Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 16 Chwefror 2022.
Diolch yn fawr iawn. Rydym yn disgwyl i fyrddau iechyd, fel comisiynwyr y gwasanaethau ambiwlans, gynllunio a sicrhau gwasanaethau diogel ac amserol sy’n ymateb yn nhrefn angen clinigol. Mae hynny’n golygu dull gweithredu system gyfan, gan sicrhau bod criwiau ambiwlans ar gael i ymateb pan fo angen.