Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 16 Chwefror 2022.
Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am yr ateb. Wel, ar ôl tair blynedd o sefydlu grwpiau gwella, grwpiau tasg a gorchwyl, newid personél arweinyddol, ac, yn y pen draw, gomisiynu adroddiad annibynnol, o'r diwedd mae yna gydnabyddiaeth bod yna gamgymeriadau sylweddol wedi cael eu gwneud efo'r gwasanaeth. Oes rhywun yn mynd i gael eu dal i gyfrif am hyn, Weinidog? Fedrwch chi gadarnhau a oes unrhyw un a oedd yn uniongyrchol gyfrifol am y camgymeriadau yn parhau mewn rôl weithredol arweinyddol ar y bwrdd? Ydych chi'n credu ei bod hi'n iawn fod pobl a wthiodd hyn drwyddo yn parhau i fod mewn swyddi cyfrifol yn y maes iechyd, ac a wnewch chi rŵan roi'r gwasanaeth fasciwlar yn y gogledd yn ôl i mewn i fesurau arbennig er mwyn adennill hyder pobl gogledd Cymru?