Treth Twristiaeth

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 16 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:12, 16 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Rydym yn gweithio gydag ystod eang o bartneriaid i ddeall effaith economaidd bosibl ardoll ymwelwyr yng Nghymru. Mater i awdurdodau lleol fydd penderfynu a fyddant yn codi ardoll ar ymwelwyr. Cânt eu grymuso mewn awdurdodau lleol i wneud eu penderfyniadau eu hunain gyda chymorth Llywodraeth Cymru.