2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 16 Chwefror 2022.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn y dyfodol? OQ57631
Diolch yn fawr. Cynllunio ar gyfer parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol ac allweddol, ynghyd â gofalu am gleifion sydd wedi eu heffeithio gan COVID-19, a gweithio hefyd tuag at gyflenwi gwasanaethau ehangach, mwy rheolaidd, pan fydd yn ddiogel i wneud hynny, yw'r flaenoriaeth wrth gyflenwi gwasanaethau iechyd yn ardal Hywel Dda.
Weinidog, y tro diwethaf imi ddwyn darpariaeth y gwasanaethau iechyd i'ch sylw, fe wnaethoch ymateb drwy refru gwleidyddol, ond mae gan y bobl rydych chi a minnau'n eu cynrychioli bryderon gwirioneddol am wasanaethau iechyd lleol, ac felly rwy'n gobeithio y byddwch yn dewis ymateb mewn ffordd lawer mwy pwyllog y tro hwn.
Nawr, fel y gwyddoch, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cyflwyno cynigion yn ddiweddar sy'n cynnwys addasu Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg at ddibenion gwahanol neu ei ailadeiladu, beth bynnag y bo hynny'n ei olygu, a gwn eich bod chithau hefyd wedi bod yn cael negeseuon e-bost yn ddiweddar ar y mater hwn gan drigolion pryderus yn sir Benfro. Mae pobl yn poeni y bydd yn rhaid iddynt deithio ymhellach am wasanaethau sy'n achub bywyd ac fel y gwyddoch, mae'r awr aur yn hanfodol i achub bywydau pobl. Felly, mae'n gwbl hanfodol fod Ysbyty Llwynhelyg yn cadw ei wasanaethau brys ac nad yw'r ysbyty'n cael ei israddio yn y dyfodol. Felly, Weinidog, a wnewch chi weithio gyda mi, a chydag eraill yn wir, i sicrhau bod y gwasanaethau brys yn aros yn sir Benfro ar gyfer y dyfodol?
Lywydd, rwy'n fwy na pharod, wrth gwrs, i wrando ar bryderon gwirioneddol pobl leol mewn perthynas ag unrhyw ddatblygiadau yn ardal bwrdd iechyd Hywel Dda, ac wrth gwrs, penderfyniad i Hywel Dda yn y pen draw yw'r cyfluniad a chaiff ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.
Byddwn yn ddiolchgar pe gallech gael gair bach gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru i dawelu ei rethreg. Rydych yn sôn wrthyf am rethreg wleidyddol, ac mae arnaf ofn, pan fo'n anfon llythyrau at bobl, yn corddi teimladau, yn dweud wrth bobl fod gan y Gweinidog iechyd swyddfa yn yr ardal leol, nid wyf yn credu mai dyma'r lle cywir na'r amser cywir i hynny, pan ydym mewn sefyllfa lle mae'r awyrgylch yn eithaf gorffwyll ar hyn o bryd. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech ofyn iddo dawelu ei rethreg wleidyddol.
Y gwir amdani yw mai Llywodraeth Lafur Cymru sydd wedi ymrwymo i gynnal gwasanaethau hanfodol yn Llwynhelyg yn unol â'r cyngor gan glinigwyr ac arbenigwyr. Hoffwn ei gwneud yn glir unwaith eto nad oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i gael gwared ar unrhyw wasanaeth o Llwynhelyg cyn agor unrhyw ysbyty arfaethedig newydd, boed yn ofal brys neu'n ofal wedi'i gynllunio, yng ngorllewin Cymru. Nid fy mhenderfyniad i fydd y penderfyniad hwnnw. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn eich bod yn deall hynny hefyd. Bydd hwnnw'n benderfyniad i rywun arall, oherwydd, yn amlwg, rwy'n cynrychioli'r ardal honno. Ond hoffwn eich atgoffa bod y gwasanaethau wedi newid dros y blynyddoedd, oherwydd dyna oedd argymhelliad y colegau brenhinol ar y pryd.
