Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 16 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:41, 16 Chwefror 2022

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi wedi digalonni eto heddiw yn edrych ar ddata amseroedd aros iechyd. Ffigurau aros am apwyntiad cyntaf CAMHS welais i heddiw, yn dangos mai dim ond 22 y cant sy'n cael apwyntiad o fewn pedair wythnos, y lefel isaf erioed, pan oedd o'n 75 y cant flwyddyn yn ôl. Yfory, rydym ni'n disgwyl ffigurau iechyd ehangach, yn cynnwys amseroedd aros ambiwlans, sy'n dangos fwy nag unrhyw beth o bosib sut mae llif cleifion drwy'r system iechyd a gofal wedi arafu i stop, mae'n ymddangos, bron. Mae targed y gwasanaeth ambiwlans o gyrraedd y cleifion mwyaf sâl o fewn wyth munud mewn 65 y cant o achosion wedi cael ei fethu ers blwyddyn a hanner. Pa bryd mae'r Gweinidog yn disgwyl i'r gwasanaeth ambiwlans allu cyrraedd y targed? Achos mae bob diwrnod, bob wythnos, bob mis o fethu â chyrraedd y targed yn rhoi bywydau mewn peryg.