Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 16 Chwefror 2022.
Diolch yn fawr iawn, Mabon. Dwi'n meddwl y gwnaeth y Prif Weinidog roi eglurhad eithaf trylwyr yr wythnos yma ynglŷn â'r sefyllfa. Yn amlwg, rŷn ni mewn sefyllfa lle roedden ni yn dilyn y canllawiau. Y Royal College of Surgeons, wrth gwrs, oedd wedi argymell bod pethau yn cael eu canoli yn y lle cyntaf, felly dwi yn meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni yn edrych ar yr arweiniad maen nhw'n awyddus i'w roi hefyd.
Dwi wedi rhoi rhybudd yn awr i'r bwrdd yn Betsi. Os nad yw'r argymhellion yn yr adroddiad wedi cael eu symud ymlaen yn ystod y tri mis nesaf, mi fydd yna consequences i'w cael. Mi fydd e'n glir, os na fyddwn ni'n gweld gwelliant yn y tri mis nesaf, mi fydda i'n gofyn i'r grŵp tripartite gynnal cyfarfod ychwanegol i roi mwy o wybodaeth i fi ynglŷn ag escalation pellach.