Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 16 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 1:43, 16 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch i Tom Giffard am ei gwestiwn. Credaf fod y pasys COVID wedi gwneud yr hyn y bwriadwyd iddynt ei wneud. Pan gyflwynwyd y pasys COVID, wrth gwrs, roeddem ar ganol cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion o COVID. Wedi hynny, cawsom y don omicron, a bu’n rhaid inni wneud rhywbeth i geisio adfer rhywfaint o hyder yn y sector. Felly, yn yr ardaloedd lle y gwnaethom ddefnyddio pasys COVID, cawsant eu defnyddio at y diben penodol hwnnw—cadw busnesau ar agor ac adfer hyder ymhlith y cynulleidfaoedd y byddai'n ofynnol iddynt ddangos pàs COVID mewn digwyddiadau dan do. Felly, yn hynny o beth, byddwn yn dweud eu bod wedi bod yn llwyddiant.