Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 16 Chwefror 2022.
Diolch yn fawr. Cynllunio ar gyfer parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol ac allweddol, ynghyd â gofalu am gleifion sydd wedi eu heffeithio gan COVID-19, a gweithio hefyd tuag at gyflenwi gwasanaethau ehangach, mwy rheolaidd, pan fydd yn ddiogel i wneud hynny, yw'r flaenoriaeth wrth gyflenwi gwasanaethau iechyd yn ardal Hywel Dda.