1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru ar 16 Chwefror 2022.
2. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o faint o arian a ddaw i Gymru drwy'r gronfa ffyniant gyffredin yn y flwyddyn ariannol nesaf? OQ57664
Yn seiliedig ar ddyraniad Cymru o'r gronfa adfywio cymunedol eleni, sydd fel y gwyddoch, yn rhagflaenydd i’r gronfa ffyniant gyffredin, gallai Cymru dderbyn oddeutu £90 miliwn o’r gronfa ffyniant gyffredin yn y flwyddyn ariannol nesaf. Mae hyn yn amlwg yn llai o lawer nag addewidion mynych Llywodraeth y DU, gan gynnwys yr addewid maniffesto penodol yn 2019, i ddarparu arian yn lle cronfeydd strwythurol yr UE, a oedd yn werth £375 miliwn y flwyddyn i Gymru.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae'r ffaith bod cwestiynau o hyd ynglŷn â hyn a ninnau mor agos at pan ddylem fod yn cael gwybod am hyn yn dweud y cyfan, onid yw, o ran y modd y mae San Steffan yn trin yr holl broses hon? A gwyddom beth yw cyfanswm yr ydym wedi ei golli'n barod, oni wyddom? Rydym wedi colli £375 miliwn o gyllid strwythurol yr UE ac yn ei le, cawsom £46 miliwn gan San Steffan, colled o £329 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon. A heb sôn am y cwestiwn, Weinidog, ynglŷn ag a fydd San Steffan yn addef faint o arian y byddwn yn ei gael drwy'r gronfa ffyniant gyffredin, mae'r ffordd y bydd yn cael ei wario yn peri cryn bryder, onid yw, gan fod a wnelo hyn â mwy na'r swm o gyllid yn unig? Mae trosolwg strategol Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru wedi’i ddisodli gan broses pot mêl, gyda San Steffan yn dewis cynlluniau penodol yn seiliedig ar feini prawf amwys. A ydych yn cytuno â mi, Weinidog, nad oes unrhyw gyfiawnhad economaidd dros wario arian fel hyn, ac mai’r unig ffordd o ddehongli’r ffaith bod y Torïaid wedi dewis y broses hon yw eu bod yn dymuno gallu pwyntio at rai cynlluniau penodol sydd wedi derbyn arian er mwyn ceisio ennill pleidleisiau?
Wel, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir iawn fod ymddygiad Llywodraeth y DU yn bell iawn o'r addewidion a wnaed ganddynt dro ar ôl tro ar sawl ffurf, ac rydym yn mynd i golli £1 biliwn. Dyna faint y bydd Cymru'n ei golli dros yr ychydig flynyddoedd nesaf—£1 biliwn. Ac ni allaf weld sut y gallai unrhyw unigolyn rhesymol amddiffyn hynny, ni waeth beth fo'u gwleidyddiaeth. Ni chredaf fod unrhyw un wedi dod i'r lle hwn i geisio cyfiawnhau Cymru'n colli £1 biliwn. Ac wrth gwrs, rydym hefyd yn gweld rhanbarthau yn Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon yn cael eu trin yn yr un modd, gan fod Llywodraeth y DU wedi dewis tanariannu'r hen raglenni UE hynny yn fwriadol er gwaethaf addewidion clir na fyddai unrhyw un yn colli'r un geiniog.
Ac mae pryder wedyn ynglŷn â sut y caiff yr arian ei wario. Nid oes dealltwriaeth strategol o sut y caiff yr arian hwnnw ei wario. Nid yw’r symiau bach iawn o arian nad ydynt wedi’u cysylltu’n strategol yn y cynlluniau rhagflaenol yn rhoi llawer o obaith ar gyfer y dyfodol, pe byddem yn parhau ar y llwybr hwnnw. Ac ni ellir gwadu bod cael Aelod Seneddol Ceidwadol yn y DU yn golygu eich bod yn fwy tebygol o gael arian drwy'r ffordd y mae'r arian wedi'i ddyrannu. Ac nid yw hynny'n cyfateb i fap o angen yng Nghymru, Lloegr, yr Alban nac unrhyw ran arall o'r DU.
Felly, mae her amlwg yma. Serch hynny, mae ffordd o sicrhau nad yw hyn yn digwydd, sef drwy gael dealltwriaeth lawn, gyda meini prawf cyhoeddedig, o sut y caiff yr arian ei ddefnyddio—fframwaith DU gyfan, gyda rôl briodol i Lywodraeth Cymru a'n partneriaid. Dyna sut y dylai hyn weithio, a sut y gallai weithio. Nid yw’n rhy hwyr i Michael Gove newid cyfeiriad am ba bynnag reswm, ond fel rydym wedi’i weld gyda phorthladdoedd rhydd yn yr Alban, mae'n bosibl dod i gytundeb os yw Llywodraeth y DU mewn sefyllfa lle y credant fod hynny'n wirioneddol bwysig. Bydd y llwybr presennol yn golygu y bydd gan Gymru lai o lais ynghylch llai o arian, ac ni all hynny fod yn ganlyniad da i unrhyw Aelod yn y lle hwn.
Weinidog, cytunaf yn llwyr â chi ei bod yn bwysig nad yw Cymru ar ei cholled o ganlyniad i’r newid o'r cronfeydd strwythurol Ewropeaidd i’r gronfa ffyniant gyffredin, ac rwy’n siŵr y bydd gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig gryn ddiddordeb yn y mater penodol hwn maes o law. Nawr, ddoe, dywedodd y Prif Weinidog nad yw'n rhy hwyr i Lywodraeth y DU gydweithredu â Llywodraeth Cymru ynghylch darparu cyllid y gronfa ffyniant gyffredin, ac rydym wedi gweld sut y mae ymgysylltu rhynglywodraethol cadarnhaol wedi sicrhau manteision ar ffurf bargeinion dinesig a bargeinion twf, er enghraifft. Felly, a allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am eich trafodaethau diweddaraf gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â’r gronfa ffyniant gyffredin, yn enwedig yng ngoleuni adroddiad diweddar pwyllgor dethol Tŷ’r Arglwyddi ar y cyfansoddiad?
