Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 16 Chwefror 2022.
Diolch yn fawr, Vikki. Rydym wedi datgan ein huchelgais i'r GIG yng Nghymru fod yn wasanaeth sy'n cael ei arwain gan ansawdd, lle y darperir y gofal cywir ar yr adeg gywir ac yn y lle cywir. Mae hyn yn cynnwys mynediad at ofal yn nes at y cartref lle y bo hynny'n bosibl, ac mewn canolfannau arbenigol lle y bo'n briodol.