Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 16 Chwefror 2022.
Rydym yn buddsoddi £1.7 biliwn yn y warant i bobl ifanc dros y tair blynedd nesaf. Cymru'n Gweithio yw'r porth ar gyfer mynediad i'r warant, yn cynnwys Twf Swyddi Cymru, Cymunedau am Waith a Mwy a phrentisiaethau. Mae Cymru'n Gweithio hefyd yn treialu gwasanaeth paru â swyddi newydd i helpu i sicrhau cyflogaeth.