2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 16 Chwefror 2022.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Gareth Davies, i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddymuno pen-blwydd hapus iawn i’r Gweinidog iechyd. Nid oeddwn yn gwybod nes i’r Aelod dros Ganol De Cymru grybwyll y peth yn gynharach. Felly, rwy'n dymuno pen-blwydd hapus iawn i chi yn un ar hugain. [Chwerthin.]
Ond mae fy nghwestiynau ar gyfer y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, felly fe ddechreuaf drwy ofyn i’r Dirprwy Weinidog: sut y mae integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn edrych i chi?
Diolch i Gareth Davies am ei gwestiwn. Mae integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn rhywbeth yr ydym yn gweithio’n galed iawn i’w gyflawni. Rydym yn rhoi hyn ar waith yn ein byrddau partneriaeth rhanbarthol, lle mae gennym yr awdurdodau iechyd a’r awdurdodau llywodraeth leol yn gweithio gyda’i gilydd ar lunio cynigion sy’n gwbl integredig. Mae hefyd yn bwysig iawn cofio, pan fyddwn yn sôn am wasanaeth integredig, fod yna wasanaethau eraill pwysig iawn hefyd. Er enghraifft, ar y byrddau partneriaeth rhanbarthol, ceir cynrychiolaeth o'r maes tai, caiff dinasyddion eu cynrychioli, a chaiff gofalwyr di-dâl eu cynrychioli. Mae fy ngweledigaeth am wasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol integredig yn un lle y gallwch symud yn ddi-dor rhwng y ddau wasanaeth, a lle y ceir sefydliadau fel y byrddau partneriaeth rhanbarthol sy’n gallu cynllunio ar sail integredig.
Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Rwy'n cytuno i raddau, mewn byd delfrydol, mai dyna fyddai’r sefyllfa, ond yn anffodus, mae gennym lawer o ffordd i fynd o hyd. Efallai mai’r prif reswm dros integreiddio iechyd a gofal yw sicrhau’r canlyniadau iechyd a llesiant gorau i ddinasyddion Cymru, oherwydd ar hyn o bryd, rydym yn methu cyflawni’r nod hwnnw yn llwyr. Mae pob un ohonom yn boenus o ymwybodol o'r argyfwng mewn gofal cymdeithasol a'r effaith y mae'n ei chael nid yn unig ar y sector gofal ond ar draws iechyd a gofal. Mae oedi wrth drosglwyddo gofal yn golygu bod llai o welyau ar gael ar gyfer cleifion newydd, ac mae hynny'n creu straen i system sydd eisoes dan ormod o bwysau. Fel y mae'r dystiolaeth i’r pwyllgor iechyd wedi’i amlygu, yn anffodus, mae hyn yn arwain at farwolaethau. Yn ôl y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys, fe allai cyfnodau o oedi dros wyth awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys fod wedi cyfrannu at hyd at 2,000 o farwolaethau diangen. Sut ydych chi'n bwriadu sicrhau bod dull integredig o ryddhau cleifion ar waith ar bob ward ysbyty ledled Cymru?
Mae Gareth Davies yn tynnu sylw at bwynt hollbwysig. Nid oes unrhyw ffordd y bydd y gwasanaeth iechyd yn ffynnu oni bai fod y system gofal cymdeithasol yn gweithredu hyd eithaf ei gallu. I raddau helaeth, y rheswm pam nad oes modd rhyddhau dros 1,000 o bobl sy’n ffit yn feddygol o'r ysbyty yw nad oes cymorth cartref yn eu cartrefi eu hunain iddynt allu ymdopi gartref, ac nid oes digon o lefydd ar gael mewn cartrefi gofal, lle nad oes digon o staff i ofalu amdanynt. Oherwydd hynny, maent yn gwbl gysylltiedig â’i gilydd, a dyna pam ein bod yn cydweithio mor agos, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a minnau fel y Dirprwy Weinidog gofal cymdeithasol—gan fod y ddwy elfen yn gwbl gysylltiedig â'i gilydd, ac mae’r hyn sy’n digwydd yn y gwasanaeth gofal cymdeithasol yn cael effaith ar yr ysbytai.
Rydym wedi bod yn cyfarfod bob wythnos mewn pwyllgor gweithredu, gyda’r byrddau iechyd lleol a chyda’r awdurdodau lleol, ac rydym wedi llunio ystod enfawr o gynigion er mwyn sicrhau bod pobl yn mynd adref yn gynt, i geisio sicrhau eu bod yn cael cymorth mewn rhyw ffordd neu'i gilydd pan fyddant yn mynd adref. Rydym hefyd, fel y gwyddoch o’r cyhoeddiad a wneuthum ddoe, wedi gwneud ymdrech fawr i gynyddu maint y gweithlu gofal cymdeithasol. Felly, rydym yn gweithio’n galed iawn i sicrhau gwelliant, ac mae’n gwneud pwynt pwysig ynghylch pa mor gysylltiedig yw’r ddau faes gwasanaeth hyn.
