Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 16 Chwefror 2022.
Ydw, mae'n gwbl hanfodol fod gennym ofal cymdeithasol o safon, ac fel y gŵyr pob un ohonom, mae gofal cymdeithasol wedi bod dan bwysau aruthrol, ac rydym yn gwneud popeth a allwn i roi hwb i'r gwasanaeth gofal cymdeithasol. Ddoe, cyhoeddais ffyrdd yr ydym yn gweithio tuag at ddenu mwy o weithwyr gofal cymdeithasol i’r gwasanaeth, gan ein bod yn brin iawn o staff, drwy gyflwyno’r cyflog byw gwirioneddol, ynghyd â thaliad ychwanegol. Rydym yn gweithio'n galed i edrych ar delerau ac amodau, gan y credaf mai'r hyn sy'n allweddol yw cael y staff—y staff cywir, o ansawdd uchel—yn y gymuned, a fydd yno i weithio gyda phobl agored i niwed i helpu i'w hatal rhag gorfod mynd i'r ysbyty, a phan gânt eu rhyddhau o'r ysbyty, i fod yno i'w hatal rhag gorfod dychwelyd yno. Felly, ydw, rwy'n sicr yn cytuno â'r hyn a ddywedodd Jenny Rathbone.