Gadewch inni beidio ag anghofio hefyd pa mor fregus yw rhai o'r gwasanaethau hynny yn Llwynhelyg wedi bod dros y blynyddoedd. Mae mater recriwtio a chadw staff, oherwydd y marchnadoedd llafur newidiol a dyheadau clinigwyr, sy'n dewis gweithio mewn ysbytai mwy o faint yn aml iawn, wedi effeithio ar ysbytai gwledig wrth gwrs. Y Llywodraeth hon sydd wedi darparu miliynau o bunnoedd o gymorth i'r adran ddamweiniau ac achosion brys yn Llwynhelyg, pan oedd y bwrdd iechyd yn dibynnu'n llwyr ar staff asiantaeth i lenwi'r rotas hynny. Ar un adeg, hon oedd yr adran ddamweiniau ac achosion brys ddrutaf yng Nghymru gyfan. Felly, nid wyf yn credu y gallwch gyhuddo'r Llywodraeth Lafur o beidio â chefnogi'r adran ddamweiniau ac achosion brys yn Llwynhelyg. Ni throdd Llywodraeth Cymru ei chefn ar Llwynhelyg bryd hynny, ac fel y dywedais dro ar ôl tro, bydd Llwynhelyg yn parhau i fod yn ased pwysig i ddarparu gofal iechyd i boblogaeth sir Benfro. Ond mae'n rhaid inni hefyd edrych tua'r dyfodol. Felly, mae ailadrodd yr un hen ofnau, ailadrodd dadleuon llwythol a gosod sir Benfro yn erbyn sir Gaerfyrddin yn gwneud cam â chleifion. Rwy'n siŵr y bydd ei etholwyr ef, a fy rhai innau, yn disgwyl ac yn haeddu'r gofal iechyd gorau y gallwn ei ddarparu.
A ydych yn cytuno â mi, Weinidog, fod angen trafodaeth onest ar ddyfodol gwasanaethau iechyd yn ein rhanbarth, ac y dylai gwleidyddion helpu i ddatrys heriau systematig, megis sut i ddenu a chadw staff a sut i ddarparu cymaint o’r gwasanaethau mor agos i'r cartref a lle mae pobl yn byw â phosibl? Yn hytrach na rhwystro'r newid a'r buddsoddiad y mae ein hetholwyr yn ei haeddu, byddai’n fwy defnyddiol ymgysylltu a chael sgwrs ddefnyddiol ac adeiladol â phawb dan sylw, gan gynnwys y bwrdd iechyd lleol, y darparwyr, ac yn wir, yn bennaf oll, y bobl sy’n dibynnu ar wasanaethau iechyd parhaus a dibynadwy. Rydych eisoes wedi amlinellu rhai o’r heriau a wynebir yn flynyddol yn ardal y bwrdd iechyd lleol. Mae’n bryd bod yn realistig yn awr a chael trafodaeth onest am ein sefyllfa ar hyn o bryd, i ba gyfeiriad yr awn iddo a beth sydd ei angen ar bobl. Rwy’n mawr obeithio, Weinidog, ac rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno â mi, y bydd pobl yn cymryd rhan mewn trafodaeth bwyllog yn hytrach na chyfeirio pobl at eich swyddfa, yn enwedig yn yr oes sydd ohoni—mae'n arfer peryglus iawn.
Diolch yn fawr, Joyce. Credaf eich bod yn llygad eich lle, mae arnom angen sgwrs gyhoeddus fwy dwfn o lawer am ein dymuniadau a sut y bydd yr ystod gyfan o wasanaethau iechyd yn gweithio, nid yn unig i bobl sir Benfro, ond i bobl sir Gaerfyrddin a Cheredigion yn y blynyddoedd i ddod. Nid ydym wedi cael y sgwrs fwy dwfn honno dros y blynyddoedd, am fod rhai pobl wedi canolbwyntio ar leoliad adeiladau yn hytrach na chanolbwyntio ein hymdrechion ar sicrhau bod gennym cymaint â phosibl o adnoddau er budd cleifion. Mae athroniaeth gwbl newydd yn cael ei datblygu yma. Mae'n ymwneud â gofal yn y gymuned cyn belled ag y bo modd. Wrth gwrs, nid yw Ysbyty Llwynhelyg yn bodoli ar ei ben ei hun. Mae'n rhan, a bydd yn parhau i fod yn rhan, o rwydwaith o ysbytai sy’n darparu iechyd a gofal i’n cymunedau, boed achos busnes y rhaglen honno’n mynd rhagddo ai peidio.