1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru ar 16 Chwefror 2022.
6. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith treth twristiaeth ar economi Gogledd Cymru? OQ57634
Rydym yn gweithio gydag ystod eang o bartneriaid i ddeall effaith economaidd bosibl ardoll ymwelwyr yng Nghymru. Mater i awdurdodau lleol fydd penderfynu a fyddant yn codi ardoll ar ymwelwyr. Cânt eu grymuso mewn awdurdodau lleol i wneud eu penderfyniadau eu hunain gyda chymorth Llywodraeth Cymru.
Gwn eich bod eisiau trosglwyddo'r baich i awdurdodau lleol mewn perthynas â'r dreth hon, ond y gwir amdani yw mai'r Llywodraeth Lafur yng Nghymru sy'n gosod y ffordd ymlaen ac yn hwyluso cyflwyno treth a allai ddinistrio economi gogledd Cymru. Mae twristiaeth yn werth biliynau i'n gwlad, ac mae degau o filoedd o bobl ar draws rhanbarth y gogledd yn cael eu cyflogi mewn swyddi twristiaeth ac yn ogystal, mae llawer o siopau yng nghanol ein trefi, busnesau fel caffis, bwytai, a phopeth arall yn goroesi ar yr incwm blynyddol a ddaw o bocedi ymwelwyr. A ydych yn derbyn y gallai cyflwyno treth twristiaeth yng ngogledd Cymru ddinistrio'r diwydiant ac achosi i dwristiaid sy'n sensitif i brisiau, yn hytrach nag ymweld â Bae Colwyn, Tywyn a Bae Cinmel, y Rhyl, Prestatyn, Llandudno a'r cyrchfannau gwych eraill sydd gan ogledd Cymru i'w cynnig, heidio i leoedd fel Blackpool, Morecambe a mannau eraill, lle bydd eu heconomïau'n ffynnu a'n heconomïau ni'n dioddef o ganlyniad?
Gwn fod Darren Millar yn hoffi cyffroi yn rheolaidd—
Ydw, yn sicr.
—a thaflu geiriau o gwmpas, ond edrychwch, credaf efallai y dylai oedi a chymryd hoe fach ar fainc yr eilyddion tra bod y mater hwn yn cael ei benderfynu gan yr oedolion. Pan edrychwch ar draws Ewrop a gogledd America, pan edrychwch ar lefydd lle mae ardoll yn rhan reolaidd o'u diwydiant twristiaeth, ni welwch unrhyw beth i gefnogi'r codi bwganod a'r rhagfynegiadau diwedd-y-byd y mae'n cyffroi wrth eu gwneud. Nid oes unrhyw fath o sail dystiolaethol o gwbl i'r syniad y bydd hyn yn dinistrio'r economi ymwelwyr. Os edrychwch ar yr hyn a drafodwn, mae'n ymwneud â sut y gallai awdurdodau lleol ddeall yr hyn y gallent ei wneud i gymunedau sy'n arwain at elwa o weld ymwelwyr yn dychwelyd, ond hefyd rhai o'r heriau a ddaw yn sgil hynny, a sut y byddent yn penderfynu, gyda'r pwerau a fyddai ganddynt, a fyddent eisiau cyflwyno ardoll, ac os felly, ar ba sail. Nawr, dyna yw'r ymgynghoriad yr ydym yn ei gael.
Os oes unrhyw dystiolaeth wirioneddol, yn hytrach na gormodiaith, gan yr Aelod a'i gyd-Aelodau y byddai ardoll yn cael unrhyw fath o effaith andwyol, byddem eisiau gweld hynny yn rhan o'r ymgynghoriad cyn inni wneud penderfyniadau. Credaf y gallwn wneud rhywbeth i fuddsoddi yn ein heconomi ymwelwyr, ac mae gennym sail dda, oherwydd mae gennym ystod mor wych o atyniadau i ymwelwyr i ddenu pobl yma i Gymru, ac mae gennyf obeithion da ac optimistaidd iawn wedi'u hadeiladu ar dystiolaeth ar gyfer dyfodol ein heconomi ymwelwyr, ni waeth beth fo canlyniadau'r ardoll ymwelwyr mewn gwahanol rannau o Gymru yn y pen draw.