– Senedd Cymru am 5:52 pm ar 16 Chwefror 2022.
Mae yna un eitem arall, sef eitem 9, y ddadl fer. Dwi'n galw ar Laura Anne Jones i gyflwyno'r ddadl fer.
Diolch, Lywydd. Hoffwn roi munud o fy amser i Peter Fox, James Evans, Janet Finch-Saunders a Samuel Kurtz.
Rwy'n falch o gyflwyno'r ddadl hon heddiw, 'Adfywio canol trefi a dinasoedd yng Nghymru: ni fydd mwy o'r un peth yn gweithio'. Erbyn hyn, mae'n bwysicach nag erioed i drafod y materion hyn ar ôl i'r ddwy flynedd ddiwethaf achosi niwed aruthrol i ganol trefi a dinasoedd. Mae'n hollbwysig ein bod yn trafod y materion allweddol sy'n wynebu canol trefi a dinasoedd a chynnig atebion ymarferol i ddiogelu ein hetholwyr a'n cymunedau wrth symud ymlaen.
Mae'r heriau sy'n wynebu Cymru yn dilyn COVID-19 yn debyg i adfywiad Prydain ar ôl y rhyfel ym 1945. Mae angen i lywodraeth genedlaethol a lleol ddarparu atebion integredig a gwneud penderfyniadau dewr wrth symud ymlaen, gan ddarparu arweinyddiaeth onest, gref a deinamig. Yn anffodus, yn fy ardal i yn Nwyrain De Cymru a gweddill Cymru, mae'r rhagolygon i lawer o ganol trefi a dinasoedd yn llwm. O bob ardal ym Mhrydain, credir mai yng Nghasnewydd y ceir y nifer mwyaf o siopau wedi cau, gyda mwy na thraean o siopau yng nghanol y ddinas wedi cau'n barhaol. Mae hyn yn dangos maint yr her a wynebwn yma yng Nghymru.
Mae'n peri pryder fod COVID-19 wedi costio mwy na thraean eu hincwm posibl i fusnesau mewn dinasoedd a chanol trefi mawr, ac wedi cau miloedd ers mis Mawrth 2020. Nododd yr adroddiad 'City centres: past, present and future' gan The Centre for Cities fod dinasoedd fel Casnewydd wedi dioddef heriau sylweddol oherwydd diffyg buddsoddiad dros y blynyddoedd gan fusnesau tra-medrus. Mae'r cwmnïau hyn yn ffafrio lleoliad yng nghanol y ddinas fwyfwy gan fod yr amgylchedd busnes dwys yn eu galluogi i rannu syniadau a gwybodaeth yn hawdd. Os yw canol dinas yn methu denu'r mathau hyn o gwmnïau, bydd y ddinas gyfan yn colli'r buddsoddiad hwn, ac yn ei dro bydd hyn yn effeithio ar gyflogau a'r gallu i gamu ymlaen mewn gyrfa a chyfleoedd yn lleol.
Mae'r diffyg mewnfuddsoddiad wedi cael effaith ganlyniadol ddinistriol ar yr economi leol ac economi Cymru yn gyffredinol. Collwyd cyfleoedd i ddenu swyddi tra-medrus a swyddi ar gyflogau uwch i'r ardal, sy'n bwydo'n ôl i broblem arallgyfeirio y soniais amdani o'r blaen. Mae hon yn enghraifft wych o pam y dylai porthladdoedd rhydd, mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU, gael eu hyrwyddo a'u dwyn i leoedd fel Casnewydd, i annog y mewnfuddsoddiad hwnnw. Mae'r adroddiad hefyd yn dangos pa mor wael yw'r sefyllfa yn fy ardal i bellach, gyda chyfradd siopau gwag yn 24 y cant yng Nghasnewydd, o'i gymharu â Brighton a Birmingham, sydd â chyfradd siopau gwag o rhwng 8 a 10 y cant.
