Part of the debate – Senedd Cymru am 3:31 pm ar 16 Chwefror 2022.
Diolch yn fawr ichi, Llywydd. Fel y gwyddoch chi, bawb yn y Siambr hon, gair Groegaidd yw 'democratiaeth'. Gwraidd y gair yw'r geiriau 'demos' a 'kratia' sy'n golygu 'rheolaeth gan y bobl'. Ond meddylfryd 'winner takes all' sy'n dra arglwyddiaethu yng Nghymru ac yn enwedig yn Lloegr ar hyn o bryd—system lle mae un blaid yn dueddol o ennill popeth, a'r lleill yn dueddol o golli'r cwbl. Mae hyn yn arwain felly at y mwyafrif o bobl yn teimlo mai gwastraff amser llwyr yw eu pleidlais ac nad yw taro'r groes yn y blwch yn gwneud unrhyw wahaniaeth o gwbl.
I ddangos nad ydw i'n ceisio gwneud pwynt pleidiol fan hyn, gadewch inni ddechrau gyda Chyngor Gwynedd nôl yn 2017. Yn yr etholiad yna, enillodd Plaid Cymru 55 y cant o'r seddi drwy dderbyn dim ond 39 y cant o'r bleidlais. Yn sir Fynwy, enillodd ein cyfaill Peter Fox a'r Torïaid 58 y cant o'r seddi gydag ond 46 y cant o'r bleidlais. Ac yma yng Nghaerdydd, enillodd Llafur 52 y cant o'r seddi gyda 39 y cant o'r bleidlais. Ac er mwyn i fi gynnwys pawb yn y Senedd yma, fe aeth y tair sedd yn y ward lle ces i fy ngeni, ym Mhen-y-lan yng Nghaerdydd, i’r Rhyddfrydwyr—pob un o'r seddi, ond dim ond 25 y cant o'r bleidlais.
Term sydd wedi ei drwytho ynom ni, y Cymry, yn ein ideoleg ni ac yn ein ieithwedd ni, yw 'chwarae teg'.