5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Etholiadau Llywodraeth Leol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 16 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 3:55, 16 Chwefror 2022

Fel y soniodd Rhys ab Owen wrth agor y ddadl hon, mi gefais brofiad o system fwy cyfrannol pan oeddwn i'n byw yn Iwerddon ac yn sefyll mewn etholiadau yno ar gyfer etholiadau swyddogion sabothol undeb myfyrwyr fy mhrifysgol a hefyd undeb myfyrwyr cenedlaethol Iwerddon. System STV oedd honno, oedd yn golygu bod yn rhaid ymgyrchu mewn modd hollol wahanol i sut rydym yn arfer ymgyrchu mewn system cyntaf i'r felin. Roedd yn rhaid gweithio'n galed am bob un bleidlais, ac nid dim ond y bleidlais gyntaf ond hefyd pob un arall ar ôl hynny. Mae hi'n arddull hollol wahanol o ymgyrchu ac yn gorfodi rhywun i fod llawer mwy cadarnhaol oherwydd mae'n rhaid ichi berswadio hyd yn oed pobl sydd ddim yn mynd i roi'r bleidlais gyntaf yna ichi eich bod chi'n haeddu'r ail.

Mewn system cyntaf i'r felin, yn aml—ac mae pob plaid yn euog o hyn—mae yna duedd i drio pwyso'r bobl i beidio â gwastraffu'r un bleidlais sydd ganddynt, gan geisio eu hannog neu eu dychryn i bleidleisio dros blaid sydd yn fwy tebygol o atal y blaid maen nhw'n anghytuno gyda fwyaf rhag cael eu hethol. Rydyn ni i gyd wedi gweld y posteri, 'Only the Lib Dems, Labour or Plaid Cymru can win here to keep the Tories out', er enghraifft. Mae pob plaid yn gwneud hyn. Rydyn ni i gyd wedi eu gweld nhw. Ac mae hyn, yn aml, yn gweithio, yn anffodus, neu'n golygu—a dyma'r pwynt pwysig—nad yw pobl yn trafferthu pleidleisio oherwydd dydyn nhw ddim yn gweld pwynt pleidleisio dros y blaid maen nhw'n teimlo'n agosaf ati. Maen nhw'n meddwl ei bod hi'n done deal a bod yna ddim diben pleidleisio. Ydy hyn yn ddemocrataidd? Nac ydy. Os ydym o ddifrif o ran creu democratiaeth sy'n fwy cynrychioliadol ac sy'n ysgogi pobl i fod eisiau pleidleisio ac yn gweld pwynt pleidleisio ac sydd eisiau sefyll i fod yn ymgeisyddion, yna byddai hyn yn gam enfawr ymlaen. A heb os, os yw am weithio, mae angen system genedlaethol unffurf fel bod cysondeb ledled y wlad. 

Mae cysondeb yn bwysig. Wedi'r cyfan, fe welsom anghysondeb mawr o ran y niferoedd o bobl ifanc oedd wedi cofrestru i bleidleisio yn etholiadau'r Senedd ym Mai 2021, yn amrywio o 68.6 y cant ym Mro Morgannwg i 31.73 y cant yn Abertawe, gan olygu nad oedd 54 y cant o bobl ifanc wedi pleidleisio. Anogaf fy nghyd-Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn heddiw am y rhesymau hyn. Dydy'r system bresennol ddim yn gweithio. Mae gennym ni gyfle i wneud system sy'n fwy cyfrannol, yn dod â mwy o bobl i mewn i'n gwleidyddiaeth ni ac yn gwneud i bobl fod eisiau pleidleisio. Diolch i Rhys am ddod â'r mater gerbron y Senedd.