Diolch eto, Ddirprwy Weinidog. Wrth gwrs, os ydym o ddifrif am fynd i'r afael â rhyddhau pobl o’r ysbyty, mae angen inni fynd i'r afael ag oedi wrth drosglwyddo gofal. Nid yn unig y mae angen inni sicrhau bod iechyd a thai yn tynnu i'r un cyfeiriad, ond yn gyntaf, mae'n rhaid inni ddeall yn iawn beth yw maint y broblem, ac mae'r data'n dameidiog ar y gorau. Roedd felly cyn y pandemig, ac mae wedi mynd yn waeth byth. Gall gwahanol adrannau yn yr un ysbyty ddefnyddio meini prawf gwahanol ar gyfer yr hyn sy'n oedi wrth drosglwyddo gofal. Gwyddom gan y Gweinidog fod GIG Cymru yn credu bod oddeutu 1,000 o gleifion yn feddygol ffit i gael eu rhyddhau, ond yn parhau i fod mewn gwelyau ysbyty acíwt, ond nid ydym yn gwybod yn iawn ai pigyn y rhewfryn yn unig yw hynny ai peidio. Ddirprwy Weinidog, sut y bwriadwch gael iechyd a gofal cymdeithasol i weithio gyda’i gilydd i sicrhau bod gennym ddata cywir a chyfredol am achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal a’r rhesymau dros oedi wrth ryddhau cleifion?
Rydym yn datblygu data ein gwasanaethau ac yn dadansoddi pam fod y mwy na 1,000 o bobl hynny’n cael eu cadw yn yr ysbyty pan na ddylent fod yno. Yn y rhan fwyaf o achosion, y rheswm am hyn yw nad ydynt yn cael cymorth gan y gwasanaethau gofal cymdeithasol, ond mae rhesymau eraill hefyd. Er enghraifft, mae cyfathrebu'n broblem fawr. Mae oedi weithiau ar gyfer pethau fel meddyginiaeth. Ceir llawer o oedi, ac rydym wrthi’n dadansoddi’r data hwnnw. Ond unwaith eto, credaf fod Gareth Davies yn gwneud pwynt pwysig fod angen yr wybodaeth honno arnom er mwyn cynllunio mewn ffordd gynhyrchiol.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi wedi digalonni eto heddiw yn edrych ar ddata amseroedd aros iechyd. Ffigurau aros am apwyntiad cyntaf CAMHS welais i heddiw, yn dangos mai dim ond 22 y cant sy'n cael apwyntiad o fewn pedair wythnos, y lefel isaf erioed, pan oedd o'n 75 y cant flwyddyn yn ôl. Yfory, rydym ni'n disgwyl ffigurau iechyd ehangach, yn cynnwys amseroedd aros ambiwlans, sy'n dangos fwy nag unrhyw beth o bosib sut mae llif cleifion drwy'r system iechyd a gofal wedi arafu i stop, mae'n ymddangos, bron. Mae targed y gwasanaeth ambiwlans o gyrraedd y cleifion mwyaf sâl o fewn wyth munud mewn 65 y cant o achosion wedi cael ei fethu ers blwyddyn a hanner. Pa bryd mae'r Gweinidog yn disgwyl i'r gwasanaeth ambiwlans allu cyrraedd y targed? Achos mae bob diwrnod, bob wythnos, bob mis o fethu â chyrraedd y targed yn rhoi bywydau mewn peryg.
Diolch yn fawr, Rhun. Roeddwn i'n gobeithio y byddech chi yn garedig i fi heddiw, ar fy mhen-blwydd i, ond mae hwnna'n gwestiwn teg ac mae'n gwestiwn anodd, ac mae yn gwestiwn dwi'n poeni'n fawr ynglŷn ag e. Mae amseroedd aros ambiwlansys lot yn rhy araf, a dyna pam ges i gyfarfod ddoe gyda'r gwasanaeth ambiwlans. Dwi wedi cael cyfarfod heddiw gyda phennaeth EASC, sy'n gyfrifol am sicrhau bod y gwaith rhwng y gwasanaeth ambiwlans a'r byrddau iechyd a'r sector gofal i gyd yn cydweithio, achos mae'n rhaid inni ddeall bod hwn yn system. Felly, rydym ni wedi taflu lot o arian at y gwasanaeth ambiwlans, rydym ni wedi rhoi lot mwy o adnoddau iddyn nhw ac maen nhw wedi recriwtio lot fawr yn fwy o bobl. Mae e wedi gwneud gwahaniaeth. Rydym ni wedi gweld bod tua 11 y cant o bobl nawr ddim yn cael eu cymryd i'r ysbyty o ganlyniad i'r triage gwell sy'n digwydd.
