5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Etholiadau Llywodraeth Leol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:42 pm ar 16 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 3:42, 16 Chwefror 2022

Rydym ni'n aml yn clywed yn y lle hwn am y diffyg sy’n pleidleisio, ac mae apathi gwleidyddol yn amlwg yn ein gwlad. Mae Sam Rowlands yn aml yn sôn am y diffyg pobl sy'n pleidleisio yn etholiadau'r Senedd. Ond un ffordd o ddelio â hynny yw sicrhau bod democratiaeth Cymru yn cael ei hadlewyrchu llawer yn well yn ein llefydd grym ni.