5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Etholiadau Llywodraeth Leol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 16 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 3:35, 16 Chwefror 2022

Dwi'n falch bod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn galluogi system fwy cyfrannog i gael ei defnyddio mewn etholiadau lleol o fis Mai yma ymlaen. Ond mae angen arweiniad cenedlaethol arnom ni neu fe ddaw yr hen cliché diflas Saesneg, turkeys voting for Christmas i'r meddwl.