Gofal Meddygol Arbenigol yn y Gymuned

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 16 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:27, 16 Chwefror 2022

Diolch yn fawr. Ydy, mae'n ben-blwydd arnaf i a Peter Hain, a John Taylor o Duran Duran hefyd. [Chwerthin.] Ac Amanda Holden dwi'n deall hefyd, so dwi mewn cwmni da. 

Jest o ran yr ymgynghoriad ar y feddygfa ym Mhentyrch, dwi wedi derbyn referral ar 17 Ionawr yn sôn am y sefyllfa yma, a dwi wedi derbyn llythyr gan y BILl ynglŷn â hyn. Wrth gwrs, mae'n rhaid i ni sicrhau bod y system yn un dryloyw. Bydd y broses yn cario ymlaen nes bod gan Weinidogion Llywodraeth Cymru y wybodaeth i gyd fel ein bod ni'n gallu dod i benderfyniad sydd yn glir ac yn deg. Wrth gwrs, mae grwpiau cymunedol yn yr ardal hefyd wedi cael gwybod bod cyfle ganddyn nhw hefyd i wneud unrhyw fath o representations sydd eisiau arnyn nhw.