Fodd bynnag, ni ellir rhoi'r bai i gyd ar y pandemig; yn bendant nid oedd pethau'n fêl i gyd cyn y pandemig. Ers dros ddegawd, cafodd ein strydoedd mawr eu taro gan storm berffaith dirwasgiad, ardrethi busnes cynyddol a mwy o gystadleuaeth ar-lein. Gwelwn ganlyniadau hyn gyda'r canlynol: rhwng 2012 a 2020, cafwyd gostyngiad o 28.8 y cant yn nifer y canghennau banc a chymdeithasau adeiladu, gan ostwng o 695 i 495; mae nifer y peiriannau ATM wedi gostwng 18 y cant yn ystod y tair blynedd diwethaf; mae niferoedd swyddfeydd post wedi gostwng 3.9 y cant yn ystod y degawd diwethaf. Ers mis Ionawr 2020, mae 64 o gwmnïau manwerthu wedi methu, gan arwain at gau 6,882 o siopau, ac effeithio ar 133,600 o weithwyr ym Mhrydain. Arweiniodd hyn at sefyllfa lle mae un o bob saith siop ar strydoedd mawr yng Nghymru yn wag. Fodd bynnag, mae'n llawer uwch, fel y dywedais, mewn ardaloedd fel Casnewydd. Yr her yn awr fydd denu cwsmeriaid yn ôl i siopau ar ôl cyfnod hir o ddibynnu ar werthiannau ar-lein.
Pan gyflwynodd Llywodraeth Cymru gyfyngiadau ar yr hyn y gallai ac na allai manwerthwyr ei werthu, fe wnaeth hyn orfodi mwy o bobl i ddibynnu ar siopa ar-lein, sydd wedi datblygu dros y blynyddoedd i fod yn llawer mwy effeithlon gyda danfoniadau rhad neu am ddim a'r gallu i ddychwelyd eitemau yn golygu nad oes angen mynd i siop yn y cnawd. Mae'n gwbl glir i mi fod angen strategaeth ar Gymru i ddenu ystod fwy amrywiol o ddarparwyr gwasanaethau i'n trefi a'n dinasoedd. Rydym i gyd yn gwybod y gall canol trefi fod yn fywiog a chynaliadwy, cyhyd â bod penderfyniadau dewr yn cael eu gwneud a bod ganddynt arweinyddiaeth uchelgeisiol yn sbarduno datblygiad. Yn anffodus, nid yw Cymru wedi cael y math hwn o arweinyddiaeth gyda Lafur Cymru wrth y llyw. Rydym wedi gweld rhai awdurdodau lleol, fel sir Fynwy, yn gorfod mynd ati eu hunain i ddiogelu canol trefi, ac maent wedi bod yn ei wneud gydag un fraich wedi'i chlymu y tu ôl i'w cefnau gan Lywodraeth Cymru.
Mae angen inni weld syniadau radical a sylfaenol iawn yn cael eu rhoi ar waith a fyddai'n chwyldroi lleoedd fel Casnewydd, megis: darparu buddsoddiad drwy Busnes Cymru i gynorthwyo busnesau bach a chanolig eu maint i gael presenoldeb ar-lein i gystadlu â busnesau mwy; lle mae unedau ac adeiladau mwy yn parhau i fod yn wag, creu mannau manwerthu a rennir i roi pwyslais ar greu ardaloedd bwyta sy'n hyrwyddo bwytai bach annibynnol o ansawdd da; rhoi camau llymach ar waith yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol, megis cyflogi mwy o wardeiniaid diogelwch cymunedol a phwyso ar yr heddlu i gynyddu eu presenoldeb yng nghanol y ddinas fel bod pobl yn teimlo'n ddiogel yn eu trefi a'u dinasoedd eto; a gostwng ardrethi busnes fel ei fod yn rhyddhau'r baich treth ar fanwerthwyr, gan ganiatáu i'r potensial ehangu, ailfuddsoddi a chreu mwy o swyddi'n lleol. Yn ogystal, byddai'n helpu i adfywio canol trefi, gan greu ysgogiadau i ddenu busnesau i ganol trefi.
Mae angen inni asesu a lleihau taliadau parcio. Er enghraifft, mae'n well gan bobl fynd i Gwmbrân yn fy ardal yn hytrach na chanol dinas Casnewydd, oherwydd yr amrywiaeth o fusnesau a'r cyfleoedd parcio am ddim. Nid yw'n gymhleth. Mae ffyrdd ymarferol a hawdd o adfywio canol ein trefi i sicrhau eu bod yn ffynnu unwaith eto. Arferai dinas fy ardal i, Casnewydd, fod yn lle bywiog; dyna oedd y lle i fynd yn arfer bod, a byddai nifer yn teithio'n bell o Ddwyrain De Cymru i fynd yno i siopa. Nid oes unrhyw reswm pam na all fod felly eto. Yn syml iawn, mae angen inni greu lle fel bod pobl eisiau ymweld â chanol trefi a dinasoedd eto. Mae angen inni sicrhau bod pobl, yn hytrach na chael trên o Gwmbrân i Gaerdydd neu Gas-gwent i Fryste, yn canfod rhesymau dros ddod i leoedd fel Casnewydd.
