Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 16 Chwefror 2022.
Mae’n gyd-ddigwyddiad rhyfedd iawn, os felly, Lywydd, cyd-ddigwyddiad rhyfedd iawn fod y ganran sy'n pleidleisio wedi gostwng yn ddramatig ar yr adeg honno.
O ran mynd i'r afael â seddi diymgeisydd, sy’n rhan bwysig o’r cynnig hyd y gwelaf, ac sy'n sicr yn rhywbeth y credaf fod angen mynd i’r afael ag ef, credaf mai fy mhryder mwyaf gyda’r cynnig heddiw yw ei fod yn ymddangos fel pe bai’n ceisio mynd i'r afael â'r symptom yn hytrach na'r achos. Mae’n rhaid inni ddeall pam y ceir seddi diymgeisydd yma yng Nghymru. Ni chredaf mai'r ffaith bod gennym system y cyntaf i'r felin sydd ar fai. Ai'r system sy'n atal pobl rhag sefyll etholiad? Nid wyf yn siŵr am hynny o gwbl. Pe cynhelid arolwg o bobl Cymru yn gofyn beth yw rôl y cyngor, rwy'n siŵr y byddai llawer o bethau yno lle nad yw pobl yn gwerthfawrogi'r hyn y mae'r cyngor yn ei wneud ac yn gallu ei wneud drostynt a thros eu cymunedau. Y cynghorau sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Ac os gallwn ysbrydoli pobl i fod eisiau sefyll a chynrychioli eu cymuned, dyna fydd yn atal seddi diymgeisydd. Felly, yn fy marn i, yn hytrach nag edrych ar system etholiadol gwbl newydd yng Nghymru, dylem ganolbwyntio ein hymdrechion ar annog pobl i sefyll a gwneud gwahaniaeth i'w cymuned—pobl o bob cefndir. Dylem sôn am y rôl y gall unigolion a etholir yn lleol ei chwarae yn rhedeg eu hysgolion, yn sicrhau bod y rheini sy'n fwyaf agored i niwed yn cael eu cefnogi a sicrhau bod gan bobl fynediad gwych at fannau agored hyfryd. Bydd ysbrydoli pobl i wneud gwahaniaeth yn eu cymuned yn lleihau nifer y seddi diymgeisydd.
Yn ogystal â hyn, rwy’n pryderu am rywfaint o’r gwrthddweud yn y cynnig heddiw, gan fod rhan o’r cynnig yn galw am system genedlaethol unffurf i ethol aelodau. Mae honno'n bodoli eisoes. Mae gennym system genedlaethol unffurf ar gyfer ethol cynghorwyr, sef system y cyntaf i'r felin. Mae pwynt 2 yn y cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n agos gyda chynghorwyr newydd a etholir ym mis Mai 2022. Mae hynny, wrth gwrs, yn hollbwysig er mwyn caniatáu i gynghorau gael y trafodaethau iawn gyda Llywodraeth Cymru, ac yn sicr, byddwn yn cefnogi’r ymgysylltu parhaus hwnnw. Fodd bynnag, mae’r cynnig yn sôn wedyn am sicrhau dull cynrychioliadol, a oedd braidd yn ddryslyd i mi, a dweud y gwir. Hoffwn ddeall sut nad yw ein dull etholiadol yn gynrychioliadol ar hyn o bryd. Mae ein system etholiadol yn caniatáu i bobl o bob cefndir sefyll etholiad yn eu ward leol ac yn ardal eu cyngor lleol. Yn ogystal â hyn, mae system bresennol y cyntaf i'r felin yn sicrhau atebolrwydd clir. Mae pobl yn gwybod dros bwy y maent yn pleidleisio. Gallai newid etholiadol atal pobl ymhellach rhag cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth leol. Rwy’n sicr yn cytuno bod angen gwneud mwy i sicrhau ein bod yn gweld pobl o bob cefndir mewn llywodraeth leol. Fodd bynnag, nid oes gan hyn unrhyw beth i'w wneud â'n system etholiadol. Yn hytrach, fel rwyf eisoes wedi'i nodi, mae angen inni sicrhau bod pobl yn ymwybodol o gyfrifoldeb gwirioneddol a rôl bwysig y cynghorau, a'r boddhad y gall cynrychioli eich cymuned leol ei gynnig.
I gloi, Lywydd, mae'r cynnig hwn yn ymdrin â symptomau yn hytrach nag achos rhai o’r heriau a welwn mewn democratiaeth leol. Nawr yw’r amser i ganolbwyntio ein holl ymdrechion ar sicrhau bod pobl yn ymwybodol o gyfrifoldeb a chyfleoedd cynghorau a’r gwaith ardderchog y maent yn ei wneud ac y gallant ei wneud. Felly, mae angen inni annog pob rhan o gymdeithas i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth leol a’r boddhad o gynrychioli eu cymunedau lleol. Yng ngoleuni hyn, Lywydd, ar yr ochrau hyn i’r meinciau, byddwn yn pleidleisio yn erbyn y cynnig hwn heddiw. Diolch yn fawr iawn.