Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 16 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:34, 16 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Joyce. Credaf eich bod yn llygad eich lle, mae arnom angen sgwrs gyhoeddus fwy dwfn o lawer am ein dymuniadau a sut y bydd yr ystod gyfan o wasanaethau iechyd yn gweithio, nid yn unig i bobl sir Benfro, ond i bobl sir Gaerfyrddin a Cheredigion yn y blynyddoedd i ddod. Nid ydym wedi cael y sgwrs fwy dwfn honno dros y blynyddoedd, am fod rhai pobl wedi canolbwyntio ar leoliad adeiladau yn hytrach na chanolbwyntio ein hymdrechion ar sicrhau bod gennym cymaint â phosibl o adnoddau er budd cleifion. Mae athroniaeth gwbl newydd yn cael ei datblygu yma. Mae'n ymwneud â gofal yn y gymuned cyn belled ag y bo modd. Wrth gwrs, nid yw Ysbyty Llwynhelyg yn bodoli ar ei ben ei hun. Mae'n rhan, a bydd yn parhau i fod yn rhan, o rwydwaith o ysbytai sy’n darparu iechyd a gofal i’n cymunedau, boed achos busnes y rhaglen honno’n mynd rhagddo ai peidio.