Gofal Meddygol Arbenigol yn y Gymuned

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 16 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 2:22, 16 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog. Mae 'No place like home', a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Goleg Brenhinol y Meddygon, yn adeiladu achos brys dros fuddsoddi mwy mewn gofal canolraddol a ddarperir yng nghartref y claf. Gall hyn wella ansawdd y gofal, lleihau derbyniadau i'r ysbyty, a chael pobl allan o'r ysbyty ac yn ôl adref yn gyflymach. Byddwn yn croesawu eich ymateb i'r adroddiad hwn yn ogystal â gwybodaeth ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i gynyddu mynediad at y gofal hwn yn wyneb y pandemig coronafeirws.