consensws clir ynghylch y broblem, credaf fod y cyfraniadau'n dangos nad oes consensws clir go iawn ynghylch yr ateb, oherwydd mae hyn yn gymhleth. Mae ystod eang o rymoedd yn dod at ei gilydd. Mae'n ymwneud yn sylfaenol â marchnad sy'n newid, ac roedd James Evans yn ei gyfraniad yn cefnogi rôl y farchnad yn cyflymu newid, a dylem hefyd gydnabod bod y farchnad wedi arwain at lawer o'r symptomau a ddisgrifiwyd gan yr Aelodau. Credaf mai'r cynnydd mewn archfarchnadoedd yw un o'r grymoedd mwyaf sylweddol sydd wedi siapio canol ein trefi, pan feddyliwch fod archfarchnadoedd bellach yn gwerthu bron bopeth yr arferid ei werthu mewn siopau tua 30 mlynedd yn ôl yng nghanol y dref. Mae symud i'r tu allan i'r dref felly, a symud ar-lein wedyn, i gyd wedi dod at ei gilydd i wneud canol trefi ar draws y DU yn llawer llai atyniadol na'r hyn yr arferent fod. A phe bai mor syml ag y nododd Laura Anne Jones yn ei haraith, yn fater o arweinyddiaeth wleidyddol leol, byddech yn disgwyl gweld darlun gwahanol iawn ledled y DU, ond nid ydym yn gweld hynny. Ceir tueddiadau tebyg iawn ledled y DU, ac ar draws y byd gorllewinol mewn gwirionedd, wrth i'r grymoedd hyn oll donni trwodd.
Rydym wedi cyhoeddi cyfres o adroddiadau yn ddiweddar, un gan Archwilio Cymru ac un arall a gomisiynais gan yr Athro Karel Williams o brifysgol Manceinion, 'Small Towns, Big Issues', sy'n nodi'r her ond hefyd yn dweud bod angen ymyrraeth gymhleth, gydgysylltiedig arnom i fynd i'r afael â'r ystod o ffactorau sydd ar waith yma, ac rydym yn gweithio drwyddo yn awr. Rwyf wedi galw grŵp o arbenigwyr ynghyd i fynd drwy'r adroddiad hwn yn fanwl, i ddeall sut y gallwn weithredu hyn, ac mae Janet Finch-Saunders yn nodi un o'r problemau, sy'n ymwneud ag adnoddau ar gyfer adrannau cynllunio. Mae'n siŵr bod hynny'n ffactor. Nid oes ateb syml i hynny, oherwydd mae'r adnoddau'n gyfyngedig. Mae'n un o'r rhesymau pam ein bod wedi cefnogi cyd-bwyllgorau corfforaethol i allu cyfuno adnoddau ac arbenigedd ar draws rhanbarth, i helpu gyda gwasanaethau cyffredin. Maent hefyd yn edrych ar rôl landlordiaid a rhenti, sy'n amlwg yn cyfyngu ar lawer o bobl.
Mae ffurf newidiol canol tref a'r ffaith bod canol trefi, yn aml, wedi'u hamgylchynu gan 'doesen', fel y mae Karel Williams yn ei ddisgrifio, o gymdogaethau incwm isel, yn gyrru llif arian gwahanol i mewn i ganol y dref, tra bod y tu allan i'r dref yn denu cwsmeriaid incwm uwch, sydd yn ei dro yn gyrru'r mathau hynny o siopau ac yn creu dirywiad cynyddol. Ac rydym yn gweld niferoedd cynyddol o unedau gwag yn y canolfannau siopa y tu allan i'r dref bellach, ledled America ac Ewrop, felly nid yw'r rhain yn rymoedd yr ydym yn eu hwynebu ar ein pen ein hunain. A chredaf fod angen inni ailystyried rôl manwerthu, y tu allan i'r dref ac yn y dref, ac fel y dywedodd Sam Kurtz yn ei gyfraniad, esiampl y dull 'canol tref yn gyntaf' a hyrwyddwyd gennym yng Nghaerfyrddin, a dod â gwasanaethau cyhoeddus i ganol trefi er mwyn cynyddu niferoedd ymwelwyr a chynnig gwasanaethau yn hytrach na manwerthu'n unig ynghanol y mannau lle mae'r siopau a chanol trefi'n gweld eu rôl.
Felly, mae deinameg newidiol ar waith yn bendant. Mae llawer o'r rhain yn gymhleth. Ni cheir ateb syml i lawer ohonynt, ac fel y dywedaf, rydym wedi nodi, drwy ddadansoddiad gan academydd annibynnol, ac yn awr, drwy greu'r hyn y maent yn ei alw'n gynghrair dros newid, ymrwymiad i weithio drwy'r rhain. Ond rwy'n credu bod ychydig o le i optimistiaeth, ac rwy'n meddwl bod enghraifft Casnewydd yn un. Credaf fod Laura Anne Jones yn rhy llym ar Gasnewydd; mae'n siŵr ei bod wedi ei chael hi'n anodd, fel y mae llawer o drefi wedi ei chael hi'n anodd. Cafwyd oddeutu £30 miliwn o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yng Nghasnewydd. Ond rwy'n credu bod y farchnad newydd sydd wedi'i hadfywio yn enghraifft o lle mae'r cyngor wedi gweithio'n ddeinamig ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru a'r sector preifat, ac rydym yn gobeithio gweld agor marchnad newydd Casnewydd y mis nesaf, gyda dros 100 o fasnachwyr, llys bwyd, bar, gweithleoedd, campfa a gardd ar y to, a chredaf y bydd hynny'n creu deinameg cadarnhaol a fydd yn denu pobl i mewn ac yn arwain at effaith ganlyniadol, gobeithio.
Ond nid oes diben twyllo ein hunain fod atebion pleidiol neu syml wrth law, a chredaf ei bod yn ddyletswydd arnom i gyd i geisio cydweithio i nodi rhai pethau y gellir eu gwneud. Pe bai mor syml ag ail-lunio ardrethi busnes yn unig, byddem wedi gweld ymateb cyn hyn, oherwydd rydym wedi rhoi cefnogaeth sylweddol i ardrethi busnes ledled Cymru ers peth amser ac nid yw wedi gwneud llawer o wahaniaeth, a bod yn onest. Felly, rwy'n credu mai ofer yw chwilio am atebion syml; mae angen inni gydnabod cymhlethdod hyn, cydnabod y grymoedd lluosog sydd ar waith a cheisio cydweithio drwy adeiladu cynghreiriau ar gyfer newid ym mhob sector ledled y wlad er mwyn sicrhau pwrpas newydd i ganol ein trefi.