Part of the debate – Senedd Cymru am 3:33 pm ar 16 Chwefror 2022.
Fe fyddwch yn clywed pobl ddi-Gymraeg, wrth siarad Saesneg, yn defnyddio'r term 'chwarae teg'. Yn sicr, nid oes chwarae teg yn y system bresennol. Mae gennym bleidiau yng Nghymru heddiw sy’n ennill llai o lawer na hanner y bleidlais, ond sy’n ennill rheolaeth ar 100 y cant o’r weithrediaeth. Rwy’n hyderus fod pob Aelod o’r Senedd hon yn llawer mwy o ddemocrat nag unrhyw deyrngarwch pleidiol. Er mwyn i ddemocratiaeth ffynnu yng Nghymru, ac er mwyn ymgysylltu â phobl Cymru, mae angen iddi fod yn llawer mwy cynrychioliadol o'n cymunedau, a'u hadlewyrchu'n well.