2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 16 Chwefror 2022.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau ambiwlans yng Ngorllewin De Cymru? OQ57652
Diolch yn fawr iawn. Rydym yn disgwyl i fyrddau iechyd, fel comisiynwyr y gwasanaethau ambiwlans, gynllunio a sicrhau gwasanaethau diogel ac amserol sy’n ymateb yn nhrefn angen clinigol. Mae hynny’n golygu dull gweithredu system gyfan, gan sicrhau bod criwiau ambiwlans ar gael i ymateb pan fo angen.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Credaf weithiau fod yr amseroedd ymateb ambiwlans gwaethaf i'w gweld yn yr ardaloedd gwledig oherwydd eu bod yn aml ymhellach i ffwrdd ac yn anos eu cyrraedd. Dyma’r sefyllfa i drigolion yn fy rhanbarth i, ym mhenrhyn Gŵyr. Daeth llawer ohonynt ynghyd rai blynyddoedd yn ôl a chodi £65,000 tuag at gerbyd ymateb cyflym, i’w leoli yn Reynoldston, a olygai y gellid cyrraedd digwyddiadau difrifol yn gynt o lawer nag aros i ambiwlansys ddod o rywle arall. Yn 2017, cafodd y criw yn Reynoldston eu galw allan 207 o weithiau, ond erbyn 2018, roedd wedi gostwng i 61, ac mae’r gostyngiad wedi parhau yn y flwyddyn ers hynny. Ar adegau, bu pobl yn aros am oriau yn llythrennol i ambiwlansys gael eu galw o Bort Talbot pan fo'r cerbyd ymateb cyflym yn llythrennol o fewn dwy funud i’r alwad. Mae pobl yn aros am gyfnodau sylweddol o amser am barafeddygon neu ambiwlansys o filltiroedd i ffwrdd pan fo pobl hyfforddedig ar garreg eu drws, pobl a allai ddod i roi gofal interim tan i'r gweithwyr proffesiynol amser llawn gyrraedd. Mae hon yn sefyllfa y mae angen mynd i’r afael â hi ar frys ac ymddengys y gellid ei datrys yn hawdd drwy well cyfathrebu o fewn gwasanaeth ambiwlans Cymru a chanolfannau trin galwadau 999, yn enwedig y rheini sy’n trin galwadau yng ngogledd Cymru ac a allai fod yn anghyfarwydd â daearyddiaeth de Cymru a phenrhyn Gŵyr yn enwedig. Tybed a fyddai’r Gweinidog yn cytuno i gyfarfod â mi a grwpiau lleol sy’n ymwneud ag uned ymateb cyflym Reynoldston i drafod hyn ymhellach, i hyrwyddo’r gwasanaeth hwn yn well yn y Gŵyr ac yn y gwasanaeth ambiwlans ehangach?
Diolch yn fawr, Tom. Treuliais benwythnos braf iawn yn y Gŵyr. Anaml iawn yr af i'r Gŵyr, ac roedd yn wych gweld faint o’r gymuned leol sy’n dangos diddordeb ym maes iechyd—mae'n dda gweld bod y math hwnnw o ysbryd cymunedol yn ymestyn i hyn. Ond wrth gwrs, mae gennym gyfrifoldeb fel Llywodraeth i sicrhau ein bod yn darparu’r gwasanaeth y dylem fod yn ei ddarparu yn yr ardaloedd hynny. Rwyf wedi bod yn bryderus ynghylch sefyllfa ambiwlansys mewn ardaloedd gwledig, oherwydd yr adolygiad hwnnw o restrau gwaith a gynhaliwyd—a ddigwyddodd o ganlyniad i adolygiad galw a chapasiti 2018. Roeddent yn dweud pe byddem yn ad-drefnu'r ffordd y trefnwn wasanaethau ambiwlans, gallem gael mwy am ein harian, i bob pwrpas. Felly, cychwynnwyd yr adolygiad o restrau gwaith, ac yna fe darodd COVID. Felly, mae hynny bellach yn ôl ar y gweill. Ond rwyf wedi dweud yn glir wrth y gwasanaeth ambiwlans nad ydym am weld unrhyw leihad yn y ddarpariaeth i ardaloedd gwledig. Felly, mae hynny'n rhywbeth y gobeithiaf y bydd yn digwydd o ganlyniad i'r ymyrraeth honno a wneuthum.
Cwestiwn 4 nawr, i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol. Peter Fox.