1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru ar 16 Chwefror 2022.
4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn helpu pobl ifanc i gael eu cyflogi? OQ57632
Rydym yn buddsoddi £1.7 biliwn yn y warant i bobl ifanc dros y tair blynedd nesaf. Cymru'n Gweithio yw'r porth ar gyfer mynediad i'r warant, yn cynnwys Twf Swyddi Cymru, Cymunedau am Waith a Mwy a phrentisiaethau. Mae Cymru'n Gweithio hefyd yn treialu gwasanaeth paru â swyddi newydd i helpu i sicrhau cyflogaeth.
Wel, diolch ichi, Weinidog. Mae'n uchelgeisiol iawn, yn enwedig targed Llywodraeth Lafur Cymru i greu 125,000 o brentisiaethau yn ystod tymor y Senedd hon, ond wrth gwrs, mae'r rhaglen hon yn dibynnu ar sicrhau arian a arferai ddod o'r Undeb Ewropeaidd, ac felly a allech chi ddarparu asesiad o'r effaith y gallai colli arian yr UE ei chael ar hyfforddiant sgiliau yma yng Nghymru, a graddau'r cyllid y mae Cymru wedi'i golli ac y mae'n debygol o'i golli o ganlyniad i benderfyniadau Llywodraeth y DU ers inni adael yr Undeb Ewropeaidd?
Ie. Wel, credwn y byddwn wedi colli tua £1 biliwn hyd at ddiwedd blwyddyn ariannol 2024, £1 biliwn a ddylai fod wedi dod i Gymru i'w wario yng Nghymru, ac wrth gwrs, o'r blaen, byddai Gweinidogion yma wedi bod yn gyfrifol am wneud y dewisiadau hynny a byddem wedi bod yn atebol i Aelodau a etholwyd i'r Senedd hon am y dewisiadau hynny. Gwyddom na fydd yr arian yn cael ei wario ac na fydd Gweinidogion yma sy'n gwneud penderfyniadau ar hyn o bryd yn gwneud penderfyniadau ynghylch y symiau llai o arian a ddaw yn lle'r arian hwnnw, ac y byddant yn mynd drwy awdurdodau lleol, gan adael addysg bellach ac addysg uwch allan, gan adael y trydydd sector allan, ac yn hollbwysig, gan danseilio'r ffordd yr ydym yn ariannu rhaglenni sgiliau a hyfforddiant. Er enghraifft, disgwyliwn y byddwn wedi colli £16 miliwn o gyllid Ewropeaidd i gefnogi'r rhaglen brentisiaethau yn unig hyd at ddiwedd 2024. Mae hynny'n golygu, yn y £366 miliwn a gyhoeddais yr wythnos ddiwethaf i gefnogi'r rhaglen brentisiaethau am y tair blynedd nesaf, fy mod wedi gorfod mynd â'r arian hwnnw o flaenoriaethau eraill. Am fod dyfodol y targed prentisiaeth hwnnw o 125,000 mor bwysig ar gyfer dyfodol ein heconomi, ar gyfer dyfodol pobl ifanc yn enwedig, i sicrhau bod ganddynt obaith ar gyfer y dyfodol, mae'n rhaid imi ddod o hyd i hwnnw drwy ddadflaenoriaethu meysydd gwariant eraill, ac mae hynny'n broblem i'r economi. Nid wyf yn credu bod neb wedi pleidleisio dros hynny, naill ai yn y refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd neu yn yr etholiad diwethaf. Ni ddywedodd yr un blaid, 'Rydym eisiau gweld llai o arian yn cael ei wario yng Nghymru a llai o gefnogaeth i ddyfodol ein heconomi', ond dyna'r dewis sy'n ein hwynebu. Ond mae hefyd yn tanlinellu pwysigrwydd sgiliau ar gyfer y dyfodol a'n buddsoddiad a'n cefnogaeth barhaus i'r rhaglen brentisiaethau.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod dros Dde Clwyd am godi'r mater? Weinidog, ddiwedd y llynedd, codais fater yn ymwneud â'r cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc yng Nghymru ar ôl i etholwr ysgrifennu ataf yn tynnu sylw at eu pryderon ynglŷn â'r prinder prentisiaethau a phrentisiaethau gradd sydd ar gael i'w plant. Mae cyfleoedd o'r fath yn bwysig, fel y dywedwyd yn awr, i helpu'r bobl ifanc hynny i ddod o hyd i waith. Roeddwn yn gwerthfawrogi eich ymateb i fy llythyr, a gwn ichi gyfeirio at y warant i bobl ifanc, a lansiwyd yn swyddogol, fe wyddom, ym mis Tachwedd y llynedd, ac mae'n cynnwys rhagor o gefnogaeth i brentisiaethau. Mae hyn yn ychwanegol at fentrau fel y gronfa sgiliau a swyddi, a ddarparai gyllid i gymell cyflogwyr i recriwtio ac ailhyfforddi prentisiaid. Er bod y cynlluniau hyn i'w croesawu, mae'n hanfodol eu bod nid yn unig yn arwain at gyfleoedd prentisiaeth, ond yn gwella canlyniadau i bobl ifanc, megis arwain at hyfforddiant pellach a swyddi o ansawdd da. Felly, Weinidog, pa asesiad a wnaethoch o effaith y cynlluniau hyn ar argaeledd prentisiaethau yng Nghymru, yn ogystal â'r canlyniadau a sicrhawyd o ganlyniad i'r cyfleoedd a grëwyd gan y cynlluniau? Oherwydd mae'n ymwneud â mwy nag arian yn unig—mae'n ymwneud â chanlyniadau'r hyn y gwerir yr arian hwnnw arno.