Ni allwn feddwl am ein strydoedd mawr fel siopau yn unig mwyach. Mae angen inni fod yn greadigol ac yn ddyfeisgar gyda'r gofod sydd gennym i'w gynnig, gan greu profiad siopa sy'n wahanol i unrhyw beth y gallwch ei gael ar-lein. Mae angen i ganol trefi fod yn fannau lle mae pobl yn dod i ddysgu, i fanteisio ar wasanaethau cyhoeddus, i fyw ac i rannu amser. Mae'n rhaid iddynt gael y cymysgedd cyfan, ac mae angen iddo barhau i symud gyda'r oes. Mae'n rhaid i symud gyda'r oes olygu hefyd fod yn rhaid i wasanaethau ar-lein ac all-lein ddod ynghyd. Dylai pob manwerthwr, ni waeth pa mor fach, allu cynnig llwyfan e-fasnach sylfaenol fel y gall cwsmeriaid siopa ym mha ffordd bynnag sy'n gyfleus iddynt. Byddai hyn yn golygu bod cwsmeriaid yn gallu gweld beth sydd yn y siop cyn mynd ar daith i'w stryd fawr, neu'n gallu dewis archebu'n uniongyrchol o'r siop. Unwaith eto, mae'n dechrau gyda bod yn ddyfeisgar a chynnig y cymorth cywir i fusnesau lleol er mwyn iddynt allu ffynnu.
Fodd bynnag, ni fydd dim o hyn yn bosibl oni bai bod cynghorau lleol a Llywodraeth Cymru yn penderfynu pa fath o wlad yr ydym eisiau byw ynddi, ac ymyrryd i ddiogelu'r seilwaith cymdeithasol. Gan fod arbenigwyr diwydiant wedi rhybuddio ers tro fod ardrethi busnes cynyddol yn rhan o'r rheswm dros unedau siopau gwag Cymru, mae angen inni fynd yn ôl at y pethau sylfaenol a chreu amgylchedd treth isel, deniadol i fusnesau newydd ffynnu'n hyderus. Bydd mentrau syml fel cynnig gostyngiadau ardrethi busnes i fusnesau annibynnol ac entrepreneuriaid, gwrthod cymeradwyo ceisiadau cynllunio y tu allan i'r dref a chael gwared ar daliadau parcio yn gwneud llawer i helpu ein strydoedd mawr.
I gloi, rydym angen i'r Llywodraeth hon ddarparu mwy o gefnogaeth a rhoi mwy o bwyslais ar ganol trefi a dinasoedd, gan nad yw'r polisi 'canol y dref yn gyntaf' a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn ddim byd ond methiant llwyr. Ni ellir caniatáu iddynt ddihoeni a chael eu gadael i lusgo ar ôl Caerdydd mwyach. Mae angen cymorth arnynt ar unwaith i atal y dirywiad araf. Byddai rhai o'r syniadau y tynnais sylw atynt yma heddiw nid yn unig yn rhoi ein trefi a'n dinasoedd yn ôl ar y llwybr cywir, Lywydd, byddent hefyd yn creu amgylchedd cyffrous ar gyfer mewnfuddsoddi a chyfleoedd gwaith sy'n talu'n dda. Edrychaf ymlaen at glywed gan gyd-Aelodau yn y Siambr hon heddiw am eu meddyliau a'u syniadau ar sut y gallwn adfywio canol trefi a dinasoedd sydd wedi'u taro'n galed, gan na fydd mwy o'r un peth yn ddigon.
Cyfraniad un funud gan Peter Fox, i ddechrau.
