Part of the debate – Senedd Cymru am 3:58 pm ar 16 Chwefror 2022.
Rydym wedi clywed llawer o ddadleuon, ond credaf fod angen inni fynd yn ôl. Cafodd pobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio yn etholiadau’r Senedd yn 2021 am y tro cyntaf, ac eleni, wrth gwrs, fydd y tro cyntaf y byddant yn gallu pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol. Os edrychwch ar y ffigurau, o'r 65,000 o bobl ifanc 16 i 17 oed a oedd yn gymwys i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd yn 2021, ychydig llai na'u hanner a gofrestrodd i bleidleisio, ac mae hynny’n hynod siomedig. Wrth gwrs, mae'n rhaid inni atgoffa ein hunain ein bod yn dal i fod, a'n bod bryd hynny, ynghanol pandemig byd-eang, a byddai hynny, wrth gwrs, wedi cael effaith ar nifer y bobl ifanc a gofrestrodd ac a bleidleisiodd wedi hynny. Yn ogystal, roedd cyfyngiadau ar waith a'i gwnaeth yn anos, yn ddealladwy, i ymgysylltu â phobl ifanc. Felly, credaf ei bod yn hanfodol ein bod yn gwneud popeth a allwn i annog pobl ifanc i gymryd rhan ac i bleidleisio yn yr etholiad penodol hwn, yr un cyntaf y mae ganddynt gyfle i i wneud hynny.
Credaf ei bod hefyd yn bwysig fod ein negeseuon yn glir iawn eu bod yn pleidleisio ar eu dyfodol eu hunain, a bod eu llais yr un mor bwysig â llais eu rhieni neu eu neiniau a'u teidiau. Dywedwyd yma heddiw eisoes fod llywodraeth leol yn rheoli cyllidebau gwerth miliynau o bunnoedd, ac mae hynny oll yn effeithio ar bobl ifanc yn uniongyrchol. Mae'n bwysig eu bod yn cael dweud eu barn ar sut y caiff y cyllidebau hynny a'r materion hynny eu blaenoriaethu ar lefel leol, ac yn anad dim, eu bod yn gallu cyfrannu at hynny drwy fynegi barn yn y blwch pleidleisio.
Rwyf am drafod y rhesymau pam nad yw pobl yn pleidleisio. Felly, yn dilyn etholiadau’r Senedd yn 2021, ysgrifennwyd adroddiad Prifysgol Nottingham Trent, ‘Making Votes-at-16 Work in Wales’, ac roedd yn awgrymu nifer o argymhellion i gynyddu cyfranogiad pobl ifanc, mewn etholiadau llywodraeth leol ac etholiadau’r Senedd. Ac un ohonynt oedd cael gwared ar y rhwystrau ymarferol i bleidleisio sy’n benodol i bleidleiswyr sydd newydd gael y bleidlais, a’i gwneud yn haws i’r bobl ifanc hynny bleidleisio. Er enghraifft, meddent, treialu cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig, osgoi trefnu etholiadau yn ystod cyfnodau arholiadau, a lleoli gorsafoedd pleidleisio mewn ysgolion neu golegau. Felly, rwy'n awyddus i wybod a yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi sylw i'r argymhellion penodol hynny.
Ond credaf ei bod yn bwysig crybwyll Bil Etholiadau Llywodraeth y DU 2021-22 hefyd, gan ein bod yn sôn am etholfreinio pobl, nid eu difreinio. Ac os yw'r Bil hwnnw'n llwyddo, byddant yn sicrhau bod yn rhaid i bobl gael cerdyn adnabod â llun er mwyn pleidleisio, ac mae'n mynd i 'helpu i gael gwared ar dwyll pleidleiswyr'. Wel, credaf fod hynny ychydig yn anghymesur o ystyried, o'r 58 miliwn o bobl a bleidleisiodd—58 miliwn—mai dim ond 33 o honiadau o bersonadu mewn gorsafoedd pleidleisio a gafwyd yn 2019. Ni allaf feddwl am enghraifft well o ddefnyddio morthwyl i dorri cneuen. Felly, ni fydd y Bil hwnnw’n berthnasol, wrth gwrs, yn yr etholiadau llywodraeth leol neu etholiadau’r Senedd, ond bydd yn berthnasol i Gymru yn yr etholiad cyffredinol nesaf.
Felly, rydym yn sôn yma heddiw am etholfreinio pobl. Mae angen inni edrych ar beth sy’n eu difreinio, ac rwy'n cytuno bod angen inni edrych ar y system bleidleisio. Ni fyddaf yn cefnogi'r cynnig heddiw gan fy mod am gael—[Torri ar draws.] Wel, rwyf am gael trafodaeth bellach yn ei gylch, ond hoffwn ddweud yn glir fy mod yn agored i’r trafodaethau pellach hynny, ac nid yw bob amser yn wir y bydd un system yn cynhyrchu canlyniad gwahanol. Ac mae’n wir fod rhai pobl yn teimlo eu bod wedi’u difreinio’n llwyr rhag sefyll, ac mae menywod yn brin, fel y mae pobl ifanc, mewn llywodraeth leol. Ac mae angen inni edrych ar y rhesymau am hynny.
Fel y gwyddoch, roeddwn yn gynghorydd yn sir Benfro, a fi oedd yr unig fenyw am y ddau dymor cyntaf—naw mlynedd—ym Mhreseli Sir Benfro. Ac rwy'n cofio curo ar y drws a dynes yn dweud wrthyf, 'Roeddwn yn aros i'r dyn alw', a dywedais wrthi, 'Wel, fi sydd gennych chi.' [Chwerthin.] A chefais lwyddiant mewn etholiad agos. Felly, gadewch inni newid y ddadl.