Byddwn yn hapus iawn i roi nodyn pellach i'r Aelodau ar hyn, oherwydd, mewn gwirionedd, bob tro y gwnaethom edrych yn y gorffennol, yn sicr ers imi ddod yn Aelod yn y lle hwn, rydym wedi canfod bod canlyniadau prentisiaethau i bobl yng Nghymru yn cymharu'n ffafriol iawn â rhannau eraill o'r DU, yn enwedig dros y ffin yn Lloegr. Gallwch weld mwy o bobl yn cwblhau eu prentisiaethau ac yn mynd rhagddynt i gael gwaith. Ac i fod yn deg, mae'r holwr blaenorol, yn ystod ei gyfnod fel Dirprwy Weinidog, pan oedd ganddo gyfrifoldeb dros sgiliau, ac yna yn ystod ei gyfnod fel Gweinidog yr economi, wedi goruchwylio dros ran sylweddol o'r llwyddiant hwnnw. Byddwn yn fwy na pharod i ddarparu nodyn yn nodi'r canlyniadau a gyflawnwyd a'r budd y mae prentisiaethau'n eu darparu i unigolion a'r economi yma yng Nghymru.
Mewn diweddariad ar y farchnad lafur yn ddiweddar, roedd y ffigurau diweithdra ar gyfer Gorllewin Abertawe tua thair gwaith y cyfartaledd cenedlaethol, sef 10.3 y cant. Mae un o bob 10 o bobl yn ein hail ddinas fwyaf heb waith ar hyn o bryd. Mae'r sefyllfa hon hyd yn oed yn fwy llwm pan ystyriwch fod diweithdra ymysg pobl ifanc fel arfer yn uwch na diweithdra yn gyffredinol. Mae'r gyfradd ddiweithdra ar gyfer pobl ifanc 16 i 24 oed yng Nghymru yn 12 y cant ar hyn o bryd, gyda'r ffigur ar gyfer Abertawe yn sicr o fod yn uwch na hyn os rhagdybiwn fod ffigurau diweithdra ymysg pobl ifanc yn dilyn yr un duedd â'r ffigurau diweithdra cyffredinol ar gyfer Gorllewin Abertawe. A wnaiff y Gweinidog amlinellu'n benodol sut y bydd y warant swyddi i bobl ifanc a chynlluniau cyflogaeth eraill i bobl ifanc yn ceisio mynd i'r afael â diweithdra ymysg pobl ifanc, nid yn unig yn Abertawe, ond ar draws Gorllewin De Cymru? A phryd y mae'n disgwyl y bydd y cynlluniau cyflogadwyedd hyn yn dwyn ffrwyth?
Wel, dylai rhai o'r cynlluniau y byddwn yn eu darparu ddwyn ffrwyth yn fwy uniongyrchol. Er enghraifft, mae gennym gyfle i barhau i gefnogi entrepreneuriaid ifanc drwy Syniadau Mawr Cymru—gallwch weld y bobl hynny'n dechrau eu busnesau, gallwch weld y gronfa rhwystr at waith rydym yn ei darparu. Felly, fe welwch y bydd rhai ohonynt yn cael effaith fwy uniongyrchol a bydd eraill yn cymryd mwy o amser, oherwydd, yn y cymorth cyflogadwyedd a ddarparwn, er enghraifft, yng nghynllun Twf Swyddi Cymru+, mae amrywiaeth o'r cynlluniau cymorth yn ymwneud â sicrhau bod pobl yn barod ar gyfer swyddi, gan edrych ar y problemau sgiliau sydd ganddynt, a cheisio eu cefnogi gydag ystod bersonol o gymorth, felly byddwch yn gweld effaith fwy hirdymor yn hynny o beth.
Ac mewn gwirionedd, rwy'n disgwyl cyhoeddi'r cynllun cyflogadwyedd newydd yn yr wythnosau nesaf, a bydd hwnnw eto'n nodi rhagor o fanylion ynglŷn â sut y byddwn yn defnyddio'r cyfrifoldebau a'r adnoddau sydd gennym i ategu'r hyn y mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn ei wneud yn awr, ac mae'n debyg y bydd hynny'n golygu y byddwn yn ceisio mynd i'r afael â heriau pobl sydd ymhellach i ffwrdd o'r farchnad lafur. Felly, mae'n debygol o gostio mwy na chynlluniau'r Adran Gwaith a Phensiynau, gan helpu pobl sy'n barod i weithio yn y bôn, ond hefyd efallai y bydd yn cymryd mwy o amser i baratoi'r bobl hynny. Ond wrth inni gyhoeddi'r strategaeth cyflogadwyedd, edrychaf ymlaen at allu rhoi mwy o fanylion am y pwyntiau a wnewch a sut y byddwn wedyn yn asesu'r canlyniadau y credwn y gallwn eu cyflawni gyda phobl ac ar gyfer pobl, boed yn bobl ifanc neu'n bobl hŷn, o ran y canlyniadau cyflogaeth rydym eisiau eu gweld ym mhob cymuned ledled Cymru.