Diolch, Lywydd, a diolch, Laura, am roi munud o'ch amser i mi. Mae'n siŵr y bydd rhai pethau'n cael eu hailadrodd yn y cyfraniadau. Mae dwy flynedd o bandemig a'r duedd gynyddol o siopa ar-lein wedi ychwanegu at y newid yn y ffordd y mae pobl yn defnyddio ein trefi. Mae hyn wedi creu heriau enfawr i'n strydoedd mawr a'u busnesau. Ond ni all busnesau wynebu'r dyfodol ar eu pen eu hunain. Mae angen cynyddu ymdrechion Llywodraeth Cymru, ynghyd ag awdurdodau lleol, ledled Cymru. Gallwn weld, drwy edrych ar y Fenni, sut y gall stryd fawr fywiog edrych. Cydnabyddir yn gyffredinol, er mwyn ail-egnïo ein strydoedd mawr a'n trefi, fod angen inni eu trawsnewid yn rhywbeth mwy na chanol trefi traddodiadol yn unig, fod angen inni eu newid yn gyrchfannau bywiog a phoblogaidd i ymwelwyr. Awyrgylch y dref, yr amrywiaeth eang o brofiad y mae'n ei chynnig, ei sector lletygarwch amrywiol, ei phrofiadau siopa arbenigol a'r siopau coffi yw'r cynhwysion i wneud atyniad llwyddiannus i ymwelwyr. Ond mae angen cymhellion tymor byr i helpu'r safleoedd hyn, megis rhyddhad parhaus i ardrethi busnes sy'n llyffetheirio. Rydym yn croesawu'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd yng Nghymru, ond mae angen parhau â hynny, ac edrych ar bethau, fel y nodais yma yn y Siambr wrth Weinidog yr Economi, fel y cynllun talebau stryd fawr, lle y gallwn alluogi pobl i fuddsoddi a gwario ar eu stryd fawr leol. Fodd bynnag, y flaenoriaeth uniongyrchol yw cael cymorth ariannol digonol i'r busnesau sydd wedi cael eu taro waethaf. Os bydd Gweinidogion yn methu gwneud hyn mewn ffordd sy'n cydnabod o ddifrif yr anawsterau y maent yn eu hwynebu, fe gollir yr union wead sy'n gwneud ein trefi yr hyn ydynt. Rhaid inni warchod rhag creu trefi anghyfannedd yng Nghymru.
Hoffwn ddiolch i chi, Laura Anne, am roi munud o'ch amser i mi. Mae canol trefi mewn cymunedau yn fy etholaeth wych ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed yn ganolog i gymunedau. Dyma lle y bydd pobl yn ymgynnull mewn siopau coffi, tafarndai, bwytai a siopau ar gyfer nwyddau hanfodol, lle maent yn cydnabod gwaith gwych ein stryd fawr. Mae'r Gymru wledig yn gartref i rai o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig ledled y wlad. Gwerth ychwanegol gros canolbarth Cymru yw'r isaf o ranbarthau economaidd y DU, sef £17,628 y pen yn 2019. Mae adfywio canol ein trefi yn hanfodol er mwyn mynd i'r afael â thlodi a chynyddu cyfoeth teuluoedd mewn mannau fel canolbarth Cymru. Rhaid gwneud hyn drwy fuddsoddi'n briodol i gefnogi mentrau preifat ac entrepreneuriaeth. Pe bai'r Llywodraeth yn rhoi benthyciadau busnes i entrepreneuriaid ifanc yn yr un modd ag y mae'n rhoi benthyciadau i fyfyrwyr, rwy'n siŵr y byddai'r wlad hon mewn sefyllfa economaidd wahanol iawn. Diolch, Lywydd, a diolch, Laura.
Hoffwn ddiolch i Laura Anne Jones am ei chyfraniad rhagorol, ac nid wyf yn credu ein bod yn siarad digon am hyn. Cydnabu werth ein strydoedd mawr, a sut y mae'r mentrau—. Gallem edrych ar ardrethi busnes, taliadau parcio, mentrau newydd. Mae'n ffaith—. O, rhaid imi ddatgan buddiant fel perchennog eiddo masnachol. Mae'n ddrwg gennyf, Lywydd. Roeddwn wedi ysgrifennu yma fod yn rhaid imi ddatgan buddiant, ac anghofiais wneud hynny.
Felly, mae'r stryd fawr yn newid, ond rhaid inni groesawu'r newidiadau hynny. Nawr, rwy'n falch iawn o gynrychioli etholaeth hardd Aberconwy, lle mae gennym strydoedd mawr gwych. Ond mae gennym broblem, Ddirprwy Weinidog, sef yr amser y mae'n ei gymryd i newid meddiant unedau siopau. Mae gennyf lawer o asiantau gosod sy'n dod ataf, mae gennyf lawer o denantiaid sydd am symud i safleoedd, ac mae gennyf lawer o landlordiaid. Os ydych am newid o ddosbarth A1 i ddosbarth A3—os ydych am newid busnes penodol—a bod angen caniatâd cynllunio arnoch, gall gymryd hyd at naw mis neu hyd yn oed 12 mis i gael y caniatâd cynllunio hwnnw. Felly, fy apêl syml i chi yw: a allwch wneud rhywbeth yn ein hadrannau cynllunio sydd dan bwysau i sicrhau bod ganddynt gapasiti i droi ceisiadau cynllunio o gwmpas yn gyflym iawn, fel nad yw'r eiddo'n wag ar y stryd fawr, gan wneud i'n strydoedd mawr edrych, fel y dywedoch chi, Peter, yn debycach i drefi anghyfannedd? Mae'n hanfodol fod gennym broses gynllunio garlam a chyflym ar waith. Diolch, Lywydd.
