Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 16 Chwefror 2022.
Diolch yn fawr iawn am y diweddariad yna. Y gwir plaen ydy nad oes yna'r un swydd wedi’i chreu ym Mharc Bryn Cegin ers i’r safle gael ei brynu a’i addasu gan Lywodraeth Cymru, er gwaetha'r arian sylweddol sydd wedi'i wario arno fo ac er gwaetha'r addewidion. Drws nesaf i'r safle mae stad Maesgeirchen ac o fewn tafliad carreg mae dinas Bangor. Mae mawr angen swyddi parhaol o ansawdd a chyfleon busnes a chyfleon hyfforddiant er mwyn cryfhau’r economi leol er budd y bobl sy’n byw yma. Dwi'n falch o gael y diweddariad, ond pryd fydd y swydd gyntaf yn ymddangos ym Mharc Bryn Cegin yn fy etholaeth i?