Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 16 Chwefror 2022.
Diolch. Mae canllawiau gwasanaeth rhyddhau o'r ysbyty ar waith er mwyn rheoli llif cleifion, yn enwedig yn ystod y pandemig. Gwnaethom ddiweddaru’r canllawiau hyn yn ddiweddar, gan ystyried y sefyllfa ddiweddaraf a mwy cadarnhaol o ran COVID, er mwyn parhau i ddarparu mecanwaith diogel ar gyfer rhyddhau pobl o ysbytai yn dilyn eu triniaeth.