Felly, os edrychwn yn ôl ar 2010, roeddwn yn dal i fod yn yr ysgol, dim ond cwrw oedd Corona, a chroesawodd pobl Caerfyrddin Debenhams i ganol eu tref yn Rhodfa'r Santes Catrin. Fodd bynnag, gwta 11 mlynedd yn ddiweddarach, ym mis Mai y llynedd, fe gaeodd, gan adael twll 6000 metr sgwâr yng nghanol y dref. Ond diolch byth, oherwydd gwerth £18.5 miliwn o fuddsoddiad—£15 miliwn gan Lywodraeth y DU—mae hen siop Debenhams yn cael ei hailddatblygu'n gampfa, yn gartref i rai o gasgliadau amgueddfeydd y sir, ac yn ganolfan groeso i dwristiaid i dref hynaf Cymru. Caiff y prosiect ei ddatblygu gan y bwrdd iechyd lleol a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Fodd bynnag, fel y dywedodd Dr Edward Jones, darlithydd economeg ym Mhrifysgol Bangor,
'Mae'n mynd i fod yn stryd fawr wahanol iawn i'r hyn yr ydym wedi arfer ei weld.'
Felly, gadewch inni beidio â bod ofn y newid hwn. Gan fod prosiectau fel hyb Caerfyrddin yn arwain at ddenu'r nifer angenrheidiol o ymwelwyr i ganol ein trefi, ac ar ein strydoedd mawr unwaith eto, gadewch inni ei groesawu a chofleidio'r newid a ddaw yn ei sgil. Diolch.
Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, nawr, i ymateb i'r ddadl—Lee Waters
Diolch am gyflwyno'r cynnig ac am yr amrywiaeth o gyfraniadau. Er bod consensws clir ynghylch y broblem, credaf fod y cyfraniadau'n dangos nad oes consensws clir go iawn ynghylch yr ateb, oherwydd mae hyn yn gymhleth. Mae ystod eang o rymoedd yn dod at ei gilydd. Mae'n ymwneud yn sylfaenol â marchnad sy'n newid, ac roedd James Evans yn ei gyfraniad yn cefnogi rôl y farchnad yn cyflymu newid, a dylem hefyd gydnabod bod y farchnad wedi arwain at lawer o'r symptomau a ddisgrifiwyd gan yr Aelodau. Credaf mai'r cynnydd mewn archfarchnadoedd yw un o'r grymoedd mwyaf sylweddol sydd wedi siapio canol ein trefi, pan feddyliwch fod archfarchnadoedd bellach yn gwerthu bron bopeth yr arferid ei werthu mewn siopau tua 30 mlynedd yn ôl yng nghanol y dref. Mae symud i'r tu allan i'r dref felly, a symud ar-lein wedyn, i gyd wedi dod at ei gilydd i wneud canol trefi ar draws y DU yn llawer llai atyniadol na'r hyn yr arferent fod. A phe bai mor syml ag y nododd Laura Anne Jones yn ei haraith, yn fater o arweinyddiaeth wleidyddol leol, byddech yn disgwyl gweld darlun gwahanol iawn ledled y DU, ond nid ydym yn gweld hynny. Ceir tueddiadau tebyg iawn ledled y DU, ac ar draws y byd gorllewinol mewn gwirionedd, wrth i'r grymoedd hyn oll donni trwodd.
Rydym wedi cyhoeddi cyfres o adroddiadau yn ddiweddar, un gan Archwilio Cymru ac un arall a gomisiynais gan yr Athro Karel Williams o brifysgol Manceinion, 'Small Towns, Big Issues', sy'n nodi'r her ond hefyd yn dweud bod angen ymyrraeth gymhleth, gydgysylltiedig arnom i fynd i'r afael â'r ystod o ffactorau sydd ar waith yma, ac rydym yn gweithio drwyddo yn awr. Rwyf wedi galw grŵp o arbenigwyr ynghyd i fynd drwy'r adroddiad hwn yn fanwl, i ddeall sut y gallwn weithredu hyn, ac mae Janet Finch-Saunders yn nodi un o'r problemau, sy'n ymwneud ag adnoddau ar gyfer adrannau cynllunio. Mae'n siŵr bod hynny'n ffactor. Nid oes ateb syml i hynny, oherwydd mae'r adnoddau'n gyfyngedig. Mae'n un o'r rhesymau pam ein bod wedi cefnogi cyd-bwyllgorau corfforaethol i allu cyfuno adnoddau ac arbenigedd ar draws rhanbarth, i helpu gyda gwasanaethau cyffredin. Maent hefyd yn edrych ar rôl landlordiaid a rhenti, sy'n amlwg yn cyfyngu ar lawer o bobl.