Ond dyw hi ddim yn ddigon, ac mae'r amseroedd aros yn anfaddeuol. Dyna pam dwi wedi bod yn gofyn heddiw a ddoe ynglŷn â beth mwy gallwn ni ei wneud. Achos os rydym ni jest yn rhoi mwy o arian i'r gwasanaeth ambiwlans, beth welwn ni efallai yw mwy o ambiwlansys tu fas i'r ysbytai. Wel, dyw hwnna ddim yn helpu. Efallai ei fod yn ein helpu ni i gyrraedd pobl yn ein cymunedau, ond dyw e ddim yn helpu'r llif. Felly, mae'n rhaid inni gael hefyd y byrddau iechyd i gymryd eu cyfrifoldeb nhw o ddifrif. Maen nhw wedi dweud eu bod nhw eisiau gweld pobl yn dod mas o'r ambiwlansys o fewn pedair awr. Dyw hynny ddim yn digwydd, ac felly mae angen mwy o bwysau arnyn nhw. Beth rydym ni'n trio ei weld nawr yw beth yn union yn fwy gallwn ni wneud i efallai creu incentive neu rywbeth fel ein bod ni ddim yn cario ymlaen yn y sefyllfa yma, achos mae'r rhestrau lot yn rhy hir.
Yn sicr, maen nhw'n rhy hir, ac mae yna bobl tu ôl i bob ystadegyn, wrth gwrs. Rydw i, a fy nghyd-Aelodau ar y meinciau yma, wedi bod yn casglu tystiolaeth am effaith y creisis ambiwlans.
Mae’r straeon a glywn yn ddychrynllyd: gwraig 89 oed yn llewygu ac yn gorwedd ar y llawr am chwe awr; damwain ffermio heb unrhyw ambiwlans o gwbl ar gael, felly caiff claf sydd wedi torri ei gefn ei gludo mewn car; claf sy'n ddibynnol ar gadair olwyn ac sydd wedi torri asgwrn yn clywed bod angen aros tri diwrnod gan nad yw'n achos brys; menyw yr ystyrid bod ei symptomau'n galw am ymateb brys yn aros am naw awr, ac ambiwlans yn cyrraedd wrth i'w chalon stopio. Nawr, fel y dywed y Gweinidog, nid argyfwng ambiwlans yw hwn, o bosibl, mae'n argyfwng system gyfan, system wedi'i llethu, ac nid oes unrhyw un yn fwy dig ynghylch y sefyllfa na pharafeddygon a staff ambiwlans, ac mae ein diolch iddynt hwy yn anfesuradwy. Ond gadewch imi ddweud wrthych yr hyn a ddywedodd uwch feddyg teulu wrthyf yn ddiweddar. 'Pe bai gennyf aelod o'r teulu a oedd angen gofal brys,' meddai, 'ni fyddwn hyd yn oed yn ystyried ffonio 999, byddent yn mynd i mewn i'r car yn syth. Pe baem angen ambiwlans yng Nghymru heno, mae’n debyg na fyddai un ar gael. Nid yw hon yn teimlo fel gwlad ddatblygedig'. Pa fath o wlad ydym ni, a phryd y deellir yr angen i ddatrys y broblem os yw hyd yn oed meddygon teulu yn dweud na allwn helpu'r rheini sydd fwyaf o angen cymorth?
Rwy'n derbyn bod problem. Mae'r galw ar y gwasanaeth wedi bod yn aruthrol. Mae’r cynnydd yn y galw ar y gwasanaeth yn fwy nag unrhyw beth a welsom o’r blaen, felly yn amlwg, mae rhan o hyn yn ymwneud â'r galw ac mae angen ystyried hynny hefyd. Credaf hefyd fod yn rhaid inni ddeall bod dros hanner y bobl yn cael eu gweld o fewn y ffrâm amser, felly nid yw'n ddrwg i gyd, ond wrth gwrs, nid ydym yn cyrraedd y targedau y dylem fod yn eu cyrraedd o bell ffordd. Un o'r pethau sydd wedi digwydd yr wythnos hon yw y cynhaliwyd uwchgynhadledd risg genedlaethol i edrych ar y mathau o niwed sy'n digwydd o ganlyniad i hyn, fel bod pobl yn dechrau deall nad yw'n rhywbeth lle nad oes unrhyw ganlyniadau; mae canlyniadau difrifol, ac felly mae angen i bobl ddeall bod angen iddynt dderbyn mwy o gyfrifoldeb. Felly, digwyddodd hynny yr wythnos hon hefyd. Bydd canlyniadau yn sgil yr uwchgynhadledd honno, felly rwy’n aros i glywed beth yn union sy’n digwydd. Felly, mae angen ffocws ar y sefyllfa wrth gwrs, a dyna pam rwy'n rhoi'r ffocws hwnnw iddi. Rydym wedi buddsoddi £5 miliwn. Bydd 127 o staff ambiwlans rheng flaen ychwanegol yn dod ar gael yn y misoedd nesaf. Maent wrthi'n cael eu hyfforddi yn awr, byddant yn gweithio ar y rheng flaen, ac wrth gwrs, mae mwy o bobl yn helpu gyda brysbennu yn y canolfannau galwadau hefyd.