1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru ar 16 Chwefror 2022.
1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i ddatblygu busnesau ym Mharc Bryn Cegin, Bangor? OQ57667
Gwnaf. Dros y 12 mis diwethaf, mae cryn ddiddordeb wedi'i fynegi yn ein tir datblygu ym Mharc Bryn Cegin. Ar hyn o bryd, rydym yn ymgysylltu â’r awdurdod lleol a nifer o bartïon eraill sydd wedi gwneud neu sy’n bwriadu gwneud cynigion i brynu plotiau datblygu ym Mryn Cegin.
Diolch yn fawr iawn am y diweddariad yna. Y gwir plaen ydy nad oes yna'r un swydd wedi’i chreu ym Mharc Bryn Cegin ers i’r safle gael ei brynu a’i addasu gan Lywodraeth Cymru, er gwaetha'r arian sylweddol sydd wedi'i wario arno fo ac er gwaetha'r addewidion. Drws nesaf i'r safle mae stad Maesgeirchen ac o fewn tafliad carreg mae dinas Bangor. Mae mawr angen swyddi parhaol o ansawdd a chyfleon busnes a chyfleon hyfforddiant er mwyn cryfhau’r economi leol er budd y bobl sy’n byw yma. Dwi'n falch o gael y diweddariad, ond pryd fydd y swydd gyntaf yn ymddangos ym Mharc Bryn Cegin yn fy etholaeth i?
Wel, ni allaf roi union ddyddiad i chi pan fydd y swydd gyntaf ar y safle, gan ein bod yn dal i drafod gyda'r partneriaid hynny ac ni allwn gael pob un o'r sgyrsiau hynny yn gyhoeddus gyda phartïon a enwir, ond rwyf wedi cael yr wybodaeth ddiweddaraf gan fy swyddogion a chredaf fod rheswm da dros ddisgwyl newyddion yn y dyfodol gweddol agos ynglŷn â swyddi ar y safle hwnnw. Ac wrth gwrs, bydd yr Aelod yn ymwybodol nid yn unig ei fod o fewn tafliad carreg i ddinas Bangor ac ystad Maesgeirchen, ond mae Cyngor Gwynedd hefyd wedi cwblhau cyfleuster parcio a rhannu, parcio a theithio drws nesaf i'r ystad i'w gwneud yn haws byth i bobl gyrraedd cyfleoedd gwaith. Felly, rwy'n gobeithio y gallaf ddweud cyn bo hir nid yn unig pryd rwy’n disgwyl i'r swyddi fod yno, ond pryd fydd y swyddi yno ar y safle, yn gwasanaethu etholwyr yr Aelod a busnesau sydd naill ai’n adleoli yno neu sy'n ehangu eu busnesau ar y safle penodol hwn.
Diolch i’r Aelod am gyflwyno'r cwestiwn heddiw. Rwy’n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno, ac yn cydnabod efallai, fod y ffaith bod Parc Bryn Cegin yn dal i fod yn wag ar ôl 20 mlynedd yn destun pryder mawr. Ac rwy’n derbyn y sylwadau rydych wedi’u gwneud ar ddatblygiadau yn y dyfodol, ond rydym wedi cael 20 mlynedd o gyfleoedd a gollwyd, efallai, i gael swyddi o safon ym Mangor ac ar draws gogledd Cymru i helpu’r economi leol.
Y tro diwethaf i’r mater hwn gael ei godi yn y Siambr, nodaf fod Gweinidog gogledd Cymru wedi dweud bod swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda bwrdd uchelgais economaidd gogledd Cymru hefyd, felly edrychaf ymlaen at glywed sut yr aeth y trafodaethau hynny. Ond yng ngoleuni'r mater hwn, Weinidog, tybed pa wersi rydych chi yn Llywodraeth Cymru wedi'u dysgu a pha gamau y byddwch yn eu cymryd i sicrhau nad yw cyfleoedd swyddi yn y dyfodol mewn datblygiadau fel hyn yn cael eu colli eto.
Wel, nid oes unrhyw awgrym fod cyfleoedd swyddi wedi'u colli ar y safle. Byddem wedi dymuno gweld mwy o swyddi ar y safle hwn, ond nid oes tystiolaeth nad yw'r swyddi a fyddai wedi dod i ogledd Cymru wedi dod yno. Edrychaf ymlaen at gael swyddi ar y safle a chael swyddi o safon uchel, ac mae sgyrsiau'n mynd rhagddynt gyda bwrdd uchelgais economaidd gogledd Cymru yn rhan o'r gyfres o sgyrsiau sydd eisoes yn mynd rhagddynt. Os edrychwch ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud mewn mentrau ar y cyd ac ar ei phen ei hun i ddatblygu safleoedd cyflogaeth, mae gennym hanes da o ddatblygu safleoedd sy'n creu cyfleoedd cyflogaeth. Mae Parc Bryn Cegin yn anarferol yn yr ystyr, ar ôl y cyfnod datblygu yn 2008, nad oes swyddi ar y safle o hyd, ond rwy’n disgwyl i'r sefyllfa honno gael ei hunioni mewn ffordd y disgwyliaf y bydd Aelodau o bob plaid am ei dathlu pan fydd swyddi'n dod i'r safle a’r agweddau ehangach ar yr uchelgais sydd gennym ar gyfer y gogledd a’i ddyfodol economaidd.