Mae ffurf newidiol canol tref a'r ffaith bod canol trefi, yn aml, wedi'u hamgylchynu gan 'doesen', fel y mae Karel Williams yn ei ddisgrifio, o gymdogaethau incwm isel, yn gyrru llif arian gwahanol i mewn i ganol y dref, tra bod y tu allan i'r dref yn denu cwsmeriaid incwm uwch, sydd yn ei dro yn gyrru'r mathau hynny o siopau ac yn creu dirywiad cynyddol. Ac rydym yn gweld niferoedd cynyddol o unedau gwag yn y canolfannau siopa y tu allan i'r dref bellach, ledled America ac Ewrop, felly nid yw'r rhain yn rymoedd yr ydym yn eu hwynebu ar ein pen ein hunain. A chredaf fod angen inni ailystyried rôl manwerthu, y tu allan i'r dref ac yn y dref, ac fel y dywedodd Sam Kurtz yn ei gyfraniad, esiampl y dull 'canol tref yn gyntaf' a hyrwyddwyd gennym yng Nghaerfyrddin, a dod â gwasanaethau cyhoeddus i ganol trefi er mwyn cynyddu niferoedd ymwelwyr a chynnig gwasanaethau yn hytrach na manwerthu'n unig ynghanol y mannau lle mae'r siopau a chanol trefi'n gweld eu rôl.
Felly, mae deinameg newidiol ar waith yn bendant. Mae llawer o'r rhain yn gymhleth. Ni cheir ateb syml i lawer ohonynt, ac fel y dywedaf, rydym wedi nodi, drwy ddadansoddiad gan academydd annibynnol, ac yn awr, drwy greu'r hyn y maent yn ei alw'n gynghrair dros newid, ymrwymiad i weithio drwy'r rhain. Ond rwy'n credu bod ychydig o le i optimistiaeth, ac rwy'n meddwl bod enghraifft Casnewydd yn un. Credaf fod Laura Anne Jones yn rhy llym ar Gasnewydd; mae'n siŵr ei bod wedi ei chael hi'n anodd, fel y mae llawer o drefi wedi ei chael hi'n anodd. Cafwyd oddeutu £30 miliwn o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yng Nghasnewydd. Ond rwy'n credu bod y farchnad newydd sydd wedi'i hadfywio yn enghraifft o lle mae'r cyngor wedi gweithio'n ddeinamig ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru a'r sector preifat, ac rydym yn gobeithio gweld agor marchnad newydd Casnewydd y mis nesaf, gyda dros 100 o fasnachwyr, llys bwyd, bar, gweithleoedd, campfa a gardd ar y to, a chredaf y bydd hynny'n creu deinameg cadarnhaol a fydd yn denu pobl i mewn ac yn arwain at effaith ganlyniadol, gobeithio.
Ond nid oes diben twyllo ein hunain fod atebion pleidiol neu syml wrth law, a chredaf ei bod yn ddyletswydd arnom i gyd i geisio cydweithio i nodi rhai pethau y gellir eu gwneud. Pe bai mor syml ag ail-lunio ardrethi busnes yn unig, byddem wedi gweld ymateb cyn hyn, oherwydd rydym wedi rhoi cefnogaeth sylweddol i ardrethi busnes ledled Cymru ers peth amser ac nid yw wedi gwneud llawer o wahaniaeth, a bod yn onest. Felly, rwy'n credu mai ofer yw chwilio am atebion syml; mae angen inni gydnabod cymhlethdod hyn, cydnabod y grymoedd lluosog sydd ar waith a cheisio cydweithio drwy adeiladu cynghreiriau ar gyfer newid ym mhob sector ledled y wlad er mwyn sicrhau pwrpas newydd i ganol ein trefi.
Diolch i’r Dirprwy Weinidog. Diolch am y ddadl fer, a dyna ddod â ni at ddiwedd ein gwaith heddiw.