Busnesau Bach yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 16 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Dodds Jane Dodds Liberal Democrat 2:16, 16 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog. Busnesau bach a chanolig eu maint, fel y dywedoch chi, sydd i gyfrif am 62.4 y cant o gyflogaeth a 37.9 y cant o drosiant, gwerth tua £46 biliwn ar gyfer economi Cymru. Yr wythnos diwethaf, siaradais â pherchennog bwyty yn fy rhanbarth sy'n ystyried cau oherwydd nad ydynt yn gallu recriwtio staff. A gaf fi ofyn beth yw'r mecanwaith ar gyfer cysylltiad rhwng y warant i bobl ifanc a'r busnesau bach sy'n wynebu'r heriau recriwtio hynny, gan alluogi pobl ifanc i gael gwaith ac i feithrin sgiliau a chefnogi busnesau bach i dyfu? Diolch yn fawr iawn.