1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru ar 16 Chwefror 2022.
8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth ariannol a roddwyd i fusnesau yn ystod y gyfres ddiweddaraf o gyfyngiadau COVID-19? OQ57665
Roedd cymorth ariannol ar gael i fusnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth, ochr yn ochr â'r gronfa adferiad diwylliannol a'r gronfa chwaraeon gwylwyr. Hyd yma, mae dros £66.8 miliwn wedi'i gynnig drwy'r cronfeydd hyn. Yn ogystal, mae llawer o fusnesau'n dal i elwa o'r rhyddhad ardrethi 100 y cant, sy'n parhau am y flwyddyn ariannol gyfan, yn wahanol i fusnesau yn Lloegr, wrth gwrs, dros ffin eich etholaeth.
Diolch, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae'r pecyn cymorth COVID diweddaraf wedi cau ar gyfer ceisiadau newydd. Clywais gan nifer o fusnesau yn fy etholaeth nad oeddent yn bodloni'r meini prawf ar gyfer cymorth, beth bynnag fo'r rheswm, ac maent bellach mewn sefyllfa beryglus, yn wynebu colled ariannol sylweddol sy'n peryglu eu dyfodol hirdymor. Felly, Weinidog, pa gymorth hirdymor y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig o fewn y setliad datganoli sydd gennym ar hyn o bryd i helpu busnesau a helpu economi Cymru i ffynnu yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod? Ac mewn perthynas â'r rownd ddiwethaf o gymorth COVID, a allwch chi wneud sylwadau ar y nifer o fusnesau a gafodd y cymorth hwnnw a'r ardaloedd daearyddol lle'r oedd y busnesau hynny wedi'u lleoli? Diolch, Lywydd.
Felly, yn y tymor hwy, fe fyddwch yn ymwybodol ein bod eisoes wedi nodi y bydd rhyddhad ardrethi y flwyddyn nesaf. Bydd yn cyfateb i'r pecyn sydd ar gael yn Lloegr. Fe fyddwch hefyd yn ymwybodol ein bod yn cael sgyrsiau ynglŷn â sut y cefnogwn ddyfodol yr economi, ond mae honno'n sefyllfa fwy heriol oherwydd y setliad cyllideb sydd gennym ac oherwydd y realiti y bydd cronfeydd ffyniant cyffredin yn gweld diffyg o £1 biliwn i Gymru dros y blynyddoedd nesaf.
O ran sut y darparwyd y cymorth hwnnw drwy'r rownd ddiweddaraf o gymorth brys COVID a ddarparwyd gennym, fel gyda rowndiau eraill, pan fydd y cymorth wedi'i gyfrifo a'r arian wedi mynd allan, rydym yn cyhoeddi'n rheolaidd lle mae busnesau wedi'u lleoli a lle maent wedi derbyn yr arian. Mae'n amod o'i dderbyn ein bod yn cyhoeddi sut y defnyddiwyd yr arian cyhoeddus hwnnw. Felly, bydd pob Aelod yn gallu gweld pa fusnesau sydd wedi cael cymorth a lle maent wedi'u lleoli hefyd. Rwy'n ceisio sicrhau bod hwnnw ar gael ar sail haws ei ddarllen, a allai fod ar sail awdurdod lleol, i nodi nifer y busnesau a'r swm o arian sydd wedi mynd i mewn. Ac mae'n dibynnu ar fusnesau'n gwneud cais, ac yn gwneud cais llwyddiannus.
Ond rwy'n ddiolchgar—ac rwy'n dod i ben yma, Lywydd—rwy'n ddiolchgar iawn i awdurdodau lleol am y ffordd y maent wedi gweithredu ledled Cymru yn darparu'r rhyddhad ardrethi annomestig i fusnesau mewn modd llwyddiannus a chyflym. Rwyf wedi cwrdd â busnesau yn fy etholaeth fy hun sy'n canmol cyflymder y gwasanaeth hwnnw a'r gwahaniaeth a wnaeth iddynt hwy ac i sicrhau bod eu busnesau'n goroesi ac yn edrych tua'r dyfodol.
Diolch i'r Gweinidog.