Wel, dylwn longyfarch yr Aelod. Dyna’r tro cyntaf i Aelod Ceidwadol yn y lle hwn ddweud na ddylai fod yn dderbyniol fod Cymru’n colli arian yn sgil y newid o gronfeydd strwythurol Ewropeaidd. Mae hwnnw'n ddatganiad i'w groesawu'n fawr. Y drafferth yw bod cynllun y Canghellor yn dangos y bydd Cymru, heb os, yn colli arian yn y dyfodol, gan na fydd cronfa ffyniant gyffredin y DU gyfan, sef yr arian y mae Llywodraeth y DU wedi dweud yn glir iawn y bydd yn olynu cronfeydd yr UE, ond yn cynnwys £400 miliwn yn unig ar gyfer y DU gyfan y flwyddyn nesaf. Nawr, nid ydym byth yn mynd i gael £375 miliwn ar gyfer Cymru yn unig o'r arian hwnnw. Rydym wedi ceisio cael sgyrsiau gweinidogol uniongyrchol am hyn fwy nag unwaith. Hyd yn hyn, bu rhywfaint o ymgysylltu rhwng swyddogion, ac mae hynny wedi gwella dros yr ychydig fisoedd diwethaf, ond nid ydym mewn sefyllfa o hyd lle cafwyd cynnig ystyrlon i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru fel partneriaid i wneud penderfyniadau ar sut i ddefnyddio cyllid y gronfa ffyniant gyffredin. Yr un thema gyson a glywyd oedd mai Gweinidogion yn Whitehall a fydd yn gwneud yr holl benderfyniadau. Nawr, ni all hynny fod yn iawn ychwaith. Nid oes unrhyw ffordd i chi a'r pwyllgor a gadeiriwch graffu ar unrhyw ddewis a wnaf, nac yn wir, i graffu ar un o Weinidogion y DU am y dewisiadau a wnânt ynghylch lle y caiff arian ei wario yng Nghymru, ac ni all hynny fod yn iawn pan fo Aelodau o bob plaid yn y lle hwn wedi craffu ar sut y cafodd y cronfeydd hynny eu defnyddio ers 20 mlynedd, a gwn fod yr Aelod, a bod yn deg, Lywydd, wedi bod yn rhan o'r broses o roi cyngor i Lywodraeth Cymru yn y gorffennol ar sut i ddefnyddio’r arian hwnnw’n effeithiol i sicrhau newid ystyrlon er budd economi Cymru. Hoffwn pe bai'r DU yn ystyried y cyngor y mae’r Aelod wedi’i roi yn y gorffennol ynghylch sut y dylid defnyddio’r cronfeydd hynny’n briodol, gan ymgysylltu’n uniongyrchol â’r lle hwn.
Credaf y bydd Aelodau ar draws y Siambr yn croesawu geiriau’r Aelod dros Breseli Sir Benfro y prynhawn yma, yn yr un modd ag y mae Aelodau ar draws y Siambr wedi cefnogi Llywodraeth Cymru yn ei dadl i sicrhau nad yw Cymru ar ei cholled o ganlyniad i’r gronfa ffyniant gyffredin. Ac rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi, Weinidog, fod cryfder ein dadl yng nghryfder ein hesiampl. Rydym bellach bum mlynedd i mewn i raglen y Cymoedd Technoleg, bron i hanner ffordd drwy’r rhaglen honno, a lansiwyd gan eich rhagflaenydd. A allwch sicrhau yn awr, Weinidog, ein bod ni, ym Mlaenau Gwent, yn derbyn y swm llawn o £100 miliwn a warantwyd gan Ken Skates pan lansiodd y rhaglen honno, ac y byddwn yn parhau i fuddsoddi i sicrhau bod Blaenau Gwent yn cael yr arian a addawyd iddynt, a bod Blaenau Gwent yn parhau i fod wrth wraidd gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer adfywio a datblygu economaidd ym Mlaenau’r Cymoedd?
Rwy'n fwy na pharod i gael sgwrs uniongyrchol gyda’r Aelod am ddyfodol y Cymoedd Technoleg, am yr heriau a’r cyfleoedd i ardaloedd Blaenau’r Cymoedd. Gwn fod gwaith yn mynd rhagddo rhwng pum awdurdod lleol ar sut i sicrhau'r cyfleoedd buddsoddi a chyflogaeth mwyaf posibl, gan mai dyma’r ardal â'r crynodiad uchaf o anfantais yng Nghymru gyfan, ac ni fyddwn yn llwyddo yn ein cenhadaeth economaidd ar gyfer y wlad os na chynhyrchwn ganlyniadau cyflogaeth gwell i bobl sy’n byw yn y rhan honno o Gymru. Felly, rwy'n fwy na pharod i siarad gydag ef am hynny. Mae hefyd wedi codi'n rheolaidd yn y sgwrs rwyf wedi’i chael gyda’r brifddinas-ranbarth, gan drawsffurfio'n gyd-bwyllgor newydd, ac mae gennyf ddiddordeb mewn gweld sut y mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio â’r pum awdurdod lleol a’r brifddinas-ranbarth ehangach i sicrhau ein bod yn cael y canlyniadau cyflogaeth gwell y gwn fod yr Aelod yn dymuno'u gweld. Rwy'n fwy na pharod i drefnu sgwrs ddilynol gydag ef i drafod hynny.