Part of the debate – Senedd Cymru am 3:38 pm ar 16 Chwefror 2022.
Mae pleidleisio cyntaf i'r felin yn arwain at bleidleisio tactegol, ac mae hynny yn ei hanian yn beth gwael, yn beth niweidiol i ddemocratiaeth. Pleidleisio i gadw rhywun mas, yn hytrach na phleidleisio dros bwy maen nhw wirioneddol ei eisiau. Pleidleisio dros blaid sy'n fwy yn aml, yn hytrach na phleidleisio dros blaid maen nhw'n wirioneddol eisiau ei chefnogi, fel y Gwyrddion er enghraifft.