5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Etholiadau Llywodraeth Leol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:37 pm ar 16 Chwefror 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 3:37, 16 Chwefror 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch eich bod eisoes yn darllen eich holl ymyriadau a baratowyd ymlaen llaw. Gadewch imi ateb: mae'r syniad hwn fod y ganran sy'n pleidleisio yn is mewn system gynrychiolaeth gyfrannol yn gwbl chwerthinllyd. Yn Awstralia, mae bron yn 100 y cant; yn Wcrain, mae dros 90 y cant; ym Malta, mae dros 90 y cant. Nid yw'r ganran sy'n pleidleisio yn gostwng ar ôl cyflwyno cynrychiolaeth gyfrannol.