Y Gronfa Ffyniant Gyffredin

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 16 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 1:35, 16 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Yn seiliedig ar ddyraniad Cymru o'r gronfa adfywio cymunedol eleni, sydd fel y gwyddoch, yn rhagflaenydd i’r gronfa ffyniant gyffredin, gallai Cymru dderbyn oddeutu £90 miliwn o’r gronfa ffyniant gyffredin yn y flwyddyn ariannol nesaf. Mae hyn yn amlwg yn llai o lawer nag addewidion mynych Llywodraeth y DU, gan gynnwys yr addewid maniffesto penodol yn 2019, i ddarparu arian yn lle cronfeydd strwythurol yr UE, a oedd yn werth £375 miliwn y flwyddyn i Gymru.