Gofal Meddygol Arbenigol yn y Gymuned

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 16 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 2:26, 16 Chwefror 2022

Gweinidog, cyn i fi holi fy nghwestiwn i, welais i'r bore yma ar Politico ei bod hi'n ben-blwydd arnoch chi a Peter Hain, felly pen-blwydd hapus iawn i chi. Pa ffordd well i ddathlu nag ateb cwestiynau fan hyn yn y Senedd?

Gweinidog, un o gonglfeini gofal meddygol yn ein cymunedau yw meddygon teulu, a dwi'n gwybod bod chi'n ymwybodol iawn o gonsérn nifer o gymunedau fel Pentyrch yng ngogledd y ddinas, sy'n pryderu eu bod nhw'n colli'r feddygfa leol. Ac un o'r dadleuon sy'n cael eu defnyddio gyda’r cymunedau yma yw y bydd yna ganolfan newydd, sawl milltir i ffwrdd, yn gallu cynnig y gwasanaethau arbenigol y maen nhw eu hangen. Ond ydych chi'n cytuno â fi, Gweinidog, cyn bod unrhyw gymuned yn colli'r ddarpariaeth iechyd lleol, fod angen ymgynghoriad llawn, tryloyw a manwl, a bod angen rhesymau clir a chadarn i wneud hynny? Diolch yn fawr.