Cymorth Ariannol i Fusnesau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 16 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:18, 16 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Roedd cymorth ariannol ar gael i fusnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth, ochr yn ochr â'r gronfa adferiad diwylliannol a'r gronfa chwaraeon gwylwyr. Hyd yma, mae dros £66.8 miliwn wedi'i gynnig drwy'r cronfeydd hyn. Yn ogystal, mae llawer o fusnesau'n dal i elwa o'r rhyddhad ardrethi 100 y cant, sy'n parhau am y flwyddyn ariannol gyfan, yn wahanol i fusnesau yn Lloegr, wrth gwrs, dros ffin eich etholaeth.